Beth wyt ti'n edrych am?
Barry Manilow
Dyddiad(au)
14 Meh 2026
Amseroedd
19:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ar ôl ei bymtheg cyngerdd yn y London Palladium, bydd yr eicon cerddoriaeth Barry Manilow, sydd wedi ennill gwobrau Grammy, Tony ac Emmy, yn dychwelyd i’r DU ar gyfer ei Last Last Concerts yn Glasgow, Leeds, Lerpwl, Caerdydd, Birmingham a Llundain.
Mewn ymateb i ymholiadau’r cyfryngau, rhyddhaodd Manilow y datganiad canlynol:
O DDESG BARRY MANILOW
Rwy’n addo, rwy’n ADDO yr oeddwn i o ddifri pan ddwedais i hwyl fawr wrth bawb yn y DU ar noson olaf ein rhediad arbennig yn neuadd wych y London Palladium.
Roedd y cynulleidfaoedd yno’n anhygoel fel arfer ac roedd y noson honno’n emosiynol iawn, gan wybod na
fyddwn yn gweld fy ffrindiau yn y DU rhagor.
Roedd yn rhyfedd yn hedfan adref oherwydd nad oeddwn i’n flinedig. Roedd fy llais wedi aros yn gryf trwy gydol y rhediad cyfan ac roedd pob sioe’n fwy cyffrous na’r un ddiwethaf. Doeddwn i ddim hyd yn oed allan o anadl ar ddiwedd pob sioe.
Ond dwi’n meddwl bod “eu gadael yn eisiau mwy” yn rheol dda i’w dilyn. Wedi’r cyfan, rwy’n 100 mlwydd oed ac unrhyw ddiwrnod nawr mae’n debyg y bydda i’n colli fy ngwallt, yn magu bola mawr a bydd angen ffon arna i er mwyn dawnsio i “Copacabana”.
Ond, fel mae pethau ar hyn o bryd, rwy’n dal i allu rhedeg o gwmpas y llwyfan, rwy’n dal i daro’r F Naturiol uchel ar ddiwedd
“Even Now” ac rwy’n dal i edrych yn wych!
Ond fe ddwedais i hwyl fawr ac roeddwn i’n ei olygu.
I raddau.
Dim ond un peth oedd. Dw i ddim eisiau dweud hwyl fawr!
Felly rydyn ni’n dod yn ôl.
Rydyn ni’n mynd i gynnal cyngerdd Barri Manilow mawr!
Gobeithio y byddwch chi i gyd yn dod. Byddwn yn cael noson i’w chofio!
Cariad,
Barri