Neidio i'r prif gynnwys

48 awr ym Mae Caerdydd (sy’n hwyl, cyfeillgar a hygyrch)

Ailddatblygwyd yr hen ddociau i greu Bae Caerdydd, sydd bellach yn ardal fywiog o amgylch llyn dŵr croyw trawiadol. Mae’r ardal yn llawn bwrlwm ac yn llawn bwytai, barrau a mannau adloniant.  Mae llawer o atyniadau sy’n gwneud ymweliad â Bae Caerdydd yn werth chweil ac rydym wedi rhestru rhai o’r rhai gorau isod i chi.

DIWRNOD 1

10:00 Dysgu am Wyddoniaeth a Diwylliant Cymru yn Techniquest

Stryd Stuart, CF10 5BW

 

Does yr un ymweliad â Bae Caerdydd yn gyflawn heb ymweliad â chanolfan wyddoniaeth hynaf y DU. Rhowch eich meddwl ar waith gydag arddangosiadau lle gallwch lansio roced, suddo llwyfan olew, symud hanner tunnell o wenithfaen ac wedyn syllu ar y sêr!

12:00 Ymweliad hamddenol â’r Morglawdd

Dechrau yn Rhodfa’r Harbwr, CF10 4PA

Ewch am dro hyfryd ar lwybr gwastad, sy’n cysylltu’r harbwr mewnol â’r lociau a’r pontydd sy’n ffurfio strwythur y Morglawdd. Ar y llwybr hwn, gallwch ddysgu mwy am yr ardal drwy’r arddangosfeydd am ddim, eistedd a thynnu hun-lun gyda’r Crocodeil Enfawr, a chael seibiant yng Nghaffi Hafren, sy’n cael ei redeg gan yr RSPB. Neu ar eich ffordd yn ôl, galwch heibio i’r Eglwys Norwyaidd am ginio neu goffi ar eu teras ar lan y dŵr.

15:00 Cofrestrwch yng ngwesty voco Dewi Sant

Stryd Havannah, CF10 5SD

Yn cynnig golygfeydd ysblennydd dros Fae Caerdydd a Marina Penarth, mae voco Dewi Sant yn siŵr o greu argraff. Treuliwch ychydig amser yn ymlacio yn y Sba Forol a thrin eich hun i’r bwyd a diod blasus ym mwyty’r Admiral. Mae’r gwesty’n hawdd ei gyrraedd, yn agos at yr holl gysylltiadau trafnidiaeth mawr a dim ond taith fer i ffwrdd o farrau, bwytai ac adloniant Cei’r Fôr-forwyn.

19:00 Mwynhewch sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Plas Bute, CF10 5AL

Yng nghanol Bae Caerdydd, mae Canolfan Mileniwm Cymru, un o gyrchfannau celfyddydol a diwylliannol mwyaf eiconig y byd ac mae wedi ennill gwobr am ei hygyrchedd.
Edrychwch ar eu canllaw ‘Beth sy’n Digwydd’ i weld pa sioeau sy’n cael eu perfformio tra byddwch chi yng Nghaerdydd.

DIWRNOD 2

10:00 Rafftio Dŵr Gwyn yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd

Ffordd Watkiss, CF11 0SY

Yn teimlo’n anturus? Rhowch ddechrau anturus i’r ail ddiwrnod gydag ymweliad â’r ganolfan antur arobryn. Bydd eu staff profiadol bob amser yn ceisio diwallu anghenion gwahanol ac addasu gweithgareddau lle gallant i’w gwneud mor hygyrch â phosibl. Rhowch gynnig ar ganŵio neu badlo, neu efallai mai coffi a thamaid yn y caffi, yn gwylio pawb arall yn gwlychu, fydd eich dewis chi.

13:00 Cinio yng Nghei’r Fôr-Forwyn

Yr Harbwr Mewnol, CF10 5BZ

Gallwch ddewis o blith dros 30 o fwytai, caffis a barrau’n edrych dros y glannau trawiadol. Gyda bwyd o bedwar ban byd – o hufen iâ o Gymru i swshi o Siapan, yn pizzas ffres ac yn fwyd Ffrengig cain – mae rhywbeth at ddant pawb beth bynnag fo’r chwant a’r gyllideb.

15:00: Ewch ar daith o amgylch adeilad eiconig y Senedd

Yr Harbwr Mewnol, CF99 1NA

Nepell o Gei’r Fôr-Forwyn, mae Senedd pobl Cymru. Mae’r Senedd yn gartref i’r siambr drafod ac ystafelloedd pwyllgora. Gallwch hyd yn oed wrando ar y trafodaethau o’r oriel gyhoeddus.  Cofiwch hefyd ymweld ag Adeilad y Pierhead drws nesaf. Yma gallwch wylio ffilm fer am ddatblygiad y dociau a gweld yr arddangosfeydd celf rheolaidd.