Beth wyt ti'n edrych am?
Sunny Afternoon
Dyddiad(au)
26 Mai 2026 - 30 Mai 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yn dilyn dwy flynedd ryfeddol yn y West End a thaith gyntaf syfrdanol ledled y DU ac Iwerddon, mae’r sioe gerdd newydd wych a enillodd wobr Olivier, sy’n dilyn uchafbwyntiau gorfoleddus ac isafbwyntiau arteithiol The Kinks, ‘nôl!
Mae Sunny Afternoon yn dathlu egni crai, angerdd a sain ddiamser un o fandiau mwyaf eiconig Prydain, gan adrodd eu stori drwy gatalog anhygoel o ganeuon a gyrhaeddodd brif y siartiau, gan gynnwys You Really Got Me, Lola, ac All Day and All of the Night.
Wedi’i osod ym Mhrydain yn ystod y 60au gwrthryfelgar, mae Sunny Afternoon yn ddathliad bywiog ac emosiynol o gerddoriaeth, bywyd a’r band a newidiodd popeth.