Neidio i'r prif gynnwys

O Safbwynt Pencampwr!

Mae Teithiau Stadiwm Principality yn ailddechrau gyda rhywbeth newydd: Cylch y Anrhydedd y Pencampwyr (Champions lap of Honour) gyda chyfle unigryw i weld Tlws Guinness Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r Goron Driphlyg.

Mae teithiau’n dechrau o 29 Mai ond gallwch eu harchebu ar-lein o 10am ddydd Mercher 19 Mai ar wefan Stadiwm Principality www.principalitystadium.wales/tours.

Bydd taith y Pencampwyr yn dangos y stadiwm o safbwynt newydd i gefnogwyr wrth iddynt fynd i mewn i’r stadiwm drwy Gât 3 a chael profiad o wneud lap llawn cyntaf erioed o amgylch powlen y stadiwm a gweld pob y 74,500 sedd yn y stadiwm, cael golwg ar lefel llygaid ar y cae nchwarae a strwythur enfawr cymhleth y to 800 tunnell.  At hynny, bydd tywyswyr teithiau gwybodus Stadiwm Principality yn rhannu ffeithiau difyr ar hanes digwyddiadau’r stadiwm, o ymrysonau bocsio o’r radd flaenaf i gyngherddau roc a rôl mawreddog fel y Rolling Stones ac U2.

Ymwelwyr ar y daith fydd yr aelodau cyntaf o’r cyhoedd a ganiateir yn ôl i’r stadiwm ers 14 mis yn dilyn gohirio Cymru yn erbyn Yr Alban yn ystod pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2020 ac ar ôl ennill y Bencampwriaeth eleni, caiff cefnogwyr y cyfle i dynnu’r hunlun ochr cae gorau erioed gyda Thlws y Chwe Gwlad Guinness a’r Goron Driphlyg i gloi’r daith.

Mae taith stadiwm y Pencampwyr yn cael ei hystyried yn atyniad *awyr agored ac mae’n para tuag awr.  Mae teithiau wedi’u cyfyngu i bedair taith y dydd (am 10am, 12pm, 2pm a 4pm) gydag uchafswm o 10 person ar bob taith.   Mae taith y Pencampwyr yn rhedeg am gyfnod cyfyngedig: o 29 Mai tan 19 Mehefin.

*Nid yw taith newydd y stadiwm yn cynnwys aros mewn mannau dan do fel yr ystafelloedd Newid Cartref ac I Ffwrdd nac ystafell Gynadleddau’r Wasg Ray Gravell, fodd bynnag adlewyrchir hyn yn y strwythur prisio a gyda gostyngiad yng nghost taith safonol.

Prisiau taith Champions Lap of Honour:

Oedolyn £9.95

Plentyn £6.95

Gostyngiadau (myfyrwyr, oedolion 60+) £7.95

Teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) £29.95

Mae manylion llawn taith y stadiwm, ein canllawiau Covid 19 a’n Cwestiynau Cyffredin i’w gweld ar wefan y stadiwm principalitystadium.wales/tours.