Pwytho Llais

Dyddiad(au)

21 Maw 2026 - 01 Gorff 2026

Amseroedd

10:30 - 16:30

Lleoliad

Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Arddangosfa gan Bethan M. Hughes

Mae Pwytho Llais yn archwilio sut mae pwyth yn creu llais ar gyfer mynegiant, hunaniaeth, a democratiaeth. Mae’n annog cynulleidfaoedd i ystyried ymgyrchu, deisebu, etholfraint, yr hawl i bleidleisio, ac effaith pleidleisio.

Mae’r gwaith yn myfyrio ar rym y bleidlais unigol a breuder democratiaeth ei hunan. Mae’n archwilio’r marc ‘X’ symbolaidd rydyn ni’n ei ddefnyddio fel mynegiant cadarnhaol a negyddol, gan ganolbwyntio ar y marc rydyn ni’n ei osod wrth bleidleisio ac yn symbol o gusan, a’i botensial ar gyfer mynegiant creadigol.

Mae gwaith Bethan wedi’i wreiddio yn etifeddiaeth gyfoethog cynlluniau cwiltiau traddodiadol Cymru. Mae’n gyfrwng cyfoes ar gyfer sgyrsiau ynglŷn â’n dyfodol. Mae ei chwiltiau wedi eu gweadeddu’n ddwys gyda thrwch o bwythau cwiltio, marcio byrfyfyr a chydosod gyda phalet lliw cyfyngedig trawiadol. Mae’r casgliad yn cynnwys cwiltiau un-darn a darnau gosodwaith mwy wedi’u creu o filoedd o gwiltiau bychain.

Mae ymarfer cyfranogol yn ffactor allweddol yn natblygiad ei gwaith ac mae hi’n ymwneud yn gyson â phobl o bob oed a gallu er mwyn canfod ac archwilio themâu sy’n ei swyno.

Cafodd Pwytho Llais ei arddangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, y ganolfan genedlaethol ar gyfer y celfyddydau cymhwysol.