Beth wyt ti'n edrych am?
Welsh National Opera | Blaze of Glory!
Dyddiad(au)
01 Ebr 2026 - 17 Ebr 2026
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Cymru, cloddio glo a chanu corawl
Byddwch yn barod am antur egniol a chalonogol yn Blaze of Glory! – stori ddyrchafol wedi’i osod yng Nghymoedd De Cymru yn y 1950au. Ar ôl trychineb cloddio, mae grŵp bach o lowyr yn mynd ar antur gerddorol drwy ffurfio Côr Meibion er mwyn codi calonnau – a’r to – wedi trychineb gloddio. Dan arweiniad eu Meistr Corws arwrol a chefnogaeth y merched cryf sy’n sefyll ochr yn ochr â nhw, mae’r dynion yn mynd ar antur gerddorol: yn herwgipio iodlwr, yn cymryd rhan mewn trafodaethau hanesyddol ar draws yr Iwerydd gyda Paul Robeson ac yn arwain y ffordd i’r Eisteddfodau a thu hwnt.
Mae Blaze of Glory! yn ddathliad o Wlad y Gân ac yn cydnabod y gall ysbryd cymunedol oresgyn adfyd. Cewch glywed alawon traddodiadol o Gymru ynghyd â synau a cappella o’r 1950au, opereta, gospel a band mawr, wrth i’n band gwrol o gerddorion lindi hopian eu ffordd at ogoniant. Ymunwch â’n dynion mewn blasers, am berfformiad i godi calon ac i godi gwên.