Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl Nadolig yn y Spiegeltent: Santa’s Wish

Dyddiad(au)

01 Rhag 2023 - 24 Rhag 2023

Lleoliad

Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9XR

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

GWYL NADOLIGAIDD YN Y SPIEGELTENT

Mae Gŵyl Nadolig Caerdydd yn atyniad adloniant trawiadol newydd sy’n cael ei lwyfannu y tu fewn i leoliad unigryw ar dir Gerddi Sophia. Yn atyniad unigryw arall ar gyfer Tymor Nadolig Caerdydd, bydd pedair sioe anhygoel yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Byddant yn cael eu perfformio o fewn cylch, yn y Spiegeltent, sydd â 570 o seddi, a byddant yn mynd ag ymwelwyr ar daith hudolus ac atgofus.

BETH YW SPIEGELENT?

Spiegeltent Ewropeaidd (neu ddrychau hud) yw’r cabaret a’r salon cerddoriaeth eithaf. Mae’n bafiliwn wedi’i naddu â llaw a ddefnyddiwyd fel neuadd ddawns deithiol, salon adloniant Bohemaidd a phabell blasu gwin ers diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Roeddent yn arfer bod yn brif atyniad yn ffeiriau hwyl Gwlad Belg.

Mae’r babell wedi’i hadeiladu o bren, drychau wedi’u torri, cynfas, gwydr plwm, a manylir arno mewn brocêd melfed. Mae pob un yn unigryw gyda’i enw, personoliaeth ac arddull ei hun. Dim ond llond llaw o’r pebyll arbennig a chwedlonol hyn sydd ar ôl yn y byd ac mae The Fortuna, sy’n eiddo i’r cwmni Iseldiraidd Van Rosmalen, yn un o’r rhai harddaf, yn gartref i rai o berfformwyr a cherddorion gorau’r byd.

GŴYL Y NADOLIG: SANTA’S WISH – SIOE GERDD HUDOLUS NEWYDD

“Ar noson oer o aeaf wrth iddi wawrio, fe ddechreuodd fwrw eira… a ganwyd Pluen Eira…”

Mae Pluen Eira y corrach hudol mewn cyfyng gyngor.  Mae sled Siôn Corn wedi dryllio ac ni ellir ei weld yn unman.

Fyddwch chi’n gallu helpu i ddod o hyd i Siôn Corn?

All Pluen Eira y Corrach greu cynllun i gael Siôn Corn adref mewn pryd ac achub y Nadolig?

Ydy’r ateb yn y Jariau Dymuniad Hudol?

Ydych chi wir yn Credu?

Mae’r antur gerddorol deuluol hon sy’n cynhesu’r galon, wedi’i chyfoethogi â chaneuon gwreiddiol, straeon y gallwch ymgolli ynddynt a hud y syrcas, yn sicr o adael y teulu cyfan yn byrlymu â llawenydd a hapusrwydd y Nadolig.

Wedi’i berfformio yn y Fortuna Spiegeltent hardd ac addurnedig yn nhiroedd hanesyddol Castell Caerdydd, dyma’r profiad Nadolig na allwch ei fethu ac mae’n addas ar gyfer pobl o bob oed.

Cynhelir perfformiad cyntaf erioed y sioe gerdd newydd hon ar 2 Rhagfyr, a bydd y sioe yn rhedeg am dymor cyfyngedig tan 24 Rhagfyr (mae Siôn Corn yn ddyn prysur iawn ac mae’n rhaid iddo fod adref erbyn Noswyl Nadolig).

Credwch, bydd y hud yn dod yn wir!

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.