Beth wyt ti'n edrych am?
Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd FIH i Ddynion yn dod i Gaerdydd
Mae Hoci Cymru wrth eu boddau o gynnal Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd FIH i Ddynion ym mis Hydref 2021. Gyda chwaraeon byw wedi ailddechrau, gwahoddir gwylwyr i ddod i lawr i’r twrnamaint i fwynhau hoci rhyngwladol byw unwaith eto.
Bydd y Gemau Rhagbrofol yn cael eu cynnal yng Ngerddi Sophia, Caerdydd, o 21 tan 24 Hydref. Mae wyth gwlad Ewropeaidd wedi cymhwyso ar gyfer y twrnamaint, sef:
- Ffrainc
- Rwsia
- Cymru
- Yr Alban
- Awstria
- Iwerddon
- Gwlad Pwyl
- Yr Eidal
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Hoci Cymru, Ria Burrage-Male:
“Rydym yn falch iawn o gynnal y digwyddiad mawr hwn yn y calendr rhyngwladol – nid yw ein Dynion Hŷn wedi chwarae gartref, o flaen torf gartref, am lawer rhy hir. Byddwn yn croesawu 7 gwlad ym mis Hydref, gan dynnu sylw at hoci o’r radd flaenaf yn ogystal â’n dinas a’n gwlad wych.”
“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r EHF a FIH am roi eu hymddiriedaeth ynom i gyflwyno Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd, lle bydd y 2 uchaf yn mynd i Gwpan y Byd yn India 2023.”
“Dyma gyfle na ddylech ei golli, ac rydym yn annog unrhyw un sy’n dwlu ar chwaraeon a Chymru i ddod i lawr i Erddi Sophia i gefnogi ein Carfan Ddynion Genedlaethol.”
Mae tocynnau bellach ar werth ar wefan Hoci Cymru. Mae amrywiaeth o opsiynau tocynnau, gan gynnwys tocynnau dydd, tocynnau grŵp a theulu, a thocynnau twrnamaint.