Beth wyt ti'n edrych am?
BETH ALLECH CHI EI ENNILL?
Mae gan Croeso Caerdydd a’i bartneriaid gystadleuaeth Nadolig hudol i chi a’ch teulu!
Bydd yr enillydd yn cael diwrnod Nadoligaidd cyffrous a lle arbennig mewn bwth i wylio Santa’s Wish yng Ngŵyl y Nadolig yng Ngerddi Sophia, tocynnau sglefrio iâ yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd a phryd o fwyd ysblennydd ym mwyty Canol y Ddinas.
Mae hon yn wobr i ddau o bobl, o ddydd Sul 17 Rhagfyr, felly gwnewch yn siŵr y gallwch chi ddod i Gaerdydd ar y dyddiadau hynny.
Darllenwch isod i gael rhagor o fanylion am y wobr wych hon ac ymgeisiwch ar waelod y dudalen…

SANTA’S WISH YN Y SPIEGELTENT
Eisteddwch yn gyfforddus yn eich bwth chi’ch hun a mwynhewch yr antur gerddorol dwymgalon i’r teulu Santa’s Wish. Gyda chaneuon gwreiddiol, stori swynol ac ychydig bach o hud a lledrith y syrcas, bydd yn sicr o lenwi’r teulu cyfan gyda llawenydd a miri’r ŵyl.
Mewn lleoliad hardd, ysblennydd a hyfryd, sef y Fortuna Spiegeltent ar diroedd Gerddi Sophia, mae’r perfformiad hwn yn brofiad i beidio â’i fethu sy’n addas i bob oed.

PRYD O FWYD I’R TEULU YN FRANCO MANCA
Cinio Nadolig blasus yng ngwesty Canol y Ddinas Franco Manca. Bydd gyda nhw flasau clasurol y Nadolig fel ein cwrs i ddechrau, fonduta tri chaws, pizza gydag eog wedi’i gochi a mascarpone, sifys a lemon, a danteithion newydd sbon!
O fadarch porcini moethus, melynwy ac olew ffwng y moch, i gig oen wedi’i rwygo a cavolo nero, neu flas y pridd yn y betws, broccoli a’r ffa gwrydd, mae rhwybeth i bawb.

SGLEFRIO IÂ YNG NGŴYL Y GAEAF CAERDYDD
Mwynhewch docynnau sglefrio iâ i’r teulu ar dir Castell Caerdydd hyfryd gyda’r Gorthwr Normanaidd yn gefndir iddo. Mae’r llawr sglefrio dan do 40m x 15m, gyda Llwybr Iâ 150m, yn addas i bob oed a gallu. Eisiau bwyd? Mae llawer i’w fwyta, o dortilas pwdin Efrog mawr i falws melys wedi’u tostio, a digon o opsiynau eraill y tu mewn i furiau’r Castell.
TELERAU AC AMODAU
Y Gystadleuaeth
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn y raffl.
- Dim ond unwaith y caiff pob cystadleuydd gofrestru.
- Rhaid i gystadleuwyr nodi eu manylion drwy’r dudalen we hon erbyn 23:59GMT ddydd Iau 30 Tachwedd 2023.
- Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap a bydd yn cael gwybod ddydd Gwener, 01 Rhagfyr 2023, dros y ffôn ac e-bost.
- Bydd gan yr enillydd tan 14:30GMT ddydd Llun, 04 Rhagfyr i dderbyn y wobr neu bydd enillydd arall yn cael ei ddewis.
- Mae’r gystadleuaeth am ddim a does dim cost i gystadlu.
- Bydd telerau ac amodau raffl y wobr hon yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr.
- Mae’r hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau hyn os bydd amgylchiadau’n codi y tu hwnt i’w reolaeth.
- Nid yw Croeso Caerdydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled, anaf neu siom a ddioddefir gan ymgeiswyr o ganlyniad i naill ai cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
- Mae ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth i’r hyrwyddwr a dim ond i weinyddu’r gystadleuaeth y bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio.
- Bydd cyfenw a lleoliad enillydd y wobr yn y DU ar gael drwy e-bostio o fewn mis o ddiwedd y raffl.
- Yr hyrwyddwr yw Croeso Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW.
- Ystyrir y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y raffl wedi derbyn y telerau ac amodau hyn.
- Y Wobr
- Mae’r wobr yn cynnwys pryd o fwyd yn Franco Manca, tocynnau teulu i’r Llawr Sglefrio yn Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd a thocynnau i weld Santa’s Wish yng Ngerddi Sophia.
- Bydd pob elfen o’r wobr yn cael ei darparu ar gyfer teulu o bedwar, rhaid i o leiaf un person fod yn blentyn o dan 16 oed.
- Rhaid i bob elfen o’r wobr gael ei ddefnyddio ar y dyddiadau / amseroedd a nodir (gweler isod), yn amodol ar argaeledd.
- Nid oes modd trosglwyddo’r wobr hon ac ni ellir ei chyfnewid am arian na’i throsglwyddo i rywun arall.
- Ni chaniateir defnyddio’r wobr ar y cyd ag unrhyw gynnig arall.
- Bydd gwybodaeth yr enillydd yn cael ei darparu i’r partneriaid a enwir uchod a dim ond i weinyddu’r wobr y bydd yn cael ei defnyddio.
- Pryd o fwyd i deulu o 4 yn Franco Manca.
- Dydd Sul 17 Rhagfyr.
- GŴYL Y GAEAF CAERDYDD
- Tocynnau sglefrio iâ i deulu o 4 yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd.
- Dydd Sul 17 Rhagfyr.
- Tocynnau sglefrio iâ i deulu o 4 yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd.
- Dydd Sul 17 Rhagfyr.
- Tocynnau i deulu o 4 i weld Santa’s Wish yn yr Ŵyl Nadolig yng Nghastell Caerdydd, gyda seddi arbennig.
- Dydd Sul, 17 Rhagfyr 2023 am 5pm.