Neidio i'r prif gynnwys

Welsh National Opera | Chwarae Opera YN FYW Llongddrylliad!

Dyddiad(au)

18 Ebr 2026

Amseroedd

15:00 - 16:00

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Hwyliwch ar y moroedd dyfnion yn ein sioe deuluol ryngweithiol

Ahoi, fy nghyfeillion! Mae’r hwyliau i fyny ac mae Chwarae Opera YN FYW yn ôl – ond y tro hwn rydym wedi ein llongddryllio!

Mae ein capten dewr, Tom Redmond yn sownd ar ynys ddiffaith, ond nid ydym yn poeni’n ormodol gan ei fod yng nghwmni gwych ei griw, sef Cerddorfa a chantorion ffydlon WNO. Gyda’n gilydd, byddwn yn eich cyflwyno i amryw o offerynnau’r gerddorfa, ynghyd â’r alawon y fydd yn eich tywys ar daith yng nghwmni ein cantorion talentog drwy ganeuon, straeon ac wrth gwrs, y gerddoriaeth wych o’r llwyfan a’r sgrîn, ein ffefrynnau i’w perfformio!

Mae’r sioe ryngweithiol ac addysgiadol hon sy’n addas i’r teulu cyfan yn gyflwyniad perffaith i fyd anhygoel opera a cherddoriaeth glasurol. Bydd y naws ymlaciol yn eich galluogi i ymgolli’n llwyr yn y gerddoriaeth, y stori a’r ddrama wrth i ni fentro dros y tonnau a dod a Tom â’i griw yn ôl i dir sych.

Nid dyma yw diwedd yr antur! Cyn i chi fynd ar HMS WNO, ymunwch â ni yn y cyntedd i brofi hud cefn llwyfan opera yn ystod ein gweithgareddau cyn y sioe, o 1pm. Dewch i weld ein gwisgoedd, gwneud eich propiau eich hun a phrofi eich sgiliau mewn gorsafoedd goleuo a sain. Os nad yw hynny’n ddigon, mae yna helfa drysor – ond, gwnewch yn siŵr eich bod yn darganfod y trysor cyn y môr-ladron drygionus!