Neidio i'r prif gynnwys

AMSERLEN: DIWRNOD I’R BRENIN

Eisiau byw yn fras am ddiwrnod?  Dyma’r amserlen berffaith ar gyfer dathliad pen-blwydd arbennig iawn, digwyddiad i’r tîm, neu seibiant o fywyd bob dydd!

STOP UN: TAITH HOFRENNYDD WHIZZARD

Os ydych am deimlo fel seleb neu roial, beth am fynd ar daith hofrennydd dros Gaerdydd?  Yn brofiad nad anghofiwch fyth, mae Taith Dinas Caerdydd yn mynd â chi dros dirnodau enwog y ddinas, gan gynnwys Stadiwm y Principality, Castell Caerdydd a Bae Caerdydd.

Gallwch hyd yn oed archebu sesiwn blas ar hedfan a rhoi cynnig arni eich hun! Yn gadael o Lanfa Hofrenyddion Caerdydd, yn y bae.   Gallwch archebu taith hyd at awr – yn dibynnu pa mor ddewr rydych chi’n teimlo – prisiau o £99. Archebwch eich taith hofrennydd yma.

EGWYL: TE PRYNHAWN YNG NGWESTY’R FRO

Mwynhewch Brynhawn Te moethus Gwesty’r Fro, gyda golygfeydd ysblennydd. Byddwch yn teimlo fel petaech yn nghanol cefn gwlad Cymru, oll o fewn taith 30 munud mewn car o Ganol Dinas Caerdydd!

Dewiswch o’r Te Prynhawn Traddodiadol, Te Prynhawn Fegan neu De Prynhawn Dim Glwten a mwynhewch ddetholiad o frechdanau  â thema Gymreig, clasuron fel sgons cartref a chacennau cri a thebot braf o’ch hoff de.  Ac i’ch sbwylio’ch hun hyd yn oed mwy, beth am wydraid o prosecco am £6.00 yn ychwanegol? Cadwch le yma.

STOP TRI: DISTYLLFA CASTELL HENSOL

Os am gael eich traed yn sownd ar y ddaear, beth am drip i’r Ddistyllfa Gin yng Nghastell Hensol. Ar gyrion Caerdydd, yng nghanol cefn gwlad hyfryd Bro Morgannwg, mae’r ddistyllfa yn seler Castell Hensol, a adeiladwyd yn yr 17eg ganrif.

Mae’r cyfuniad o hanes a thraddodiad Castell Hensol a bywiogrwydd modern a natur hwyliog jin yn creu profiad gwirioneddol nodedig. Mae’r daith yn para 90 munud ac mae prisiau’n dechrau am £25 y pen. Archebwch daith yma.

EGWYL OLAF: CINIO YN YR IVY

Ar ôl jinsen neu ddwy neu hyd yn oed wedi bod fry uwchben y ddinas mewn hofrennydd, beth am ginio go iawn yn The Ivy? Gyda rhywbeth at ddant pawb, mae gan The Ivy Cardiff fwydlen brasserie drwy’r dydd, o frecwast i ginio a swper. Mae’n cynnwys byrbrydau ysgafn, brechdanau, coctels a the prynhawn.

Mae bwydlen brecinio arbennig dros y penwythnos yn cynnig opsiwn gwahanol i fwydlen yr wythnos, a bwydlen ddiodydd sy’n cynnwys coctels poblogaidd, gan gynnwys rhai ffefrynnau clasurol ychydig yn wahanol.  Yng nghanol y ddinas, mae’n cynnig lleoliad moethus ar gyfer ymweliad prynhawn neu gyda’r nos.   I gyd wrth galon y ddinas. Cadwch eich bwrdd yma