Neidio i'r prif gynnwys

THE COCONUT TREE

Profwch ffrwydrad o flasau yn eu llysiau, cigoedd a physgod ynghyd â Chocotêls melys a thanllyd.... coginio fegan a llysieuol toreithiog naturiol.

ORIAU AGOR

BAR

Sul - Mer

12:00 - 23:00

Iau

12:00 - 00:00

Gwe - Sad

12:00 - 01:00

CEGIN

Sul - Iau

12:00 - 22:00

Gwe - Sad

12:00 - 23:00

The Coconut Tree The Coconut Tree The Coconut Tree The Coconut Tree

Mae’r Coconut Tree yn dod â bwyd stryd Sri Lancaidd i Lôn y Felin, Caerdydd.

Mwynhewch gynhesrwydd lletygarwch a bwyd o Sri Lanca, yn cael ei weini ‘fel y mae’n dod’.  Mae eu prydau yn llawn o berlysiau o Ceylon gyda’r ryseitiau’n mynd yn ôl sawl cenhedlaeth o geginau eu rhieni. Rhowch gynnig ar brydau Hopper, Kotthu a rhai wedi’u briwlio mewn pupur. Cymysgwch y rhain gyda rhai o’u prydau tapas niferus, cyris, coginio ffres mewn wok,  gyda phrydau wedi’u hysbrydoli gan yr Iseldiroedd a Tsieina – oll yn rhan o dreftadaeth bwyd cyfoethog yr ynys.  Dyma gyfle i ddifetha’ch hun gyda’u cocotêls botanegol, cwrw a gwinoedd da.     Mae’n lle gwych i ddod gyda chriw neu i fachu bord i ddau. Mae’n lle poblogaidd gyda grwpiau a phobl sy’n dathlu gyda rhestrau chwarae heb eu hail. Cofiwch archebu lle i beidio cael eich siomi.

  • Peidiwch â disgwyl napcyn…. rholyn o bapur cegin gewch chi!
  • Ond gallwch ddisgwyl ffrwydrad o sawrau yn eu prydau bwyd a’u cocotêls melys a thanllyd
  • Gallwch ddisgwyl cannwyll mewn hanner cneuen goco
  • Peidiwch â disgwyl bil bwyd enfawr… ond gallwch ddisgwyl sbwylio’ch hun gyda diodydd
  • Gallwch ddisgwyl llwyth o gig, pysgod a llysiau
  • Gallwch ddisgwyl croeso cynnes Sri Lancaidd
  • Peidiwch â disgwyl tawelwch am hir..

Un o ddywediadau’r Coconut Tree am eich oedran, dewis o fwyd a phris yw: ‘Mae Croeso i Bawb wrth y Bwrdd’

Ar Fws

Mae'r arhosfan bysiau agosaf ar Canal Street (Stop JF) - gwasanaethau Bws Caerdydd 1, 2 a 502

Ar y Trên

Yr orsaf reilffordd agosaf yw Caerdydd Canolog.

Ffôn

029 2034 3266

E-bost

cardiff@thecoconut-tree.com

Cyfeiriad

The Coconut Tree, 10 Mill Lane, Cardiff, CF10 1FL