LLYFRGELL GANOLOG CAERDYDD

Adeiladwyd Llyfrgell Ganolog Caerdydd i fod yn un o'r adeiladau mwyaf cynaliadwy yng Nghaerdydd, gan sicrhau'r graddau uchaf ar gyfer datblygu cynaliadwy, gwasanaethau ynni a dŵr effeithlon.

GWEFAN

ORIAU AGOR

Llun - Maw

09:00 - 17:00

Mer

10:00 - 18:00

Iau

10:00 - 19:00

Gwe - Sad

09:00 - 17:00

Sul

AR GAU

Mae’n cynnig Wi-Fi am ddim ar draws yr adeilad a mannau astudio ar bob llawr. Mae pedair ystafell ar gael i’w llogi yn yr adeilad:

Mae gan yr Ystafell Gyfarfod sydd wedi’i lleoli ar Lefel 4 yr adeilad deledu cyflwyno sgrin gyffwrdd 75”, trefniadau eistedd hyblyg, y gallu i gynnal galwadau cynhadledd a thaflunydd LCD. Mae hwn yn lle delfrydol ar gyfer cyfarfodydd busnes neu ar gyfer seminarau a chyflwyniadau preifat gyda lle i hyd at o 35 o bobl.

Mae gan yr Ystafell Cynnwys Tenantiaid ar Lefel 4 daflunydd a seddi hyblyg ac mae’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd neu weithgareddau bach ar gyfer hyd at 10 o bobl.

Mae gan yr Ystafell Peter Cronin ar Lefel 5 daflunydd laser, seddi hyblyg a golygfa ysblennydd o’r ddinas. Mae’r gofod hwn yn berffaith ar gyfer cyflwyniadau mwy, gweithgareddau grŵp, seminarau ac fel lle creadigol i hyd at 36 o bobl.

Mae’r Ystafell TGCh ar Lefel 5 yn cynnig 10 cyfrifiadur bwrdd gwaith, sgrin gyflwyno, a thaflunydd. Mae’r gofod hwn yn darparu’n dda ar gyfer grwpiau llai o hyd at 20 person, neu ar gyfer cyflwyniadau mwy personol a rhyngweithiol.