Beth wyt ti'n edrych am?
Dathlu Pen-Blwydd Ardal Y Caffis Yn 25 Oed – 22 Hydref 2021
Ar ddydd Gwener 22 Hydref 2021 yng Ngwesty’r Marriott, bydd Caerdydd yn dathlu 25 mlynedd lwyddiannus o Ardal y Caffis Caerdydd.
Bydd y noson yn canolbwyntio ar ddathlu’r Ardal gyntaf yn y DU i gael ei chreu’n benodol ar gyfer Caffis, ardal sy’n gyfarwydd ac yn boblogaidd iawn erbyn hyn.
Deilliodd Lôn y Felin o felin stêm a oedd ar un adeg ar yr heol. Yn sgil diwydiannu, parhaodd y ddinas i ehangu, gan ddod yn ganolfan ar gyfer busnes, menter a masnachu. Daeth Lôn y Felin newydd i’r amlwg yn fuan. Heddiw, mae Lôn y Felin yn fwrlwm o bobl yn mwynhau’r profiad o fwytai a bariau yn yr awyr agored, fel y maen nhw yn Rhufain, Amsterdam a Pharis.
Bydd y dathliadau gyda’r nos yn dechrau am 4:30pm y tu allan i Westy’r Marriott, lle dechreuodd y cyfan, gydag adloniant penigamp. Wedyn, bydd bwytai a bariau Lôn y Felin yn cynnig bargeinion unigryw!
Mocka Lounge: coctels 2-am-1, 20% oddi ar ddiodydd
-The Corner House: 20% oddi ar fwyd, ynghyd â ‘Drag DJ’ o 8pm tan hwyr.
-Pitch: £5 oddi ar goctels
-Ask Italian: 20% oddi ar fwyd
-Duke of Wellington: 3 phlatiad bach am £11, brecinio diddiwedd a £5 oddi ar Prosecco
-Las Iguanas: Caipirinha am ddim (coctel o Frasil wedi’i wneud gyda cachaca, sudd leim/lemwn, siwgr a rhew mâl) gyda phob prif gwrs a archebir
-Cardiff Bridal Centre: 10% oddi ar archebion newydd
Bydd hyd yn oed mwy o Peppermint a Retro! Mae’r Ivy, Urdd Gwneuthurwyr Cymru (Crefft yn y Bae), The Botanist, a The Coconut Tree ac eraill wedi rhoi eitemau arbennig a thalebau rhodd tuag at raffl, ac arwerthiant elusennol a fydd yn cefnogi elusen Tŷ Hafan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod draw i’r digwyddiad, er mwyn cael cyfle i ennill a mynd ag un o’r gwobrau adref!
Dim ond am y diwrnod y bydd cynigion ar gael, bydd angen i chi brynu band arddwrn am £10 yn y Marriott, neu ar hyd Lôn y Felin i roi’r holl ostyngiadau a chynigion hyn ar waith i chi. Bydd Bandiau Arddwrn yn cael eu gwerthu ddydd Gwener o 10am ymlaen.
Bydd Supercars, o Lisa Marie Brown’s P1nk Supercars a Coffee Wales, a llawer mwy.
Gwisgwch yn gyfforddus, a dewch i ddathlu gyda ni, mewn noson o fwynhad pur ar Lôn y Felin!
Dylid cyflwyno ymholiadau pellach ynghylch y digwyddiad drwy socialmedia@giovanniscardiff.co.uk.
Giovanni L Malacrino