Neidio i'r prif gynnwys

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd 2021

GŴYL Y GAEAF CAERDYDD YN DYCHWELYD AR GYFER 2021

Ac mae’n ô yn fwy nag erioed… credwch ni.

  • Gŵyl y Gaeaf eleni fydd y fwyaf a welodd Caerdydd erioed, bellach ar ddau safle yng nghanol y ddinas.
  • Bydd y digwyddiad yn cael ei rannu rhwng Lawntiau Neuadd y Ddinas a thiroedd Castell Caerdydd.
  • Mae ychwanegiadau newydd i’r digwyddiad yn cynnwys Bar Iâ Caerdydd a theras to awyr agored newydd i westeion ei fwynhau drwy gydol y gaeaf.

Gyda chynllunio ar gyfer dathliadau’r gaeaf ledled y ddinas bellach ar ei anterth, mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd wedi datgelu’r cynlluniau ar gyfer 2021, ac mae’n wahanol i unrhyw beth a welsoch o’r blaen.

Wedi’i rannu ar draws dau leoliad yng nghanol y ddinas, bydd ymwelwyr nawr yn gallu cael blas ar Ŵyl y Gaeaf ar Lawntiau Neuadd y Ddinas a Chastell Caerdydd. Eleni, bydd tiroedd y Castell yn gartref i rinc iâ mawr dan do a thaith gerdded iâ hudolus 150m, gan greu profiad sglefrio yn erbyn cefndir y Gorthwr Normanaidd ysblennydd. Yn ogystal â’i atyniadau ffair poblogaidd, bydd Lawntiau Neuadd y Ddinas yn cynnwys dau far anhygoel yn 2021 – gyda Bar Sur La Piste newydd a gwell gyda theras to a hyd yn oed Bar Iâ newydd sbon! Bydd ymwelwyr yn gallu ymlacio a dadgynhesu mewn tymheredd -10 gradd a thynnu hunluniau ym man Instagram mwyaf poblogaidd a newydd Caerdydd. Cŵl ’ta be?

Bydd yr Olwyn Fawr enwog hefyd yn dychwelyd i Lawntiau Neuadd y Ddinas, yn cynnig rhai o’r golygfeydd gorau o Gaerdydd. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau bwyd a diod blasus, gyda’r dewis yn cynnwys wrap Pwdin Efrog, malws melys wedi eu tostio ar dân agored neu siocled poeth hyfryd.

Bydd y cynllun newydd hwn yn rhoi cyfle i ymwelwyr fwynhau hyd yn oed mwy o Ŵyl y Gaeaf nag erioed o’r blaen a bydd yn ategu’r  gweithgareddau gaeaf eraill sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled canol dinas Caerdydd ar yr un pryd – gan gynnwys Marchnad Nadolig draddodiadol Caerdydd a Maes yr Ŵyl Caerdydd.

Dywedodd Norman George Sayers, trefnydd Gŵyl y Gaeaf Caerdydd:

“Rydym yn falch iawn o ddod â Gŵyl y Gaeaf yn ôl i Gaerdydd am flwyddyn arall a chynnig profiad newydd i ymwelwyr drwy ddefnyddio Lawntiau Neuadd y Ddinas a’r gerddi yng Nghastell Caerdydd. Ar ôl i ni i gyd fynd drwy flwyddyn anodd arall, rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at greu ysbryd y Nadolig yn y ddinas a rhoi rheswm i bobl wenu a mwynhau eu hunain yn y cyfnod cyn y Nadolig.

“Bydd Gŵyl y Gaeaf eleni yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen – drwy ymestyn y digwyddiad dros ddau leoliad pwysig rydym yn sicrhau y bydd gan ymwelwyr ddigonedd o le i fwynhau’r holl atyniadau a’r awyrgylch sy’n gwneud Gŵyl y Gaeaf mor boblogaidd.

“Rwy’n hyderus y bydd yr ychwanegiadau newydd eleni wir yn creu argraff wych ar dorfeydd a fedrwn ni ddim aros tan i ni agor dros yr wythnosau nesaf.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn ddigwyddiad unigryw i’r brifddinas ac yn ffefryn mawr yn ystod dathliadau’r ddinas dros yr ŵyl.

“Mae’r newyddion mai Gŵyl y Gaeaf 2021 fydd y fwyaf eto, ar ddau o’n tirnodau mwyaf eiconig, yn wych ac yn golygu y bydd gennym ddigon o le i groesawu ymwelwyr yn ddiogel ac y bydd profiad anhygoel yn eu disgwyl yn yr atyniad hwn sydd o’r radd flaenaf.”

Bydd Gŵyl y Gaeaf ar agor o 16 Tachwedd 2021 ac mae tocynnau ar gyfer y rinc iâ ar werth nawr.

Bydd y rinc iâ ar agor ar gyfer sesiynau hygyrch bob dydd Mercher

Yn draddodiadol, mae lleoedd ar gyfer sesiynau sglefrio yn gwerthu’n gyflym, yn enwedig ar benwythnosau. Argymhellir bod tocynnau’n cael eu harchebu o flaen llaw ar gyfer y rinc iâ er mwyn osgoi siom. Mae mynediad cyffredinol i Lawntiau Neuadd y Ddinas a sgwâr cyhoeddus tiroedd y Castell am ddim i ymwelwyr dros gyfnod y gaeaf.

Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Ŵyl y Gaeaf Caerdydd drwy:

Y wefan: www.cardiffswinterwonderland.com

Facebook.com/CardiffsWWL

Twitter.com/CardiffsWWL

Instagram.com/cardiffswinterwonderland

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Nadolig Castell Caerdydd ar gyfer 2021, ewch i https://www.castell-caerdydd.com/

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.