Neidio i'r prif gynnwys

O gyris i cebabs, paella i poutine, a tacos i tapas, fe welwch eich hoff flasau i gyd ar y Street Food Piazza eleni! Felly, galwch i mewn i’n pop-ups blasus ac os ydych chi’n cael eich pryd neu’n rhoi cynnig ar rywbeth newydd, ni fydd eich blasbwyntiau’n gwybod beth sy’n eu taro.

ORIAU MASNACHU:
Dydd Gwener 12:00 – 22:00
Dydd Sadwrn 11:00 – 22:00
Dydd Sul 11:00 – 19:00

STONDINWYR

Mac a Chaws Gourmet Mac Daddies

Mac a Chaws arbennig gyda thopins anhygoel fel cigoedd wedi’u tynnu’n boeth, tryffl ac aur – gan ddefnyddio marinadau a sawsiau cartref.

The Mighty Soft Shell Crab

Cranc cregyn meddal gyda chytew tempwra, saws tshili melys, crème fraiche ar dortila meddal gyda dail tymhorol.

Pimentos Bar and Grill

Bwyd Caribïaidd gan gynnwys cyw iâr jerk, cyri dafad, stiw cyw iâr, cyri cyw iâr, cyri tatws melys, reis a phys.

The Dough Thrower

Pizzas coed tân artisan

Le Coq Buttermilk Fried Chicken

Cyw iâr wedi’i ffrio â llaeth menyn ar ffurf byrgyrs, wrapiau, bocs a chôn. Mae’r cyfan yn dod â sglodion a saladau.

Purple Poppadom

Chaat Samosa, Cyw iâr a Sglodion wedi’u ffrio Kerala, winwns Bhaji, Sglodion Bombay a Saws Thousand Island, Tikka Masala Cyw Iâr, Chana Masala

Smokin' Griddle

Dewiswch o Sbeislyd, Nodweddiadol, Dim ond Caws neu Fyrgyrs Cig Eidion Clasurol gyda sglodion cartref â’r croen dal arnynt.

Taste of Persia

Cebabs wedi’u paratoi’n ffres, stiwiau Persiaidd a weinir gyda reis saffrwm, Ffalaffyl, Baclafa a danteithion Persiaidd.

Lilo's Handmade Pasta

Prydau pasta cartref ffres poeth a pheli mac a chaws cartref wedi’u ffrio’n ddwfn.

Keralan Karavan

Blasau traddodiadol De India gyda thro modern gan gynnwys The Raj Burger a Frankies Wrap.

The Welsh Creperie

Crepes a chrempogau Ffrengig wedi’u coginio’n ffres o flaen cwsmeriaid.

Bao Selecta

Gua Bao – Bynsen bao yn llawn o fol porc wedi’i frwysio, picl mwstard gwyrdd, powdr cnau daear a pherlysiau ffres.

Wingstack

Adenydd cyw iâr â blas, byrgyrs cyw iâr, wrapiau, adenydd blodfresych fegan, sglodion a byrgyrs blodfresych fegan.

Meat and Greek

Souvlaki, powlenni salad, sglodion Kleftiko cig oen wedi’u llwytho, sglodion Halwmi, Ffeta a Sglodion Oregano.

Paella & Chorizo

Paella cig, amrywiaeth o dapas a sudd oren wedi’i wasgu’n ffres.

GWYBODAETH BWYSIG

  • Dim ond alcohol a brynir o fariau’r digwyddiad y gellir ei yfed ar y safle.  Ni ellir yfed alcohol ar y safle a brynwyd o Ffair y Cynhyrchwyr, Marchnad y Ffermwyr neu oddi ar y safle.
  • Nodwch na chaniateir cŵn ac anifeiliaid eraill ar y safle (ac eithrio cŵn tywys a chŵn cymorth ar dennyn, gyda manylion adnabod).
  • Mae gan bob cynhyrchydd ac arlwywr sy’n mynychu’r ŵyl sgôr Asiantaeth Safonau Bwyd gyfredol o 4 neu 5.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.