Neidio i'r prif gynnwys

ARDDANGOSFA ARTES MUNDI 9 YN CAEL EI HESTYN TAN 5 MEDI 2021

CYHOEDDI ARDDANGOSFA EILFLWYDD
GWOBR ARTES MUNDI 9 YM MIS MAI
RHAGLEN HELAETH O SGYRSIAU A DIGWYDDIADAU


FIRELEI BÁEZ (DO) | DINEO SESHEE BOPAPE (ZA)
MEIRO KOIZUMI (JP) | BEATRIZ SANTIAGO MUÑOZ (PR)
PRABHAKAR PACHPUTE (IN) | CARRIE MAE WEEMS (USA)


Bellach cyhoeddir enillydd Gwobr £40,000 Artes Mundi 9 – gwobr fwyaf y DU ar gyfer celfyddyd gyfoes ryngwladol – a ddetholir gan banel o reithwyr arbenigol o blith yr artistiaid ar y rhestr fer, Firelei Báez (Y Weriniaeth Ddominicaidd), Dineo Seshee Bopape (De Affrica), Meiro Koizumi (Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar Pachpute (India) a Carrie Mae Weems (UDA), yn ddigidol ym mis Mai pryd y gobaith yw y bydd ymwelwyr yn gallu profi’r arddangosfa yn y cnawd.

Gan ymdrin â rhai o faterion pwysicaf ein hoes drwy’r gweithiau sydd ar ddangos, mae Artes Mundi 9 wedi cael ei hestyn tan ddydd Sul 5 Medi. Ar hyn o bryd wedi’i gosod ar draws Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, Chapter a g39, mae’r arddangosfa’n barod i agor i’r cyhoedd unwaith i Gymru ddychwelyd i gyfyngiadau Haen 2. Hyd at yr adeg honno, gall cynulleidfaoedd brofi rhagflas o waith pob artist ar-lein drwy fideos tywys byrion a ffotograffiaeth lonydd ar www.artesmundi.org.

Yn ogystal â gosodwaith fideo amlsianel sydd wedi’i ailgyflunio’n bwerus gan Meiro Koizumi, mae Artes Mundi 9 yn dangos am y tro cyntaf yn y byd weithiau newydd o bwys gan gynnwys gosodwaith ffotograffig Carrie Mae Weems The Push, The Call, The Scream, The Dream, ffilm newydd, About Falling, gan Beatriz Santiago Muñoz, a chyfres o baentiadau mawr deinamig gan Firelei Báez. Mae gosodwaith ymdrwythol gan Dineo Seshee Bopape sy’n cynnwys cerfluniaeth, arlunio a sain yn defnyddio pridd a chlai o safleoedd sanctaidd Cymreig wedi’u cyfuno â phridd o leoliadau eraill ym mhedwar ban byd gan gynnwys Île de Gorée, Senegal; afon James, Richmond, Virginia; afon Mississippi, New Orleans; a Choedwig Achimota, Accra, Ghana. Ac mae Prabhakar Pachpute wedi datblygu gosodwaith o baentiadau ar faneri cynfas sy’n parhau â’i ymdriniaeth â’r gweithiwr unigol yng nghyd-destun grymoedd corfforaethol ac economaidd mawr.

Mae rhaglen gyhoeddus rymus wedi’i lansio ar-lein ochr yn ochr â’r arddangosfa ar ffurf cyfres o sgyrsiau, fideos, podlediadau a gweithgareddau a digwyddiadau wedi’u ffrydio’n fyw ac y gellir eu lawrlwytho. Yn dechrau gyda thrafodaethau panel, bydd y rhain yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach o waith, syniadau, testunau a theithi meddwl pob un o’r artistiaid ar y rhestr fer a’i waith.

RHAGLEN SGYRSIAU
Caiff y rhaglen sgyrsiau ei chynnal ar Zoom a’i chyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol
Metropolitan Caerdydd. Bydd sgyrsiau At the table with … AM DDIM i bawb gyda’r gyntaf yn cael ei
lansio ddydd Iau 11 Mawrth am 8pm GMT. Bydd pob un o’r artistiaid ar y rhestr fer yn sgwrsio ag
arbenigwyr o bob cwr o’r byd, ac yna bydd y digwyddiadau byw hyn ar gael fel podlediadau drwy
wefan Artes Mundi. Gellir cofrestru ar gyfer y sgyrsiau trwy Eventbrite.

Dydd Iau 11 Mawrth, 8pm GMT: FIRELEI BÁEZ
Yr artist rhestr fer AM9 Firelei BĂĄez yn sgwrsio gyda Dr Francesca Sobande, darlithydd mewn
Astudiaethau Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddiwylliant digidol, hunaniaeth Ddu a’r diaspora, ffeministiaeth, a diwylliant poblogaidd; a’r artist a’r
ymchwilydd o Gaerdydd sy’n hanu o Trinidad yn wreiddiol, Dr AdéọlĂĄ Dewis. Bydd y sgwrs yn cael ei chadeirio gan un o feirniaid Artes Mundi 9 Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes Awstralia.

Dydd Iau 8 Ebrill, 7pm BST DINEO SESHEE BOPAPE
Yr artist rhestr fer AM9 Dineo Seshee Bopape yn sgwrsio gyda Chyfarwyddwr Rhaglenni RAW
Material Company, Senegal, Marie HĂŠlène Pereira, un o feirniaid Artes Mundi 9 a Chyfarwyddwr The Showroom, Llundain, Elvira Dyangani Ose, a’r artistiaid Evan Ifekoya a Tina Pasotra.
Dydd Mercher 21 Ebrill, 7pm BST BEATRIZ SANTIAGO MUÑOZ Yr artist rhestr fer AM9 Beatriz Santiago MuĂąoz yn sgwrsio gyda’r anthropolegydd, y ffeminist, y bardd a’r artist perfformio a’r ymgyrchydd Gina Athena Ulysse, Francis McKee (Cyfarwyddwr CCA Glasgow); ac Yvonne Connikie (Artist a Sylfaenydd GĹľyl Ffilm Ddu Cymru).

Dydd Gwener 7 Mai, 7pm BST CARRIE MAE WEEMS
Yr artist rhestr fer AM9 Carrie Mae Weems yn sgwrsio gyda’r artist Sonia Boyce, a fydd yn
cynrychioli’r DU yn Biennale Fenis yn 2021, Thomas J Lax, Curadur y Cyfryngau a Pherfformiad yn
MOMA Efrog Newydd, yr artist, yr awdur a’r curadur Umulkhayr Mohamed a Nicole Ready (Artist, Steilydd a Sylfaenydd DOCKS Magazine).

Dydd Mercher 19 Mai, 1pm BST MEIRO KOIZUMI
Yr artist rhestr fer AM9 Meiro Koizumi yn sgwrsio gyda Chyfarwyddwr Artistig Canolfan Celfyddyd Gyfoes Factory, Dinas Ho Chi Minh, Fiet-nam, Zoe Butt, hanesydd, cymdeithasegydd cymharol, seicolegydd ac addysgwr Abu-Bakr Madden Al Shabazz ac Evie Manning (Cyd-gyfarwyddwr, Common Wealth Theatre yng Nghaerdydd a Bradford).

Dydd Mercher 26 Mai, 7pm BST PRABHAKAR PACHPUTE
Yr artist rhestr fer AM9 Prabhakar Pachpute, y curadur a’r darlithydd, Zasha Colah, Llyfrgellydd
Llyfrgell Glowyr De Cymru Siân Williams, a Dr Radhika Mohanram, awdur ac Athro Saesneg yn y Ganolfan Theori Beirniadol a Diwylliannol ym Mhrifysgol Caerdydd.

RHAGLEN DDIGWYDDIADAU
TEITHIAU Â SAIN-DDISGRIFIAD
Bydd pobl ddall a phobl â nam ar eu golwg yn gallu profi’r arddangosfa trwy ddigwyddiadau sain arlein awr o hyd a gynhelir ar y dydd Mercher canlynol gan ddechrau am 12pm BST: 7 Ebrill, 21 Ebrill,
5 Mai, 26 Mai, 16 Mehefin a 30 Mehefin. Bydd y Disgrifydd Sain Anne Hornsby yn cyfleu pedwar
gwaith celf yn ofalus ym mhob sesiwn, gyda Chynhyrchydd Ymgysylltu Artes Mundi yn bresennol i
ddarparu cyd-destun ychwanegol ac i hwyluso’r sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa. Archebu trwy:
https://www.eventbrite.co.uk/myevent?eid=144238656705
DANGOSIADAU FFILM
Mewn partneriaeth â Chapter a g39, bydd Artes Mundi yn llwyfannu dangosiadau ffilm o weithiau
ychwanegol a ffilmiau eraill a ddewisir gan artistiaid ar y rhestr fer gyda dyddiadau a ffilmiau i’w
cadarnhau.#

RHAGLEN I DEULUOEDD
Bydd gweithgareddau i deuluoedd sy’n cael eu ffrydio’n fyw yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy
gydol yr arddangosfa, a gynllunnir gan Gynhyrchwyr Ymgysylltu Artes Mundi. Bydd y
gweithgareddau’n cynnwys collage, adrodd straeon, perfformio, tynnu lluniau a llawer mwy. Bydd
gwaith ysgrifennu newydd yn cael ei gyflwyno hefyd gan yr awduron preswyl i blant, Hanan Issa ac
Yousuf Lleu Shah a fydd yn creu gwaith newydd mewn ymateb i Artes Mundi 9.

GWAITH AR Y CYD RHWNG YR ARTISTIAID A’R GYMUNED
Ochr yn ochr â’r arddangosfa bob dwy flynedd, mae gan Artes Mundi bartneriaethau cyd-greadigol
hirsefydlog a pharhaus, yn enwedig gyda’r Aurora Trinity Collective i ddatblygu a rhannu gwybodaeth a sgiliau creadigol mewn man diogel a chroesawgar. Mae’r gydweithfa’n cynnwys ffoaduriaid benywaidd, y rhai sy’n ceisio lloches a menywod yn y gymuned ehangach, gyda phwyslais ar les pob un o’r aelodau.

LATES: PITCH BLACK
Mae Artes Mundi yn gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac arweinydd y prosiect,
Umulkhayr Mohamed, i gyflwyno LATES: Pitch Black mewn cyfres o ddigwyddiadau digidol ddydd Iau 6 Mai, dydd Iau 13 Mai, dydd Iau 20 Mai, dydd Iau 27 Mai. Bydd cynulleidfaoedd yn gallu profi gwaith sydd newydd ei gomisiynu gan bedwar artist – Omikemi, June Campbell-Davies, Yvonne Connikie a Gabin Kongolo – gyda chyfraniadau ychwanegol gan Jukebox Collective, a rennir ar-lein.

GYDA CHWMNI DAWNS CENEDLAETHOL CYMRU
Mae Artes Mundi yn gwahodd dawnswyr o Gymdeithion Ifanc Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Kokoro Arts i greu coreograffi newydd mewn ymateb i waith Prabhakar Pachpute. Bydd y coreograffi’n cael ei ddangosiad cyntaf ar-lein ddydd Sadwrn 15 Mai yng ngĹľyl U Dance Cymru am 6pm BST.

PROSIECTAU A ARWEINIR GAN ARTISTIAID A PHROSIECTAU MEWN YMATEB I AM9
Mae cyfres o weithdai corfforol/digidol hybrid, perfformiadau a chomisiynau yn cael eu datblygu
ar hyn o bryd gan rai fel Aurora Trinity Collective, Tina Pasotra, Dr Adéọlá Dewis, Abu-Bakr
Madden Al-Shabazz, Yvonne Connikie
a Jo Fong a byddant yn cael eu cynnal gydol cyfnod yr
arddangosfa. Gallwch ddisgwyl rhestri chwarae diwylliant pop sy’n edrych ar y berthynas rhwng celf
weledol a sain, sesiynau creadigol ar decstilau a lles, grwpiau darllen ar Fudiadau Celf Du,
gweithiau perfformio newydd sy’n archwilio hil a chynrychiolaeth a sesiynau cerdded.

O HYN YMLAEN: STRAEON BYRIONMae Artes Mundi a Llenyddiaeth Cymru wedi gweithio gyda Where I’m Coming From i gasglu a
chyflwyno straeon o bob cwr o Gymru. Drwy alwad agored, bydd pobl yn cael eu gwahodd i rannu’r
straeon a syniadau sydd wedi’u hennyn gan Artes Mundi 9. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd chwe awdur ar y rhestr fer yn derbyn mentora datblygu stori un-i-un gyda
Hanan Issa, Durre Shawar a Taylor Edmonds o Where I’m Coming From. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddarlunio gan yr artist arobryn Efa Blosse-Mason hefyd ac fe’i cyhoeddir yn adran Cyfnodolyn newydd gwefan newydd Artes Mundi i’w lansio ar 15 Mawrth.

ARDDANGOSFA GWOBR ARTES MUNDI 9
Bydd arddangosfa Artes Mundi 9 yn arddangos gwaith gan chwe artist cyfoes rhyngwladol blaenllaw
mewn tri lleoliad: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Chapter a g39. Dewiswyd y rhestr fer gan
feirniaid arbenigol o blith mwy na 700 o enwebiadau o 90 o wledydd ac mae enillwyr diweddar yn
cynnwys: Theaster Gates
(2015), John Akomfrah (2017) ac Apichatpong Weerasethakul (2019).
Er i’r rhestr fer gael ei chadarnhau gyntaf ym mis Medi 2019 – ar adeg pryd na allai fawr neb ddarogan beth roedd y byd yn rhuthro tuag ato – nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod yr artistiaid i gyd yn
ystyried, ymdrin â ac yn cwestiynu rhai o’r materion mwyaf tyngedfennol yr ydym yn eu hwynebu ar
hyn o bryd. Mae cyflwyniadau o waith newydd a diweddar yn canolbwyntio ar effaith difaol hanesion
trefedigaethu, newid amgylcheddol, trawma ac iachĂĄu rhwng cenedlaethau, adladd a chynhysgaeth
gwrthdaro a phryderon parhaus ynglšn â chynrychiolaeth a braint.

Mae’r artist Firelei Báez a aned yn y Weriniaeth Ddominicaidd ac sy’n byw yn Efrog Newydd yn
edrych ar naratifau alltudiaeth, yn dathlu goddrychedd du benywaidd ac yn dychmygu posibiliadau
newydd i’r dyfodol drwy baentiadau deinamig, hynod a manwl. Drwy osodwaith ymdrwythol
newydd, mae’r artist o Dde Affrica Dineo Seshee Bopape yn ymgysylltu’n faterol ac yn gysyniadol â
lle, hanes a chanlyniadau’r fasnach gaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd drwy wrthrychau, defod a
chân gan gyflwyno celfyddyd fel rhywbeth sy’n ymgorffori’r potensial ar gyfer cydnabod a chyfamodi.

Mae triptych fideo teimladwy’r artist o Japan Meiro Koizumi Angels of Testimony yn mynd i’r afael
â chynhysgaeth yr Ail Ryfel rhwng Tsieina a Japan (1937-1945), gan ddatgymalu tabŵs diwylliannol a chychwyn y broses iacháu drwy gydnabod hanesion cywilyddus. Mae pum ffilm a fideo’r artist o
Puerto Rico, Beatriz Santiago Muñoz yn cydblethu’n farddonol i greu gosodwaith haenog o naratifau aflinol sy’n ystyried hanesion ac effaith presenoldeb parhaus gwahanol drefedigaethwyr ar Puerto Rico, ei thirwedd, ei phobl a’i diwylliant.

Mae Prabhakar Pachpute— y bu ei deulu’n gweithio ym mhyllau glo canol India am dair cenhedlaeth – yn tynnu ar dreftadaeth ddiwylliannol a rennir â’r gymuned lofaol yng Nghymru i greu gosodwaith sy’n cynnwys paentiadau, baneri a gwrthrychau sy’n harneisio eiconograffeg protest a gweithredu torfol. Mae gwaith gan yr artist Americanaidd Carrie Mae Weems, sy’n enwog am ei hymgysylltu pwerus â chynrychiolaeth ddu a benywaidd, yn cwmpasu hunaniaeth ddiwylliannol, hiliaeth, dosbarth, systemau gwleidyddol a chanlyniadau grym. Mae gosodwaith ffotograffig newydd yn ystyried y diweddar actifydd hawliau sifil John Robert Lewis yng nghyd-destun y presennol, gyda detholiad o ddarnau mawr o’i hymgyrch celfyddyd gyhoeddus diweddar yn ymchwilio i effaith anghymesur y pandemig ar gymunedau lliw wrth gynnig negeseuon o obaith.

Yn ôl Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi: Llwyfan yw Artes Mundi ar gyfer gwahanol bersbectifau a lleisiau sy’n ceisio ysgogi deialog ystyrlon. Hyfrydwch pur i ni yw cyhoeddi dyddiadau diwygiedig Artes Mundi 9 ac rydyn ni’n ymrwymedig i gyflwyno rhaglen sy’n ddiogel i’r holl artistiaid, cynulleidfaoedd, partneriaid a chefnogwyr. Wrth i ni fyw drwy ac ymgysylltu â newidiadau byd eang pellgyrhaeddol, yn fwy nag erioed, mae gwaith pob un o’r chwe artist yn ymdrin ac yn taro
deuddeg â’r syniadau a materion y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw fel unigolion ac yn dorfol
yn ein cymdeithasau sy’n ymwneud â thegwch, cynrychiolaeth, trawma a braint.


Detholwyd y rhestr fer gan reithgor oedd yn cynnwys Cosmin Costinas, Cyfarwyddwr Gweithredol a
Churadur Para Site, Hong Kong a Chyfarwyddwr Artistig Triennale Kathmandu 2020; Elvira DyanganiOse, Cyfarwyddwr Oriel y Showroom yn Llundain; a Rachel Kent, Prif Guradur Amgueddfa Celfyddyd Gyfoes, Sydney, Awstralia.

Yn Ă´l y rheithgor: Gan gwmpasu paentio ac arlunio, gwneud gwrthrychau, ffilm a fideo, mae
gwaith yr artistiaid yn eistedd o fewn cyddestun yr amgueddfa a thu hwnt; mae rhai’n trawsnewid
gofodau cyhoeddus ac eraill yn bodoli fel iteriadau byrhoedlog. Gan weithio yn erbyn y syniad o
ganolbwynt, maent yn adlewyrchu gwahanol naratifau byd-eang mewn ffyrdd cyffrous yn ogystal â
meddylgar.
Mae gweithiau’r artistiaid hyn yn ymdrin mewn ffordd bwerus â’r grymoedd newidiol
sy’n siapio ein byd, gan gwmpasu themâu o hunaniaeth ac adrodd, strwythurau cymdeithasol a’r cof
torfol, a diwydiant a’r argyfwng ecolegol.