Neidio i'r prif gynnwys

Dewi Sant mewn partneriaeth gyda'r NSPCC i ymladd cam-drin plant

Mae NSPCC Cymru wedi dod yn elusen y flwyddyn Canolfan Dewi Sant Caerdydd wrth iddi barhau â’i brwydr i atal cam-drin plant.

Mae’r bartneriaeth newydd rhwng y ganolfan siopa ac NSPCC Cymru wedi’i chyhoeddi yn dilyn pryderon am y cynnydd yn y nifer o blant sy’n cysylltu yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn  codi o bandemig y coronafeirws. Mae galw am wasanaeth Childline NSPCC wedi parhau dros yr 16 mis diwethaf gyda phlant yn siarad â chwnselwyr wedi’u hyfforddi am faterion fel unigrwydd, iselder a gorbryder. Cyflwynodd Childline bron i 90,000 o sesiynau cwnsela i bobl ifanc oedd yn pryderu am iechyd meddwl neu gamdriniaeth yn 2020/21.  Mae Caerdydd yn gartref i un o 12 canolfan Childline sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.

Yn y cyfamser, mae’r NSPCC hefyd wedi rhybuddio am beryglon cynyddol camdriniaeth ac esgeulustod o ganlyniad i’r pandemig.  Mae’n dweud ei fod yn derbyn 85,000 o alwadau i’w llinell gymorth gyfrinachol am ddim i oedolion sy’n cynnig cymorth a chyngor i unrhyw un sy’n poeni am blentyn mewn 12 mis yn unig, cynnydd o 23% mewn blwyddyn.

Fel elusen y flwyddyn, bydd Dewi Sant yn cefnogi NSPCC Cymru gyda’r nod o godi miloedd o bunnoedd gyda phob punt yn helpu i amddiffyn plant ac atal camdriniaeth.  Bydd y bartneriaeth yn gweld cymysgedd o weithgareddau yn y ganolfan a mentrau codi arian ar gyfer siopwyr, manwerthwyr a staff gan gynnwys digwyddiadau i’r teulu, digwyddiadau ffasiwn a digwyddiadau i fyfyrwyr yng Nghanolfan Dewi Sant drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â chymryd rhan mewn heriau chwaraeon a digwyddiadau codi arian fel lapio anrhegion, canu mewn côr ac arddangosfa’r geni adeg y Nadolig.

Dywedodd James Waugh, Cyfarwyddwr Canolfan Dewi Sant:  “Pan glywsom am drafferthion cynyddol plant a phobl ifanc sy’n profi problemau cam-drin ac iechyd meddwl yng Nghymru o ganlyniad i’r pandemig, roedd yn rhaid i ni weithredu.  Fel ein helusen y flwyddyn, mae Dewi Sant wedi ymrwymo i gefnogi gwaith gwych yr NSPCC i helpu plant, atal cam-drin plant a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal a chymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol drwy gydol y flwyddyn a fydd nid yn unig yn hwyl i’n siopwyr ond i gyd at achos gwirioneddol deilwng a fydd yn taro tant i lawer ohonom.”

Dywedodd Rosalie Stonehouse, Swyddog Gweithredol Codi Arian Corfforaethol NSPCC Cymru: “Fel elusen rydym yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd am 90% o’n cyllid felly rydym wrth ein bodd yn cael ein cyhoeddi fel elusen Dewi Sant y flwyddyn yn enwedig ar adeg mor dyngedfennol i blant a phobl ifanc.

 

“Ar ôl wynebu cymaint o darfu ar eu bywydau dros yr 16 mis diwethaf, nid yw’n syndod mai’r prif reswm mae plant a phobl ifanc wedi cysylltu â’n gwasanaeth Childline yw siarad am iechyd meddwl a lles.  Mae’n anhygoel meddwl y gall pob £4 a godir ar gyfer yr NSPCC helpu cwnselydd gwirfoddol hyfforddedig i ateb galwad plentyn am help – gallai’r effaith y mae un sesiwn gwnsela yn ei wneud hyd yn oed newid bywydau.  Gall pob ceiniog ein helpu i wneud gwahaniaeth ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb yng Nghanolfan Dewi Sant, gan gynnwys siopwyr, am y rhan y byddant yn ei chwarae dros y flwyddyn nesaf wrth ein helpu i atal cam-drin plant.”

 

  • Gall plant gysylltu â Childline bob dydd o’r wythnos, 24 awr y dydd, am ddim ar 0800 11 11 neu drwy childline.org.uk lle gellir gofyn am sgyrsiau un-i-un ar-lein. Gall oedolion sy’n ceisio cyngor cyfrinachol am ddim ynghylch pryder lles plant gysylltu â llinell gymorth yr NSPCC ar 0808 800 5000 neu help@nspcc.org.uk.  Mae cyngor hefyd ar gael ar wefan yr NSPCC – nspcc.org.uk.
  • Am ragor o wybodaeth am Ganolfan Dewi Sant, ewch i https://stdavidscardiff.com/