Plethu ratl helyg gyda'r basgedwr Lewis Prosser

Dyddiad(au)

22 Awst 2026

Lleoliad

Y Senedd, Bae Caerdydd

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Cyfle i blethu eich ratl helyg eich hun! Yn y gweithdy gam wrth gam hwn dan ofal y basgedwr, Lewis Prosser, byddwch chi’n gwneud eich ratl helyg eich hun ichi ei gadw.

Amser: sesiwn 1 – 11:00 to 13:00; sesiwn 2 – 14:00 to 16.00

Mae ratls ymysg y teclynnau hynaf yn y byd ar gyfer gwneud sŵn. Maen nhw wedi cael eu defnyddio mewn gorymdeithiau carnifal, perfformiadau cerddorol, defodau ysbrydol ac fel teganau plant trwy gydol hanes dynolryw. Yn y gweithdy hwn, cewch ddysgu plethu helyg lleol i wneud ratl llaw, yn barod i’w ddefnyddio yng ngorymdaith Carnifal Trebiwt y penwythnos canlynol.

– Am ddim. Rhaid archebu lle (dim mwy na 10 lle ym mhob sesiwn)

– Mae’r gweithdy’n addas i bobl 16 oed a hŷn yn unig

– Darperir yr holl ddeunyddiau

– Caiff y sesiynau eu cyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg

Noder: Dwy sesiwn fydd yn cael eu cynnal ar y diwrnod. Dewiswch yr amser sydd orau gennych chi o’r opsiynau archebu isod. Rhaid archebu tocyn ar wahân i bob person sydd am gymryd rhan yn y sesiwn.