Neidio i'r prif gynnwys

BAR A BWYTY THOMAS

Mae Bar a Bwyty Thomas yn Future Inn Caerdydd ac yn gweini bwyd Prydeinig, yn ogystal â bwyd Cymreig cyfoes a thraddodiadol.

OPENING HOURS

Llun - Gwe

06:30 - 22:00

Sad - Sul

07:30 - 22:00

Mae’r bwyty bach a chroesawgar yn nghanol Bae Caerdydd ar agor i’r cyhoedd yn ogystal â phreswylwyr y gwesty ar gyfer brecwast, cinio, te prynhawn, a-la-carte gyda’r nos a chinio rhost dydd Sul.

Mae Bwyty Thomas yn Future Inn Caerdydd ac yn gweini bwyd Prydeinig, yn ogystal â bwyd Cymreig cyfoes a thraddodiadol. Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig y prydau gorau sy’n tynnu dŵr o’r dannedd trwy ddefnyddio cynhyrchion lleol a ffres.

Mae gan y bwyty enw da ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer dathliad teuluol, cwrdd â ffrindiau, cyfarfod cleientiaid neu bryd o fwyd tawel i ddau.

Cyflwynir ein bwyd mewn modd hamddenol ac anffurfiol a chaiff ei weini trwy’r dydd, bob dydd. Mae ystod eang o gwrw, lager a gwin ar gael – y mae’r mwyafrif helaeth ohonyn nhw ar gael i’w prynu fesul gwydraid neu botel. Yn naturiol, mae dewis da o ddiodydd ysgafn hefyd, gan gynnwys sudd ffrwythau ffres, te, coffi a siocled poeth.

Mae ein holl brydau yn cael eu gwneud gartref ar y safle.  Rydym yn defnyddio cynnyrch lleol a ffres i roi gwir Flas o Gymru i chi.

TERAS HAUL AWYR AGORED YM MAR A BWYTY THOMAS

Ymlaciwch yn yr awyr agored gyda diod braf, o’n bar sydd wedi’i stocio’n dda, yn ystod misoedd yr haf ar y teras haul mawr.

Mae ystod eang o gwrw, lager a gwin ar gael – y mae’r mwyafrif helaeth ohonyn nhw ar gael i’w prynu fesul gwydraid neu botel. Dewiswch eich ffefryn neu rhowch gynnig ar un o’n creadigaethau o’r ddewislen coctels, sydd i gyd yn £7 yr un.  Mae dewis braf o ddiodydd ysgafn a sudd hefyd.

Mae croeso i chi hefyd fwynhau eich brecwast, brecinio, cinio, te prynhawn, cinio dydd Sul neu bryd gyda’r nos yma hefyd.

CYFARWYDDIADAU

Ffôn

029 2048 7111‎

E-bost

thomas@futureinns.co.uk

Cyfeiriad

Hemingway Road, Cardiff CF10 4AU