Beth wyt ti'n edrych am?
Gabby’s Dollhouse Live!
Dyddiad(au)
03 Mai 2026
Amseroedd
Gweler isod am amseroedd
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae DreamWorks Animation, Universal Destinations & Experiences, TEG Life Like Touring a TEG Live Europe yn falch iawn o gyhoeddi tymor cyntaf GABBY’S DOLLHOUSE LIVE! i agor ddiwedd mis Mawrth 2026.
Bydd hyn yn nodi ymddangosiad byw cyntaf ar lwyfan yn y DU ar gyfer GABBY’S DOLLHOUSE LIVE!, yn seiliedig ar y gyfres cyn-ysgol gan DreamWorks Animation sy’n hynod lwyddiannus ledled y byd. Erbyn hyn y gyfres cyfryngau cymysg boblogaidd yw’r sioe blant fwyaf poblogaidd ar Netflix, ac mae’n dilyn anturiaethau difyr Gabby wrth iddi dynnu syrpreis newydd sbon o focs ym mhob pennod cyn neidio i fyd ffantastig sy’n llawn cymeriadau cathod annwyl sy’n byw y tu mewn i’w thŷ doliau hudolus.
Yn y sioe gerdd newydd gath-tastig hon, mae Gabby yn tynnu mesen arbennig o focs sydd angen cyffyrddiad hudol enfys i dyfu. Ond pan fydd CatRat yn achosi cat-astroffi lliw ac yn torri’r enfys, rhaid i Gabby a’r Gabby Cats ddod o hyd i’r lliwiau eto i osod pethau’n iawn.