Gallwch gael tacsi yn hawdd o flaen y safle tacsis ar Lôn Y Felin. Fe ddylech weld Cerbydau Hacni du â boned gwyn a golau to ar y safle.
Mae cost taith yn dechrau o £2.50, gyda thaliadau ychwanegol bach rhwng 12am-6am neu ar gyfer mwy na 5 teithiwr. Fel amcangyfrif, gallai taith o 1.5 milltir gostio £6.50, gallai taith o 3.5 milltir gostio £11 a gallai taith o 5.5 milltir gostio £15.50.
Efallai y bydd disgwyl i chi dalu arian parod, ond gallwch weld y gost ar y mesurydd. Gallwch weld yr union gostau uchaf yma.