Neidio i'r prif gynnwys

Cynigion y Gwanwyn gyda Sykes Holiday Cottages

Ydych chi’n chwilio am ddihangfa munud olaf y Gwanwyn hwn? Mae Sykes Holiday Cottages wedi casglu ambell gynnig gwych ynghyd i chi a’ch anwyliaid dros y misoedd nesaf. P’un a ydych chi’n chwilio am ysgubor cefn gwlad wedi ei hailwampio neu rywle iddo â lle i’r teulu i gyd, rydych chi’n siŵr o ddod o hyd iddo yma!

Lleoliad:  Pendeulwyn
Yn cysgu: 2
Pris: 4 noson o 10 Mehefin, gynt yn £925, bellach yn £729
Arbediad: £196

13 milltir yn unig o ganol Caerdydd, mae’r hen ysgubor hyfryd hon ar ei newydd wedd mewn safle delfrydol ym mhentref Pendeulwyn. Mae gan yr eiddo hwn olygfeydd cefn gwlad anhygoel a digon o gyfle i gerdded gerllaw, gan ei wneud yn berffaith ar gyfer pâr sy’n chwilio am encil gwledig. Y tu fewn, fe welwch lety cyfoes ynghyd â’r holl hanfodion sydd eu hangen ar gyfer arhosiad hunanarlwyo. Os ydych chi’n chwilio am hyd yn oed mwy o olygfeydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn crwydro’r llwybrau cerdded niferus yng Nghaerdydd hefyd.

Lleoliad: Pont-y-clun
Yn cysgu: 4
Pris: 7 noson o 27 Mai, gynt yn £1211, bellach yn £827
Arbediad: £384

Mae Woodpecker Barn yn fan delfrydol i’r teulu.  Mae’r ysgubor maen hon â lle i bedwar o bobl gysgu, gyda’r opsiwn i’w harchebu gyda Nuthatch Barn, gyda lle i chwech o bobl gysgu rhwng y ddwy ysgubor.  Mae’r eiddo’n gartref i lawnt fawr sy’n gwneud lle gwych i’r rhai bach a’ch cŵn chwarae, ac mae’r gofod byw cynllun agored yn lle hyfryd i dreulio amser o ansawdd. Er bod digon o antur ar garreg eich drws, mae gorsaf drenau hefyd gerllaw, yn rhoi’r opsiwn i chi archwilio’r ardal gyfagos yn rhwydd.

Lleoliad:  Llanhenwg
Yn cysgu: 20
Pris: 7 noson o 10 Mehefin, gynt yn £4086, bellach yn £3159
Arbediad: £927

Mae’r llety mawr hwn, Woodbank, ychydig y tu allan i Gaerdydd, yn Llanhenwg.  Mae’r eiddo hwn yn ddewis gwych ar gyfer grŵp mawr o ffrindiau a theulu, gydag golygfeydd hardd o’i amgylch a’r tu mewn yr un mor drawiadol. Yn edrych dros Afon Wysg a Gwesty’r Celtic Manor (gyferbyn â chwrs Cwpan Ryder 2010), gydag 20 erw o dir i’w archwilio, mae digon i’ch cyffroi. Mae’r eiddo moethus hwn yn ganolfan wych ar gyfer darganfod Casnewydd a’r tu hwnt.

Lleoliad: Croesyceiliog
Yn cysgu: 5
Pris: 7 noson o 20 Mai, gynt yn £732, bellach yn £478
Arbediad: £254

Yn swatio yn maestref Croesyceiliog mae Glebe Farm Cottage.  Mae’r eiddo hwn mewn man delfrydol i’r sawl sy’n chwilio am ddihangfa ddelfrydol, gyda digon o gyfle i wylio bywyd gwyllt gan fod yr eiddo wedi’i leoli ar fferm y perchennog. I’r rhai sy’n chwilio am ychydig o gyffro, mae Canolfan Chwaraeon Dŵr Cronfa Ddŵr Llandegfedd gerllaw, lle gallwch roi cynnig ar chwaraeon dŵr fel hwylio, hwylfyrddio, cychod pŵer, padlfyrddio, canŵio, a physgota. Neu gorwedd yn ôl ymlacio wrth fwynhau’r profiad o’ch eiddo hunanarlwyo.

Lleoliad: Llandŵ
Yn cysgu: 4
Pris: 7 noson o 27 Mai, gynt yn £1013, bellach yn £822
Arbediad: £191

Mae Snowdrop Cottage yn eiddo hyfryd sy’n cynnig dihangfa gartrefol i grŵp o bedwar. Gyda’r cyfan ar y llawr gwaelod, mae’r cartref hwn yn ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o anghenion grŵp. Mae yma nodweddion unigryw fel trawstiau pren agored ac addurniadau trawiadol ynghyd ag amrywiaeth o gyfarpar hunanarlwyo defnyddiol. Yn Llandŵ, byddwch mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarganfod yr arfordir a chefn gwlad, a’r cyfan sydd gan yr ardal wych hon o Gymru i’w gynnig.


Mae hyd yn oed mwy o fythynnod ar gyfer eich gwyliau nesaf ar  Wefan Sykes Holiday Cottages, neu rhowch alwad i ni heddiw ar 01244356666 i ddarganfod eich encil nesaf yn ne Cymru.