Neidio i'r prif gynnwys

Portread Enfawr O Tom Jones Wedi'i Greu Yng Nghastell Caerdydd Ar Gyfer Ei Benblwydd Yn 80 Oed

Mae’r artist o Gymru, Nathan Wyburn, yn dathlu penblwydd Syr Tom Jones yn 80 oed drwy ddadorchuddio portread awyr agored ENFAWR ar dir Castell Caerdydd.

“Roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi wneud rhywbeth i ddathlu penblwydd mawr Syr Tom, felly meddyliais beth am greu rhywbeth ENFAWR! Wedi fy ysbrydoli gan ei gân Green, Green Grass Of Home, cefais ganiatâd gan Gastell Caerdydd i dalu’r teyrnged.

Cymerodd hi bron i 8 awr i mi gwblhau, 12 bag o bridd ac mae’n mesur 17 metr o hyd!”

“Rwy’n dwlu ar greu celf sy’n gwneud sylwadau ac yn adlewyrchu’r amser, yn aml yn gwneud darnau datganiad yn ogystal â rhai llawen, hwyliog hefyd. Gyda phenblwydd enfawr fel hyn, a bod yn fachgen balch o’r cymoedd fy hun, allwn i ddim colli’r cyfle. Dwi wedi cyflwyno celf i bobl fel Y Foneddiges Shirley Bassey, Catherine Zeta Jones, Kelly Jones a Michael Sheen… ond mae Syr Tom yn dal ar fy rhestr ddymuniadau… efallai un diwrnod ga’i gwrdd â’r dyn.”

“Mae llawer o fy ngwaith yn ddarfodus, sy’n rhywbeth dwi wedi gorfod dod i arfer ag ef dros y blynyddoedd. Yn aml yn defnyddio bwyd, deunyddiau ailgylchu ac ati a nawr wrth gwrs bydd Mam Natur yn tynnu’r darn yma hefyd. Ond mae hwnna’n gyffrous i fi – mae’r fideo o’i greu yn gweithredu fel darn o berfformiad ac mae’n byw yn y cof a lluniau.”

“Yn amlwg, byddai’r syniad wedi bod yn berffaith i’w greu yn ei dref enedigol ym Mhontypridd, ond oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 presennol dwi ddim yn gallu teithio o Gaerdydd yno. Fodd bynnag, mae tiroedd y castell yn eiconig ledled y byd, felly rwy’n mawr obeithio y bydd hyn yn ddathliad nid yn unig ar fy rhan fy hun, ond ar ran Cymru gyfan.”

“Syr Tom i fi, yw eicon eithaf Cymru. Lle bynnag dwi’n mynd yn y byd, pan dwi’n dweud mod i’n dod o Gymru, yr ymateb yw “o fel Tom Jones!” A dwi’n dwlu ar hynny! Am etifeddiaeth.”