Beth wyt ti'n edrych am?
Camwch i mewn i hanes yn Sain Ffagan
Dyddiad(au)
01 Awst 2026 - 31 Awst 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Camwch yn ôl mewn amser yn Sain Ffagan yr haf hwn wrth i chi alw heibio i’ch hoff adeiladau i weld a oes unrhyw un gartref.
Bydd gwesteion arbennig yn yr adeiladau hanesyddol o amgylch Lawnt Gwalia. Â phwy fyddwch chi’n cwrdd?
Gweler eitemau unigryw o gasgliad Amgueddfa Cymru gan gynnwys cerbydau a chertiau.
Ymunwch â ni wrth i ni deithio yn ôl mewn amser ym mis Awst.