Beth wyt ti'n edrych am?
Parc Hwyl i'r Teulu ym Mae Caerdydd
Dyddiad(au)
20 Gorff 2024 - 26 Awst 2024
Amseroedd
11:00 - 20:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae ‘na hwyl fawr i’r teulu cyfan ym Mae Caerdydd yr haf hwn…
Mae Parc Hwyl i’r Teulu Bae Caerdydd yn dychwelyd, yn barod i ddiddanu plant o bob oed am y gwyliau haf cyfan!
Bydd cyfres gyffrous o atyniadau ffair ac adloniant i’r teulu yn llenwi Roald Dahl Plass yng nghanol Bae Caerdydd – rhwng Cei’r Fôr-Forwyn a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Bydd y rheiny sy’n hoffi gwefr yn dod o hyd i’w ffefrynnau i gyd, fel y Ceir Taro, Tŷ Hwyl, Y Trên Gwyllt, Cerddwyr Dŵr, a’r Storm Fôr, tra gall plant iau fwynhau rhai ychydig yn arafach. Gall y teulu cyfan roi cynnig ar y stondinau niferus gyda chyfle i ennill teganau meddal enfawr.
Pan mae’n amser am saib, eisteddwch ar gyfer y rhaglen lawn o adloniant i’r teulu. Gallwch ddisgwyl sioeau hud cyffrous, canu gyda thywysoges, cyfarfod cymeriadau, a mwy.
Os oes angen lluniaeth arnoch, yn barod am fwy o hwyl, cofiwch roi cynnig ar y dewis o ddanteithion tecawê melys a sawrus sydd ar gael.
ATYNIADAU’R FFAIR:
- Ceir Taro
- Storm Fôr
- Carwsél
- Ceddwyr Dŵr
- Y Trên Gwyllt
- Tŷ Hwyl
- Trampolinau bynji
- Taith Balŵn
- Reidiau i’r plant
- Stondinau Gemau i’r Teulu
BWYD Y PARC HWYL:
- Byrgyrs, Cŵn Poeth a Sglodion Llwythog
- Toesenni, Toes Cwci a Hufen Iâ
- Crepes
- Conau Eira
MWY O WYBODAETH:
- Gall yr oriau agor newid oherwydd amgylchiadau annisgwyl fel tywydd eithafol.
- Mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ar y safle ond rhaid eu cadw ar dennyn bob amser.
- Ni chaniateir unrhyw alcohol ar y safle.
- Derbynnir cardiau ac arian parod mewn atyniadau unigol yn y digwyddiad.