Neidio i'r prif gynnwys

Seren Lloegr Tammy Beaumont a'r batiwr uchel ei barch Joe Clarke ymhlith enwau'r sêr sy'n anelu am Gaerdydd

Joe Clarke, Tom Banton ac Adam Zampa yn ymuno â thîm y dynion  

Tammy Beaumont i fod yn gapten y tîm y merched yng Ngerddi Sophia ysgwydd wrth ysgwydd â’r enillwyr Cwpan Byd Rachael Haynes ac Annabel Sutherland

Y Can Pelawd yn cyhoeddi mwy o weithgareddau ac opsiynau bwyd y tu mewn i’r cae ar gyfer cystadleuaeth 2022 

Cofrestrwch ar gyfer thehundred.com i fachu eich seddi heddiw!  

 

Tân Cymru’n cipio’r seren o fatiwr Joe Clarke fel eu dewis cyntaf yn yr Hundred Draft.

Mae tîm y dynion hefyd wedi cipio llofnod tri o sêr tramor yn y Drafft eleni, gan sicrhau’r troellwr o Awstralia Adam Zampa, yr ergydiwr mawr o Dde Affrica David Miller, a’r bowliwr cyflym o Bacistan, Naseem Shah. Bydd tîm cartref sy’n edrych yn go gryf yn cael ei gryfhau ymhellach gydag ail-arwyddo’r batiwr o Loegr a Gwlad yr Haf Tom Banton wrth i’r tîm geisio adeiladu ar eu hymgyrch gyntaf.

Mae Prif Hyfforddwr y tîm dynion Gary Kirsten hefyd wedi drafftio Sam Hain a Jacob Bethell i’r tîm, sef un o’r sêr wrth i Loegr gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd Dan 19 yr ICC yn gynharach eleni.

Yn nhîm y merched, mae’r fatwraig o Loegr Tammy Beaumont wedi ymuno â Thân Cymru mewn newid syfrdanol o dîm London Spirit, a bydd nawr yn gapten ar y tîm.

Bydd Rachael Haynes ac Annabel Sutherland o Awstralia yn ymuno â hi, yn ffres o ennill Cwpan y Byd i Fenywod yr ICC y penwythnos hwn, a byddant yn ymddangos ochr yn ochr â Hayley Matthews o India’r Gorllewin fel chwaraewyr tramor y timau. Cafodd Haynes Gwpan y Byd anhygoel gan orffen fel y sgoriwr ail uchaf yn hanes cystadleuaeth y merched.

Bydd cyn chwaraewyr rhyngwladol Lloegr Fran Wilson ac Alex Hartley hefyd yn teithio i Gaerdydd yr haf hwn, gan arwyddo o’r Oval Invincibles a’r Manchester Originals yn y drefn honno.

Mae’r ddau olaf sydd wedi eu harwyddo yn gweld Fi Morris yn ymuno o Southern Brave a Sarah Bryce o dîm y pencampwyr tro dwetha, yr Oval Invincibles.

Fe fyddan nhw’n ymuno â batwyr Lloegr Jonny Bairstow ac Ollie Pope yng Nghaerdydd wedi i’r ddau gael eu cadw gan y Tân Cymreig yn gynharach eleni, yn ogystal â’r capten Ben Duckett a orffennodd fel y sgoriwr ail uchaf yn y Can Pelawd y tymor diwethaf.

I gwblhau carfan y dynion, mae Jake Ball, Josh Cobb, Matt Critchley, Leus du Plooy a’r pâr o Swydd Gaerloyw Ryan Higgins a David Payne i gyd wedi’u cadw gan Brif Hyfforddwr y Dynion, Gary Kirsten.

Mae tocynnau ar gyfer Y Can Pelawd yn mynd ar werth heddiw i unrhyw un sydd wedi cofrestru yn thehundred.com.  Gall unrhyw un nad yw wedi cofrestru eto wneud hynny o hyd a chael mynediad ar unwaith.

Dwedodd Tammy Beaumont capten newydd menywod y Tân Cymreig,  “Rwy’ wedi fy nghyffroi’n fawr i fod yn arwain Tân Cymreig yr haf hwn. Roeddwn i wrth fy modd gyda London Spirit ond roedd y cyfle i fod yn gapten Tân Cymreig yn rhywbeth na allwn i ei wrthod. Mae cael pum enillydd Cwpan y Byd yn ein carfan yn dangos yr ansawdd sydd gennym, ac allwn ni ddim aros i fynd allan o flaen ein cefnogwyr anhygoel yng Nghaerdydd a rhoi sioe iddyn nhw.”

Meddai Joe Clarke, “Mae bod yn ail ddewis yn yr Hundred Drafft yn rhywbeth arbennig. Mae’n anrhydedd i mi fod Tân Cymreig wedi fy newis i ymuno â’u tîm nhw. Alla i ddim aros i fod yng Ngerddi Sophia yr haf hwn gan roi’r cyfan sydd gen i o flaen torf lawn. Mae seiliau tîm gwych gennym ac rydym am fod ar frig y tabl.”

 

Dwedodd Sanjay Patel sef Cyfarwyddwr Rheoli’r Can Pelawd, “Gyda llu o chwaraewyr penigamp wedi’u cadarnhau, bydd The Hundred yn sicrhau bod y cefnogwyr ar flaenau eu seddi gyda chwaraeon o’r radd flaenaf, yn ogystal â chynnig adloniant oddi ar y cae sy’n addas i deuluoedd. Yn y gystadleuaeth i fenywod mae gennym y chwaraewyr gorau o bob cwr o’r byd yn cymryd rhan gan gynnwys Meg Lanning, Beth Mooney a Sophie Devine ac rydym yn hyderus y byddwn yn gosod meincnod newydd ar gyfer gêm ddomestig y menywod.  Ar ochr y dynion, mae’n wych gweld cymysgedd o sêr tramor newydd fel Kieron Pollard ac Andre Russell ochr yn ochr â sêr sy’n dychwelyd fel Quinton de Kock a Sunil Narine.  Mae hefyd yn wych bod rhai o’r chwaraewyr pêl wen domestig gorau gan gynnwys Tom Banton a Joe Clarke wedi cael eu cydnabod a’u bachu’n gynnar. Mynnwch eich tocynnau ar gyfer The Hundred nawr fel na fyddwch chi’n colli allan.”

Bu’r Can Pelawd yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd a phobl ifanc yn arbennig yn ail-fyw’r gymysgedd o griced cyflym gyda cherddoriaeth ac adloniant teuluol oddi ar y cae fydd ond yn fwy ac yn well eleni.

 

Bydd Gerddi Sophia yn dod yn fyw gyda gweithgareddau newydd sy’n cynnig hyd yn oed mwy o hwyl i’r teulu cyfan ac amrywiaeth eang o gerddoriaeth wych yn gweithredu drwy’r bartneriaeth barhaus gyda BBC Music Introducing.  Bydd ail flwyddyn y Can Pelawd hefyd yn cynnig amrywiaeth newydd o nwyddau i gael y teulu oll yn gwisgo’r lliwiau Tân Cymreig llawn.

 

Bydd tîm dynion y Tân Cymreig yn dechrau ar eu hymgyrch yn y Ageas Bowl Ddydd Mercher 3 Awst yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth yn erbyn Southern Brave. Bydd y tîm wedyn yn croesawu’r Oval Invincibles yng Ngerddi Soffia Ddydd Sul 7 Awst.  Bydd y menywod yn dechrau’r Ddydd Sadwrn (13 Awst) mewn gêm ddwbl yn erbyn Birmingham Phoenix yng Ngerddi Soffia. Mae gêm gartref olaf y gystadleuaeth yn gweld y Tân Cymreig yn croesawu’r Northern Superchargers am gêm ddwbl Ddydd Gwener 26 Awst.

 

Tocynnau

Mynnwch eich sedd nawr fel nad ydych chi’n colli allan ar y digwyddiad chwaraeon ac adloniant yr haf hwn – mae unrhyw un wedi cofrestru ar gyfer www.thehundred.com yn gallu bachu eu seddi o heddiw ymlaen (5 Ebrill) gyda thocynnau’n mynd ar werth yn gyffredinol ar 20 Ebrill.

 

Mae The Hundred yn cynnig diwrnod allan fforddiadwy i’r teulu, gyda thocynnau Dan16 yn costio £5 ac am ddim i blant pump oed ac iau, ac mae stondinau sy’n addas i deuluoedd ym mhob cae.

 

Gwnewch yn siŵr nad ydych yn colli allan – mae tocynnau eisoes wedi bod yn gwerthu’n gyflym ar ôl i brynwyr y llynedd gael y cyfle cyntaf i gael eu seddi ar gyfer eleni.

 

  Chwaraewyr wedi’u Drafftio / Arwyddo 
Tîm Menywod Dynion
Tân Cymreig Tammy Beaumont (London Spirit)

Rachael Haynes (Oval Invincibles)

Annabel Sutherland (Trent Rockets)

Fran Wilson (Oval Invincibles)

Alex Hartley (Manchester Originals)

Fi Morris (Southern Brave)

Sarah Bryce (Oval Invincibles)

 

Joe Clarke (Manchester Originals)

Tom Banton

Adam Zampa (O – Birmingham Phoenix)

David Miller (O)

Naseem Shah (O)

Sam Hain

Jacob Bethell