Beth wyt ti'n edrych am?
Haf yn y Senedd | Summer at the Senedd
Dyddiad(au)
18 Gorff 2026 - 31 Awst 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae’r Senedd ar agor saith diwrnod yr wythnos o 18 Gorffennaf i 31 Awst. Dewch draw i fwynhau arddangosfeydd a gweithgareddau creadigol sy’n addas i deuluoedd am ddim, gan gynnwys plethu papur, braslunio Bae Caerdydd, a mwy. Caiff yr holl ddeunyddiau eu darparu—dim angen archebu ymlaen llaw.
Cymerwch ran yn her Dod o Hyd i Fflam—os dewch chi o hyd i Fflam y ddraig yn cuddio o amgylch y Senedd, gallwch ennill sticer arbennig a hyd yn oed brynu tegan Fflam yn siop y Senedd i hedfan adref gyda chi.
Dewch i weld gwaith gan Jack Sullivan: Artist y Dociau yn y Pierhead, arddangosfa a grëwyd gan Tiger Bay and the World. Dyma gyfle i weld y bobl a’r lleoedd drwy lygaid Artist o’r Dociau.
O 1 Awst, dewch i ymweld â’r Seremonïol Dinesig, sef arddangosfa chwareus o gerfluniau gwiail gan y gwneuthurwr basgedi Lewis Prosser. Dysgwch fwy am fyrllysg y Senedd a rhowch gynnig ar ddylunio eich eitem seremonïol eich hun.
Gyda man chwarae croesawgar, caffi, a ffrwythau am ddim, mae’r Senedd yn lle perffaith i dreulio amser ym Mae Caerdydd yr haf hwn.