Neidio i'r prif gynnwys

TEITHIWCH MEWN STEIL YNG NGHAERDYDD

Os ydych chi’n bwriadu archebu neu fflagio tacsi pan fyddwch chi’n ymweld â’n prifddinas, yna dyma’r canllaw perffaith i chi.

Mae amrywiaeth eang o weithredwyr tacsis yn gwasanaethu Caerdydd, ac mae nifer o’r cwmnïau mwyaf ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, gydag ystod o fflyd i weddu i nifer amrywiol o deithwyr a gwahanol anghenion hygyrchedd.

Os ydych chi’n hoff o apiau yna mae app Dragon Taxis yn cadw i fyny â’r mawrion ym maes technoleg tacsis, fel Uber a Addison Lee. Os ydych chi’n chwilio am fath gwahanol o fusnes tacsis, rhowch gynnig ar Gwmni Tacsis Cydweithredol Drive. Neu trowch at un o’r nifer fawr o gwmnïau sefydledig fel Premier Taxis a Capital Cabs i gyrraedd eich cyrchfan.

Os hoffech gael gwybod am y ffyrdd niferus eraill sydd ar gael o deithio yng Nghaerdydd, cymerwch olwg ar ein canllaw teithio o gwmpas.

PRISIAU

Ar safle tacsis, fe ddylech weld Cerbydau Hacni du â boned gwyn a golau to.

Mae cost taith yn dechrau o £2.50, gyda thaliadau ychwanegol bach rhwng 12am-6am neu ar gyfer mwy na 5 teithiwr. Fel amcangyfrif, gallai taith o 1.5 milltir gostio £6.50, gallai taith o 3.5 milltir gostio £11 a gallai taith o 5.5 milltir gostio £15.50.

Efallai y bydd disgwyl i chi dalu arian parod, ond gallwch weld y gost ar y mesurydd. Gallwch weld yr union gostau uchaf yma.

Os byddwch chi’n archebu tacsi ymlaen llaw, yna gallai prisiau amrywio, ond bydd rhai gweithredwyr apiau yn dangos y pris ymlaen llaw i chi. Os byddwch chi’n ffonio am dacsi, gallwch ofyn i’r gweithredwr am amcangyfrif o’r pris.

AWGRYM OLAF

Gallwch ddefnyddio ein mapiau i gynllunio eich teithiau o amgylch y ddinas.