Neidio i'r prif gynnwys

48 awr yng Nghanol y Ddinas (sy’n hwyl, cyfeillgar a hygyrch)

Gall ymweld â dinas anghyfarwydd pan fo gennych anabledd godi braw weithiau, ond rydym am i bawb gael profiad cyfforddus, diogel a hwyliog. Dyna pam rydym yn tynnu sylw at drafnidiaeth, gwestai ac atyniadau gorau’r ddinas o ran hygyrchedd.  Cofiwch, dim ond detholiad bach iawn o’r golygfeydd a’r gweithgareddau sydd gan Gaerdydd i’w cynnig yw hwn felly peidiwch ag anghofio edrych ar y wefan am fwy o ysbrydoliaeth!

DIWRNOD 1

10:00 Ymweld â Pharc Bute

 

Does dim byd yn well nag ymweliad hamddenol â Pharc hyfryd Bute i roi dechrau da i ddiwrnod! Mae ynddo ardal helaeth o barcdir aeddfed yng nghanol dinas Caerdydd, gyda nifer o nodweddion chwarae naturiol, canolfan addysg a chyfoeth o arddwriaeth a bywyd gwyllt diddorol.
Beth am egwyl goffi a thamaid i’w fwyta yng Nghaffi’r Ardd Gudd, un o’r tri busnes annibynnol sy’n hyrwyddo cynnyrch lleol?

12:00 Taith Dywys yn Stadiwm Principality

Heol y Porth, Caerdydd CF10 1NS

Does yr un daith i Gaerdydd yn gyflawn heb o leiaf un gweithgaredd yn gysylltiedig â rygbi. Dyma gyfle gwych i weld sut mae’r stadiwm 74,000 sedd a chartref Tîm Rygbi Cymru yn gweithio. Ymunwch â thywysydd profiadol a gwybodus ac ymweld â phob lefel o’r stadiwm gan gynnwys Ystafell Gynadledda’r Wasg ac Ystafell Lletygarwch swyddogol y Bobl Bwysig Iawn.

15:00 Cyrraedd Gwesty’r Marriott

Lôn y Felin, CF10 1EZ

Mae Gwesty’r Marriott yn gyfleus ac yn soffistigedig. Mae mewn lleoliad delfrydol, ar drothwy Lôn y Felin, un o strydoedd mwyaf poblogaidd Caerdydd ar gyfer bwyta. Gydag ystafelloedd smart, canolfan ffitrwydd a bwyty gwych sy’n gweini prydau lleol mae ganddo bopeth sydd ei angen ar gyfer arhosiad gwych.

19:00 Mynd i gyngerdd yn Arena Motorpoint Caerdydd

Heol Mary Ann, CF10 2EQ

Mae Arena Motorpoint yn lleoliad amlbwrpas ardderchog, yn cynnal cerddoriaeth fyw, sioeau comedi a digwyddiadau chwaraeon o’r radd flaenaf! Gyda lle i 5000 yn eistedd, mae’n denu enwau mawr, ond mae ganddi’r un awyrgylch â lleoliadau llai, mwy personol.
Beth sydd yn yr arena pan fyddwch chi’n ymweld â Chaerdydd? Cofiwch gael cip ar yr amserlen.

DIWRNOD 2

10:00 Dysgwch y cyfan am hanes diwylliannol Cymru yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Heol Llanfihangel, CF5 6XB

Rydych chi wedi gweld Caerdydd fel y mae heddiw, felly beth am ddysgu am ei gorffennol? Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yw atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru ers blynyddoedd lawer. Mae’n rhoi cyfle i ymwelwyr archwilio hanes drwy fywydau bob dydd pobl ac i gael cip y tu mewn i adeiladau sydd wedi’u rhewi mewn amser. Mae’n agor y drws i hanes Cymru. Ewch i weld Ffermdy Abernodwydd neu Swyddfa Bost Blaen-waun, dim ond dau o’r adeiladau anhygoel sydd yno. Mae bwyty yno hefyd, a dau gaffi, ac ystafell de a hyd yn oed siop bysgod a sglodion os byddwch awydd bwyd.

14:00 Siopa yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant Dewi

Yr Ais, Canol y Ddinas

Mae siopau enwog y stryd fawr a dylunwyr nodedig o dan yr un to yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, felly boed yn chwilio am y dilledyn perffaith hwnnw ar gyfer eich wardrob neu am anrheg berffaith i rywun byddwch yn siŵr o ddod o hyd iddo! Ar y llaw arall, beth am fwyta yn un o’r bwytai niferus – mae rhywbeth at ddant pawb! Fel pe na bai hynny’n ddigon, mae’r Ganolfan hefyd yn gartref i Treetop Adventure Golf ar gyfer ymwelwyr mwy cystadleuol.

19:00 Cinio moethus yn Yr Ivy

Yr Ais, CF10 1GA

Mae’n bryd mynd yn ôl i Ganol y Ddinas a chael cinio ffarwel, a lle gwell i wneud mewn hynny mewn steil nag yn yr Ivy? Mae’r bwyty’n soffistigedig ond yn gyfeillgar ac mae’n cynnwys gwaith celf wedi ei ysbrydoli gan hanes, topograffeg a threftadaeth Cymru a Chaerdydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cynnig ar y prydau y mae Cymru wedi eu hysbrydoli, a’r coctels hefyd, fel ‘Bae Caerdydd’ a ‘Fflam y Ddraig’! Ac os ydych chi dal eisiau mwy, ac am i’r parti barhau, dyma ganllaw i fariau’r ddinas.