Beth wyt ti'n edrych am?


BYWYD MYFYRWYR
HELO A CHROESO I GAERDYDD!
P'un a ydi eich lle wedi'i gadarnhau, neu os ydych chi'n dal i ystyried ble fydd eich cam nesaf, mae Caerdydd yn brifddinas glyd, byrlymus sy'n croesawu cymuned fawr o fyfyrwyr sylfaen, israddedig, ôl-raddedig a doethuriaeth. Mae llawer yn digwydd yng Nghaerdydd ond mae’n ddinas gryno, sy’n hawdd mynd o’i chwmpas a theimlo'n gartrefol ynddi.
PRIFYSGOLION A CHOLEGAU
Mae Caerdydd yn falch o fod yn gartref i 6 o brifysgolion, conservatoires a cholegau o fri, gyda’i gilydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, campysau a phrofiadau – dewch o hyd i’r bywyd myfyriwr i chi yng Nghaerdydd.
Prifysgol Caerdydd
Mae prifysgol fwyaf Cymru ymhlith y 200 uchaf yn y byd, yn ôl cynghrair y QS World University Rankings (2022).
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae 'Met Caerdydd' yn safle #7 yn 100 uchaf Uni Compare 2021.
Prifysgol De Cymru
Mae gan ail brifysgol fwyaf Cymru adeilad pwrpasol yng nghanol Caerdydd.
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Un o'r Conservatoires mwyaf adnabyddus ac uchel ei fri yn y DU.
Coleg Caerdydd a’r Fro
Gyda phum campws ar draws y ddinas, gan gynnwys y campws canolog blaenllaw newydd gwerth £45m.
Prifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant
Y Drindod sy’n rhedeg Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru o'u canolfan addysgu yng Nghaerdydd.
BETH SY' 'MLAEN YNG NGHAERDYDD?
GADEWCH I NI EICH DIDDANU
EIN LLEOLIADAU ADLONIANT
Dewch i adnabod eich cyd-letywyr a’ch dinas newydd drwy roi cynnig ar rai gweithgareddau gyda’ch gilydd.
PETHAU I’W GWNEUD
GWEITHGAREDDAU YN Y DDINAS
ALLWEDDI I'R CASTELL
Unwaith y byddwch yn gwneud Caerdydd yn gartref am yr ychydig flynyddoedd nesaf, gallwch gael allwedd Castell, sy'n rhoi mynediad diderfyn i chi i Gastell Caerdydd am ddim ond £7 am dair blynedd. Mynnwch eich un chi o swyddfa docynnau'r Castell, dim ond cyflwynwch brawf o breswyliad yng Nghaerdydd.
BWYTEWCH, YFWCH A BYDDWCH LAWEN
TAFARNDAI, BARIAU A BWYTAI
PROFWCH Y BYWYD NOS
CRWYDRO EIN CYMDOGAETHAU
FROM THE BLOG
CADWCH MEWN CYSYLLTIAD
Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.