Neidio i'r prif gynnwys

BLWYDDYN GYFFROUS: Y PRIF DDIGWYDDIADAU SY’N DOD I GAERDYDD YN 2022

1. Stereophonics + Tom Jones + Catfish and the Bottlemen

Stadiwm Principality | 17 Mehefin 2022 – 18 Mehefin 2022

Mae un o fandiau byw gorau Prydain, y Stereophonics, wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd i Gymru ar gyfer sioe arbennig iawn “We’ll Keep A Welcome” – bydd y band o bedwar aml-blatinwm yn perfformio yn Stadiwm Principality Caerdydd ynghyd â gwesteion arbennig iawn, Tom Jones a Catfish and The Bottlemen.

 

2. Gŵyl Inside Out

Parc Bute | 1 Mai 2022

Rydym wrth ein bodd yn cael parti gyda chi ym Mharc Bute, ond rydym wedi cael hen ddigon o’r glaw. Felly rydym wedi gwneud y penderfyniad y bydd yr ŵyl nawr yn cael ei chynnal Ddydd Sul Gŵyl y Banc 1 Mai. Yr un lleoliad anhygoel, yr un ŵyl anhygoel, yr un wefr wallgo’. Newidiwch eich Wellington am eich sgidiau dawnsio, eich cotiau am eich festiau a’ch siwmperi am eich sbectol haul.

 

3. Ed Sheeran

Stadiwm Principality | 26 Mai 2022 – 27 Mai 2022

Mae Ed Sheeran yn dychwelyd i Stadiwm Principality am ddwy noson fel rhan o’i daith + – = ÷ x. Gan ddechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd Ed yn ymweld â lleoliadau ledled y DU, Iwerddon, Canol Ewrop a Sgandinafia cyn dychwelyd i Stadiwm Principality yn dilyn ei daith ‘Divide’ hynod lwyddiannus yn 2018 pan berfformiodd Ed am bedair noson yn y stadiwm i gyfanswm o 240,000 o gefnogwyr.

 

4. Lionel Richie

Castell Caerdydd | 2 Mehefin 2022

International superstar Lionel Richie has a discography of albums and singles that are second to none. His music is part of the fabric of pop music, in fact, Richie is one of only two songwriters in history to achieve the honour of having number one records for nine consecutive years. Lionel Richie’s Hello Tour involves a selection of well-known outdoor UK venues, including our own Cardiff Castle.

5. Depo yn y Castell gyda Rag’n’Bone Man

Castell Caerdydd | 26 – 28 Gorffennaf 2022

Bydd Rory Charles Graham, neu’r Rag’n’Bone Man fel y’i gelwir, yn arwain set nos Sadwrn yng Nghastell Caerdydd yr haf nesaf. Dilynir pob Nos Sadwrn lwyddiannus gyda DEPO yn y Castell â diwrnod llawn o hwyl i deuluoedd ar y Dydd Sul, gan wneud penwythnos o gerddoriaeth dda, bwyd da ac amser da.

 

6. IT20 Criced – Lloegr v De Affrica

Stadiwm Criced Morgannwg, Gerddi Sophia | 28 Gorffennaf 2022

Mynnwch eich sedd yng Ngerddi Sophia yr haf nesaf ar gyfer gornest IT20 epig rhwng Lloegr a De Affrica ddydd Iau, 28 Gorffennaf 2022. Mae Lloegr eto i’w gorchfygu yng ngemau IT20 yng Ngerddi Sophia, gan i’r tîm ennill pob un o’u hwyth gêm flaenorol yn y lleoliad. Y tro olaf i Loegr chwarae yn erbyn De Affrica mewn gornest IT20 yng Nghaerdydd oedd yn 2017 lle trechon nhw’r ymwelwyr o 19 rhediad o flaen torf lawn swnllyd.

 

7. Gŵyl Deyrnged CityJam

Castell Caerdydd | 30 Ebrill 2022 – 1 Mai 2022

Gŵyl deyrnged fyw gyntaf Caerdydd! Dyma 2 ddiwrnod llawn o gael eich diddanu i’r eithaf gan rai o’r artistiaid teyrngedau byw gorau yn y DU. Cynhelir yr ŵyl yng nghanol Caerdydd yn y Castell eiconig, felly byddwch yn barod am benwythnos gŵyl banc anhygoel! Cerddoriaeth wych, bwyd bar a stryd, mae’n ddigwyddiad nad ydych am ei golli!

 

8. Jess Glynne

Castell Caerdydd | 11 Mehefin 2022

Bydd un o artistiaid mwyaf llwyddiannus y DU, Jess Glynne, yn dod â’i brand bywiog o gerddoriaeth pop i safle cyngerdd awyr agored mwyaf hanesyddol ac ysblennydd Caerdydd gan ychwanegu at y rhestr hir o sioeau sydd wedi’u cynnal yno’n llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf.

 

9. Diana Ross

Castell Caerdydd | 10 Mehefin 2022

Yn un o’r artistiaid recordio a’r diddanwyr mwyaf llwyddiannus erioed, mae Diana Ross wedi llywio sain cerddoriaeth boblogaidd. Yn y 1960au hi oedd Brenhines Motown, gan arwain The Supremes i frig y siartiau gyda chaneuon fel Baby Love,  Stop! In the Name of Love ac You Keep Me Hangin’ On. Mae’r seren fyd-eang Diana Ross wedi ychwanegu dyddiad arall yng Nghastell hanesyddol Caerdydd yn rhan o’i thaith Haf 2022 ‘Thank You’, a hynny ddydd Gwener 10 Mehefin 2022.