Neidio i'r prif gynnwys

BLAS AR GAERDYDD

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at y dydd pan allwn ni unwaith eto fwynhau’r bwytai, y caffis a’r teithiau bwyd gwych yng Nghaerdydd, ond tan hynny fe allwch chi ddal i goginio bwyd o ansawdd da gartref gyda mymryn o help gan Croeso Caerdydd.

Rydym wedi cael 4 rysait i roi blas i chi o Gaerdydd yn y cartref. Mae gennym ni ‘kotthu llysieuol’ gan un o drigolion mwyaf diweddar Caerdydd, The Coconut Tree. Mae gennym hefyd rysáit ar gyfer ‘bisgedi ceirch’ gan un o’r bobl fwyaf gwybodus am fwyd a chynnyrch lleol o Gymru, gweithredwyr teithiau Bwyd Caerdydd, Loving Welsh Food. Mae’r Vegetarian Emporium Clancy, sy’n gweithio ym marchnad Caerdydd, wedi anfon rysáit atom ar gyfer chilli ffa du sy’n tynnu dŵr i’r dannedd. Mae’r Brass Beetle, y bwyty a bar annibynnol sy’n adnabyddus am eu cyfuniadau blas unigryw a’u pizza tân pren wedi rhoi rysáit i ni ar gyfer ‘adenydd cyw iâr satay’ gludiog.

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd, gallwch gefnogi eich cynhyrchwyr a chyflenwyr annibynnol lleol, drwy archebu eich cynhwysion o stondinau ym Marchnad Caerdydd. Cewch weld yr amseroedd agor ac opsiynau danfon yma.

Felly byddwch yn greadigol, coginiwch, a phrofi golygfeydd, arogleuon a blasau sîn fwyd hyfryd Caerdydd o gartref.

 

 

Kotthu Llysiau The Coconut Tree

Gwybodaeth am The Coconut Tree 

Mae The Coconut Tree yn dod â bwyd stryd Sri Lancaidd i Lôn y Felin, Caerdydd.  Mwynhewch gynhesrwydd lletygarwch a bwyd o Sri Lanca, yn cael ei weini ‘fel y mae’n dod’.   Mae eu prydau’n llawn perlysiau Seilón gyda’r ryseitiau o geginau eu rhieni eu hunain sy’n mynd yn ôl sawl cenhedlaeth.  Mae’n lle gwych i ddod â grŵp neu fachu bwrdd ar gyfer dau a sbwylio’ch hun gyda’u coctels botanegol, eu cyrfau a’u gwinoedd cain.

 

Cynhwysion 

Olew Cnau Coco

Winwnsyn Coch wedi’u Sleisio’n Fân

Pinsiaid o Halen

Fflochiau Tsilis Cymysg

Pupur Du wedi’i Falu

2 Wy Buarth

150g Roti wedi’i Sleisio

25g Moron wedi’u Sleisio’n Denau

25g o Gennin wedi’u Sleisio’n Denau

 

Rysáit

Cynheswch woc nes ei fod yn boeth. Ychwanegwch yr olew cnau coco a chwyrlïwch y woc nes bod yr olew yn gorchuddio’r gwaelod.

Ychwanegwch y winwnsyn, yr halen, y tshilis, y pupur du, a’r wyau.

Cymysgwch a choginio nes bod yr wyau wedi sgramblo ychydig, yna ychwanegwch y roti, y moron a’r cennin.

Trowch y badell yn gyflym ar wres uchel am sawl munud, nes bod y llysiau wedi’u coginio ond yn dal yn grenshlyd.

Tynnwch oddi ar y gwres a’i weini ar unwaith.

 

 

Bisgedi Ceirch Loving Welsh Food

Gwybodaeth am Loving Welsh Food

Mae Loving Welsh Food yn cynnig sesiwn Sgwrsio a Blasu Bwyd Cymreig i grwpiau lle rydych yn siarad am fwydydd Cymreig, treftadaeth bwyd Cymreig, a ryseitiau traddodiadol a chyfoes Cymru. Mae’r sgwrs yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau blasu sy’n cynnwys y bisgedi hyn. Mae Siân, sy’n cynnal y teithiau hefyd yn sôn am ei gwaith yn hyrwyddo bwyd Cymreig o amgylch y byd.

Cynhwysion

225g ceirch mân

50g blawd plaen

30g siwgr mân euraid

3 llond llwy fwrdd o laeth

75g menyn dihalen

Hanner llond llwy de o bowdr codi

Chwarter llond llwy de o hufen tartar

Hanner llond llwy de o halen

Rysáit

Cynheswch y ffwrn i 190C/375F/marc nwy 5

Rhowch y ceirch mewn powlen Ychwanegwch y blawd, y siwgr mân euraid, y powdwr pobi, yr hufen tartar a’r halen. Cymysgwch y cynhwysion ynghyd, ychwanegwch y menyn a’i rwbio i mewn nes bod y cymysgedd yn debyg i friwsion bara.  Ychwanegwch y llaeth a’i gymysgu i gyfuno popeth i greu toes.

Rholiwch y cymysgedd nes ei fod tua 5mm o drwch.  Torrwch ef yn rowndiau a’u rhoi ar dun pobi wedi’i iro. 

Coginiwch mewn ffwrn gynnes ar 190C/375F/marc nwy 5 am 20 munud. Trosglwyddwch nhw i dun i oeri.

Gallwch eu mwynhau gyda jam, marmalêd, mêl – neu unrhyw fath o gaws – Cymreig wrth gwrs!

 

 

Chilli ffa du fegan Clancy

Ynghylch Clancy

Mae Clancy’s Vegetarian Emporium, sydd ym marchnad Caerdydd, yn fusnes teuluol gwych sy’n gwerthu pob math o sbeisys a pherlysiau, yn ogystal â bwyd blasus, sawrus wedi’i baratoi yn ffres a phrydau llysieuol a byrbrydau. Ar hyn o bryd, gallwch archebu cynhwysion at eich drws gan Clancy. Darllenwch ragor yma.

 Cynhwysion

Sbeisys o becyn tsili Mecsicanaidd

1 tun ffa du

1 tun o domatos wedi’u torri’n fân

1 winwnsyn

1 pupur coch

100g madarch

125ml stoc llysiau 

Rysáit

Torrwch yr winwnsyn a’i ffrïo yn feddal. (Rydyn ni’n hoffi defnyddio olew sesame neu olewau cnau ond cewch ddefnyddio unrhyw olew yr hoffech).

Torrwch y pupur a’i ychwanegu at y winwns wedi’u meddalu.  Ffrïwch am ychydig funudau.

Torrwch y madarch a’u hychwanegu at y gymysgedd.

Ychwanegwch y sbeisys!

1/2 llwyaid de o bowdr chipotle.

Pinsiad o naddion habanero (dyma’r tsili poethaf yn y pecyn felly ychwanegwch y rhain yn ôl eich dymuniad chi.)

1/2 llwyaid de o tsili mulato dowedi ei dorri. Cadwch y gweddill.

1/2 llwyaid de yr un o bowdwr epazote, garlleg ac winwns.

1 llwyaid de yr un o baprica wedi’i fygu, powdwr cacao, hadau cwmin ac oregano Mecsicanaidd.

Torrwch ddarn o achiote tua maint pen eich bys bach yn fân a’i ychwanegu.

Ychwanegwch lwyaid de o stoc llysiau ac ychwanegu halen a phupur.

Ffrïwch am ychydig funudau eto, gan droi’n dda i orchuddio’r llysiau.

Ychwanegwch y tomatos a throwch y gymysgedd gan sicrhau nad yw’r sbeisys yn sownd i waelod y pot. 

Yn olaf, ychwanegwch eich ffa a’u mudferwi am hanner awr (hirach os nad ydych chi ar fryd), gan droi’n achlysurol.

I gael mwy o ddyfnder blas, ychwanegwch lwy de o rin burum os dymunwch.

 

 

Adenydd Cyw Iâr Satay The Brass Beetle

(Cig a Fegan)

Gwybodaeth am The Brass Beetle

Mae The Brass Beetle, sydd ar Whitchurch Road, yn far a bwyty bywiog, 

hamddenol a chroesawgar. Mae wedi ei addurno’n chwaethus ac yn gosmopolitan, ac mae’r gegin agored yn ychwanegu ymdeimlad o ddrama a hwyl. Mae eu cogyddion yn ymroddedig i ddefnyddio cyfuniadau blasau ffres, unigryw ac arloesol a gellir dweud yr un peth am eu coctels a’u diodydd blasus wrth y bar. Mae’r holl syniadau coginio yn cael eu creu gan eu tîm talentog sy’n darparu ar gyfer pob gofyniad dietegol. Credwn fod y Beetle yn lle gwych i gwrdd â ffrindiau ac aelodau’r teulu ac yn sicr edrychwn ymlaen yn eiddgar at adeg pan allwn ni ymweld ag e eto.

 

Cynhwysion

Ar gyfer yr adenydd

1kg o Adenydd Cyw Iâr neu 1 Flodfresychen

4 Llond Llwy Fwrdd o Fwstard Dijon

1 Llond Llwy Fwrdd o Baprica wedi’i Fygu

1 Llond Llwy Fwrdd o Bowdr Garlleg

1 Llond Llwy Fwrdd o Bowdr Winwns

1 Llond Llwy Fwrdd o Bupur Du

1 Llond Llwy Fwrdd o Halen

1 Llond Llwy Fwrdd o Goriander Mâl

300g Blawd Plaen

 

Ar gyfer y saws

1 Winwnsyn Coch

1 Bwnsiad o Shibwns

1 Bỳlb Garlleg

1 Talp o Sinsir

3 Llond Llwy Fwrdd o Fenyn Cnau Daear

3 Llond Llwy Fwrdd o Saws Soi Tywyll

2 Llond Llwy Fwrdd o Siwgr Brown

1 Tshili (yn gwbl ddibynnol ar ba mor sbeislyd rydych chi’n ei hoffi!)

300ml Dŵr

1 Llond Llwy Fwrdd o Halen

2 Lond Llwy Fwrdd o Bupur Du

 

Rysáit

Yr Adenydd

Rhowch gyllell finiog yn barod! Bydd angen i chi dorri blaen yr adain a’i daflu. Yng nghanol yr adain, byddwch yn teimlo’r cymal sy’n dal yr adain a’r goes ynghyd. Gyda thoriad pendant, gwahanwch nhw, gan ailadrodd y broses gyda phob adain a’u storio mewn bowlen. (Cofiwch olchi eich dwylo!)

Ar gyfer y flodfresychen, torrwch hi’n fflurynnau (term ffansi ar gyfer ei thorri’n dameidiau) a berwi’r rhain yn rhannol am 10 munud. Dylen nhw fod yn dyner heb droi’n stwnsh! Draeniwch nhw, gadewch iddyn nhw oeria’u storio mewn powlen. 

Mae’r broses marinadu’r un peth ar gyfer y darnau blodfresych â’r cyw iâr. Ychwanegwch y mwstard Dijon (mae’n dda wrth glymu blasau) a’r holl sbeisys. Os bydd yn teimlo ychydig yn sych, rhowch sblash o olew i’w lacio. Rhowch eich dwylo ynddo a gorchuddiwch bob rhan gyda’r marinâd, yna rhowch ‘cling film’ drosto a’i adael yn yr oergell am awr. 

 

Y Saws

Defnyddiwch sosban weddol ei maint ac ychwanegu diferyn o olew. Torrwch y winwnsyn coch a’r shibwns yn fras (byddan nhw’n cael eu blitso beth bynnag) a’u coginio ar wres isel nes bod yn feddal. Dydyn ni ddim eisiau eu brownio. Nesaf, ychwanegwch y sinsir (peidiwch â phoeni am dynnu’r croen), y garlleg (tynnwch y croen oddi ar hwnnw) a’r tshilis, yna coginiwch am 5 munud arall.

Nawr ychwanegwch y menyn cnau daear a choginio nes iddo ddechrau llacio. Byddwch yn ei weld yn dechrau gorchuddio popeth. Yna ychwanegwch weddill y cynhwysion (dŵr, saws soi a siwgr). Dewch â’r cyfan i fudferwi ac yn raddol, bydd yn dechrau tewychu. Coginiwch am 10 munud, yna tynnwch o’r gwres i oeri.

Nesaf, pan fydd y cymysgedd wedi oeri, rhowch ef mewn blender (neu byddai un llaw yn gwneud y tro) a blitso hyn nes cyrraedd cysondeb saws hyfryd. Ychwanegwch ychydig o ddŵr os bydd yn teimlo’n rhy drwchus.

 

Ffrio a Gosod

Tynnwch y cyw iâr neu’r blodfresych o’r oergell. (Yn achos y cyw iâr, bydd rhaid gadael iddo ddod i dymheredd yr ystafell.) Ychwanegwch y blawd a chymysgu’r cyfan ynghyd. Os ydych chi eisiau blas cryfach, ychwanegwch ychydig mwy o’r sbeisys gwnaethon ni eu rhoi ynddo’n gynharach. Rhowch y cyfan ar dun pobi gan daenu popeth allan. Ychwanegwch fwy o flawd os yw rhai smotiau’n teimlo braidd yn ludiog, a gadewch iddynt sychu am tua 10 munud.

Gallwch naill ai ffrio’r adenydd yn ddwfn neu’n fas. Bydd angen eu coginio ar dymheredd o 180 gradd. Os nad oes thermomedr gennych, ysgeintiwch ychydig o flawd yn y badell. Os yw’n ffrio, mae’r tymheredd wedi cyrraedd lefel dderbyniol. Rhowch y cyw iâr neu’r blodfresych yn yr olew. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn mewn sypiau, gan y bydd gwneud gormod ar unwaith yn gollwng y tymheredd ac ni fyddwch yn cael y gaenen grimp mae ei hangen arnoch. Coginiwch yr adenydd cyw iâr am 12 munud nes bod y tymheredd mewnol yn cyrraedd dros 75 gradd. Ar gyfer y darnau blodfresych, oherwydd eu bod wedi cael eu berwi’n rhannol, gallwch chi eu ffrio nes eu bod yn grimp braf.

Rhowch ar bapur cegin i ddraenio’r olew dros ben, a’u taflu i bowlen lân. Ychwanegwch y saws satay – chi sy’n gallu dewis faint o saws rydych yn ei roi. Yna trowch a throsi’r cyfan. Mwynhewch eich adenydd sawrus crenshlyd. Gallwch ychwanegu hadau sesame, tshilis ffres neu shibwns fel addurniad hyfryd.