Neidio i'r prif gynnwys

Helpodd Y Pierhead Gymru i greu ei hunaniaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg; heddiw ei nod yw hysbysu ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd.

ORIAU AGOR

Llun - Gwener

09:00 - 16:30

Sadwrn a Gwyliau Ban

10:30 - 16:30

Ceir mynediad hyd at 16:00

Mae'r adeilad ar agor cyn ac ar ôl yr amseroedd agor arferol i ymwelwyr sy'n dod i wylio'r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgor a busnes arall y Senedd.

The Pierhead The Pierhead The Pierhead The Pierhead

Mae’r Pierhead yn lleoliad unigryw i ymwelwyr, digwyddiadau a chynadledda i bobl Cymru; lle i fynegi barn a rhoi llais i faterion sy’n bwysig.

Yn adeilad rhestredig Gradd Un hanesyddol, roedd y Pierhead ar un adeg yn ganolbwynt masnach yng Nghymru. Mae’r adeilad mawreddog hwn wedi sefyll yn falch dros 113 mlynedd o hanes unigryw ac amrywiol Bae Caerdydd.

Beth yw’r adeilad?

Helpodd y Pierhead Gymru i greu ei hunaniaeth trwy ddŵr a thân ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg; ei nod heddiw yw hysbysu, cynnwys ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd i greu Cymru ar gyfer y dyfodol.

Mae’n lleoliad digwyddiadau a chynadleddau i ategu gwaith y Cynulliad. Mae hefyd yn arddangosfa gyffwrdd ysgafn i lywio, cynnwys ac ysbrydoli ymwelwyr i’r Pierhead.

Ar gyfer beth y defnyddiwyd y Pierhead yn wreiddiol?

Adeiladwyd y Pierhead fel swyddfeydd i Gwmni Dociau Bute, a ailenwyd yn Gwmni Rheilffordd Caerdydd ym 1897. Cymerodd bron i dair blynedd i’w adeiladu. Roedd ei arddull gothig yn nodweddiadol iawn ac yn boblogaidd ar y pryd.

GWYBODAETH I YMWELWYR

Hygyrchedd

Mae modd defnyddio’r lifftiau yn yr adeilad ac mae seddi ar gael yn yr holl fannau gyhoeddus.

CYRRAEDD Y PIERHEAD

Yn y Car

Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Bae Caerdydd, ar gyfer SatNav defnyddiwch god post Cf10 4PZ.

Parcio

Y maes parcio agosaf yw Maes Parcio Cei'r For Forwyn (CF10 5BS) neu Q-Park Bae Caerdydd (CF10 4PH).

Ar y Trên

Yr orsaf reilffordd agosaf yw Bae Caerdydd.

Ar Fws

Yr orsaf fysiau agosaf yw Canolfan y Mileniwm.

CYSYLLTWCH Â'R PIERHEAD

Ffôn

0300 200 6565

E-bost

cysylltu@senedd.cymru

Cyfeiriad

Stryd y Lanfa, Bae Caerdydd CF10 4PZ