Neidio i'r prif gynnwys

3 DIWRNOD YNG NGHAERDYDD AR GYFER GRWPIAU CORFFORAETHOL

Mae Caerdydd yn ddinas gryno, hawdd ei cherdded sy’n golygu y byddwch ond 15 munud i ffwrdd o’r lle mae angen i chi fynd. Mae lleoliadau corfforaethol yn agos at westai ac yn agos at weithgareddau cymdeithasol y tu allan i’r gynhadledd. Gall ymwelwyr grŵp archwilio treftadaeth ddiddorol a diwylliant bywiog y brifddinas yn y ddinas neu yn y Bae. Neu mwynhewch yr ystod gyffrous o weithgareddau ac adloniant ynghyd â chymysgedd eclectig o siopau, caffis, barau a bwytai.

DIWRNOD 1

CANOLFAN DDINESIG, NEUADD Y DDINAS AC AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Begin by exploring Cardiff’s impressive Civic Centre with its striking buildings, wide avenues and parkland. Cardiff City Hall is just one of the Edwardian buildings which can be hired as a venue along with neighbouring National Museum Cardiff, which houses a remarkable collection of European paintings and sculptures and holds special exhibitions. Two wealthy Welsh sisters bequeathed their large art collection to the gallery in the mid 20th century, resulting in Cardiff owning one of the largest collections of Impressionist paintings outside Paris. All located within a stone’s throw of each other.

CASTELL CAERDYDD, PARC BUTE A STADIWM Y PRINCIPALITY

Mae Castell Caerdydd a Pharc Bute yn daith gerdded fer i ffwrdd ac ar y llwybr i Stadiwm y Principality, sy’n nodedig ym myd chwaraeon. Wedi’i hadeiladu ym 1999 ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, mae 74,500 o seddi yn y stadiwm a tho sy’n agor. Mae wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, digwyddiadau busnes a chyngherddau. Gellir trefnu teithiau arbennig, sy’n cynnwys yr ystafelloedd newid a sedd yn y Blwch Brenhinol.

MWYNHEWCH EGWYL A THAMAID I’W FWYTA

Mae’r sin bwyd yn ffynnu gyda chynhyrchwyr annibynnol o safon, manwerthwyr, caffis, bwytai a siopau tecawê yn y farchnad Fictoraidd lwyddiannus, a nifer o Arcedau dan do ac wedi’u lleoli mewn corneli cudd ar draws y ddinas. Mae Taith Flasu Caerdydd yn cyflwyno gwneuthurwyr a manwerthwyr yng nghanol y ddinas, gan roi blas o stori fwyd Caerdydd. Neu dysgwch fwy am hanes Caerdydd yn Amgueddfa Stori Caerdydd.

DIWYLLIANT A BYWYD NOS

Mae Caerdydd yn llawn profiadau diwylliannol. Mae dewis gwych o theatrau, neuaddau cyngerdd a lleoliadau clos gydag amrywiaeth o berfformiadau byw bob dydd o’r wythnos. Cyfunwch noson ddiwylliannol gydag ymweliad â’r bariau, bwytai a bywyd nos annibynnol niferus.
Neu os ydych yn chwilio’n benodol am brofiad adloniant Cymreig, cadwch olwg am Wleddoedd Castell Caerdydd yn yr Is-grofft hanesyddol.

DIWRNOD 2

TAITH O AMGYLCH CASTELL CAERDYDD

Dechreuwch eich diwrnod gyda thaith yng Nghastell Caerdydd. Caer Rufeinig oedd yma yn wreiddiol; ychwanegwyd amddiffynfeydd pellach yn y cyfnod Normanaidd. Tua diwedd y 19eg Ganrif, gwariodd 3ydd Ardalydd cyfoethog Bute ffortiwn ar waith adnewyddu mawr, gan drawsnewid y tu mewn i’r Castell yn balas Gothig, ffug-Ganoloesol. Heddiw gellir llogi’r mannau addurnedig a grëwyd gan y pensaer ecsentrig William Burges ar gyfer digwyddiadau corfforaethol. Mae’r parcdir helaeth o amgylch y Castell hefyd yn ased gwych yng nghanol y ddinas.

MWYNHEWCH YCHYDIG O THERAPI SIOPA

Peidiwch â cholli allan ar y rheswm pam fod Caerdydd yn eithriadol o ran siopa yng nghanol y ddinas hawdd ei cherdded. Uchafbwynt gwirioneddol sin fanwerthu Caerdydd yw’r casgliad o arcedau Fictoraidd ac Edwardaidd, sy’n llawn siopau arbenigol anarferol a chaffis annibynnol, sydd hefyd yn werth ymweld â nhw ar gyfer eu pensaernïaeth.

PROFWCH OLYGFEYDD Y GLANNAU

Cyfunwch ymweliad canol dinas â glannau Caerdydd. Ewch ar daith cwch 30 munud o dir y Castell i Fae Caerdydd. Mae Bae Caerdydd yn cynnwys llyn dŵr croyw 200 hectar ar gyfer chwaraeon hwylio a dŵr a llawer o weithgareddau o rafftio dŵr gwyn i deithiau cerdded i archwilio natur. Ewch â chwch o Gei’r Fôr-forwyn ar daith leol neu efallai i Ynys Echni, ynys fechan oddi ar yr arfordir.
Cadwch olwg am dirnodau’r Bae fel y Senedd, siambr drafod ecogyfeillgar Senedd Cymru. Ewch i ganolfan wyddoniaeth Techniquest sydd newydd ei hailddatblygu, neu ewch ar daith y tu ôl i’r llenni o amgylch Canolfan Mileniwm Cymru cyn mynd i berfformiad gyda’r nos. Ysbrydolwyd dyluniad y ganolfan ddiwylliannol hon gan dirwedd, iaith a diwylliant Cymru. Adeiladwyd llawer o’r gwaith gyda deunyddiau Cymreig ac mae’n cynnig llwyfan haeddiannol drawiadol ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, theatr gerddorol, ballet, theatr a chomedi.
Ewch ar antur wefreiddiol yng nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, cyfleuster antur cyffrous i’w ddefnyddio fel y mynnwch yng nghanol y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

MWYNHEWCH EGWYL A CHINIO

Mae dewis gwych o farrau a bwytai ar lan y dŵr i giniawa neu ymlacio â diod. Rhowch gynnig ar westy hanesyddol y Gyfnewidfa am ginio neu de prynhawn – yr hen Gyfnewidfa Lo ydy hwn, lle cafodd y fargen lo werth £1 miliwn gyntaf yn y byd ei tharo pan oedd Caerdydd yn borthladd rhyngwladol ffyniannus. Neu beth am westy cyfoes 5* voco Dewi Sant sy’n edrych dros y glannau.
Mae sinema pum sgrin Everyman yng Nghei’r Fôr-forwyn, sy’n cynnwys seddau soffa clyd a bwydlen sy’n cynnwys Spielburgers, pizzas wedi’u rholio â llaw, hufen iâ syndi a choctels.

DIWRNOD 3

CAMWCH YN ÔL MEWN AMSER

Daith fer o Gaerdydd mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Yma, byddwch yn teithio’n ôl ganrifoedd pan fyddwch yn ymweld â’r bythynnod, y ffermdai, y gweithdai gwledig, y felin, y capel a siop y pentref. Mae digon o opsiynau yma ar gyfer cinio – Bwyty’r Fro, Caffi Bardi ac Ystafelloedd Te Gwalia, ystafell de draddodiadol o’r 1930au, sy’n gweini cinio ysgafn a the prynhawn.

ARCHWILIO’R RHANBARTH

Wrth yrru pellter byr yng nghefn gwlad Bro Morgannwg fe ddewch o hyd i Gastell Hensol. Daw’r castell yn wreiddiol o’r 17eg ganrif. Mae ystafelloedd i’w llogi ond hefyd mae distyllfa jin yn y seleri, lle caiff grwpiau fwynhau blasu a dysgu mwy am y broses ddistyllu. Gerllaw yn y parcdir helaeth mae’r Vale Resort yn cynnig nifer o brofiadau chwaraeon i grwpiau.
Tua 10 munud i ffwrdd mae Profiad y Bathdy Brenhinol lle gall grwpiau ddysgu am 1,100 mlynedd o hanes ac archwilio gwneud darnau arian a chasgliadau.

BARIAU A BWYTAI ADDAS I GRWPIAU CORFFORAETHOL

Ar ddiwedd y dydd cewch fynd yn ôl i Gaerdydd. Rhowch gynnig ar un o’r doreth o fariau a bwytai, sy’n aml yn cynnig mannau preifat i grwpiau, er enghraifft The Botanist, lle mae bar to gwych a phrydau arbennig ar y fwydlen. Fel arall, mae gan Ivy Caerdydd fwydlen brasserie sydd ar gael drwy’r dydd, neu cewch fwyta’n dda ym mwyty’r Park House. Mae profiad bwyta arall ar ben to yng Ngwesty’r Indigo sy’n cynnwys dylunwyr crefftus Cymreig.

Gall grwpiau hefyd rannu profiadau fel dosbarth gwneud coctels neu daith bragdy crefft.