Beth wyt ti'n edrych am?
Cadwch lygad allan am y stondinau masnachu. Mae amrywiaeth o sefydliadau yn ymuno â ni yng Ngŵyl Bwyd a Diod Caerdydd, o weithgareddau codi arian i’r cyfle i ennill gwobrau!
ORIAU:
Dydd Gwener 12:00 – 21:00
Dydd Sadwrn 11:00 – 21:00
Dydd Sul 11:00 – 19:00

Mae Castell Caerdydd yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru. Bu unwaith yn gaer Rufeinig, yn gadarnle Normanaidd ac yn gampwaith Gothig Fictoraidd, mae muriau a thyrau tylwyth teg Castell Caerdydd yn cuddio 2,000 mlynedd o hanes. Dewch o hyd iddynt yng Ngŵyl Bwyd a Diod Caerdydd i ddysgu mwy am y Castell a’r mannau y tu mewn iddo, cardiau rhodd ac Allwedd y Castell.
Hefyd, bydd Croeso Caerdydd yn ymuno â stondin Castell Caerdydd – felly dewch i ddysgu popeth sydd angen i chi ei wybod am ymweld â phrifddinas Cymru ac am aros ynddi.

Ni yw’r RNLI – yr elusen sy’n achub bywydau ar y môr. Mae ein codwyr arian wyneb yn wyneb yn helpu i godi arian hanfodol, trwy ysbrydoli cefnogwyr newydd i gyfrannu at ein hachos. Mae hyn yn ei dro yn helpu ein criwiau badau achub a’n hachubwyr bywyd i achub pawb y gallant. Byddant hefyd yn rhannu cyngor a fydd yn helpu pobl i gadw’n ddiogel yn ac wrth y dŵr. Mae bywydau wedi cael eu hachub diolch i gyngor a roddwyd gan godwyr arian wyneb yn wyneb yr RNLI!

Shwmae, Maethu Cymru Caerdydd ydyn ni a byddwn yn mynychu Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd. Os hoffech chi gael gwybod am faethu, dewch i gael sgwrs â ni. Gallwn eich siarad drwy’r broses o faethu, chwalu’r mythau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd gennym daflenni a nwyddau i chi hefyd. Edrychwn ymlaen at eich gweld!

Yn llawn bywyd gwyllt a hanes, mae Ynys Echni yn rhyfeddod Cymreig unigryw, wedi’i leoli bum milltir oddi ar arfordir Caerdydd. Gem gudd ddiddorol, gyda golygfeydd arfordirol godidog, yn cynnwys nodweddion naturiol a diwylliannol, o laswelltir morwrol a barics Fictoraidd i gytrefi adar môr a bynceri adeg rhyfel.
Ymunwch â ni yn ein stondin a rhannu eich straeon am #YnysEchni, chwarae gêm trysor smyglwyr, neu fynd ar daith rithwir i’r ynys gyda’n gogls Realiti Rhithwir.

Breast Cancer Now yw’r elusen canser y fron fwyaf yn y DU. Rydym yn credu, os byddwn i gyd yn gweithredu nawr, erbyn 2050, y bydd pawb sy’n datblygu canser y fron yn byw, ac yn byw’n dda. Dewch o hyd i Breast Cancer Now yng Ngŵyl Bwyd a Diod Caerdydd a siaradwch â nhw am eu gwasanaethau cymorth a’u hymchwil arloesol.

Dogs Trust yw’r elusen lles cŵn fwyaf yn y DU. Rydym yn addo peidio byth â gwaredu ci iach. Rydym yn gofalu am oddeutu 14,000 o gŵn coll ac y cefnwyd arnynt bob blwyddyn trwy ein rhwydwaith o 21 o ganolfannau ailgartrefu. Yn anffodus, mae rhai o’r cŵn hyn wedi cael dechrau arbennig o wael mewn bywyd ac efallai y bydd angen ychydig o help ychwanegol arnynt, ond byddwn yno nes iddynt ddod o hyd i’w cartref am byth. Drwy noddi un o’r cŵn hyn, gallwch helpu Dogs Trust i roi i’r cŵn hyn yr holl gariad a gofal y maent yn eu haeddu.