Beth wyt ti'n edrych am?
Boyzlife (Keith Duffy a Brian McFadden)
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yn perfformio pob un o ganeuon mwyaf poblogaidd Boyzone a Westlife.
Mae Boyzlife, sy’n cynnwys Keith Duffy o Boyzone a Brian McFadden o Westlife, yn dathlu’r caneuon eiconig gan y ddau grŵp arwyddocaol o’r 90au/00au, a werthodd gyfanswm o 55 miliwn o recordiau ac sydd â 21+ o senglau #1 rhyngthyn nhw.
Yn ystod y sioe bydd y ddeuawd yn ailymweld yn hiraethus â’u gorffennol mewn bandiau bechgyn wrth iddyn nhw berfformio cymysgedd o ganeuon o’u dau grŵp unigol, gan gynnwys y canlynol gan Boyzone: I Love The Way You Love Me, All That I Need, No Matter What a’r canlynol gan Westlife: My Love, I Lay My Love On You, Uptown Girl.
Gyda degawdau o ganeuon ar frig y siartiau, mae hon yn noson na ellir ei cholli o hiraeth a pherffeithrwydd pop.