Neidio i'r prif gynnwys

Beth sy’n Newydd yn St David's Dewi Sant

Mae canolfan siopa Dewi Sant, Caerdydd, yn fwy na dim ond cyrchfan manwerthu a hamdden 1.4 miliwn Troedfedd Sgwâr, dyma galon y ddinas ac mae’n chwarae rhan ganolog yn y gymuned.

A hithau’n un o’r prif gyrchfannau manwerthu yn y DU, mae canolfan Dewi Sant yn cwmpasu un rhan o dair o ganol prifddinas Cymru, gan sicrhau bod y ddinas yn parhau i feithrin ei henw da fel un o’r lleoliadau economaidd mwyaf poblogaidd yn y DU. Gyda’i chymuned fusnes gysylltiedig, lleoliadau chwaraeon rhyngwladol, cyfryngau arloesol a phoblogaeth sy’n tyfu’n gyflym, mae gan Gaerdydd ddyfodol disglair.  Mae canolfan Dewi Sant yn rhan fawr o’r dyfodol hwnnw.

Dros y 12 mis diwethaf, mae siopau sy’n cwmpasu mwy na 68,000 troedfedd sgwâr wedi’u hagor, eu hadnewyddu ac wedi symud i leoliadau mwy yng nghanolfan Dewi Sant, gan gynnwys sawl cwmni byd-eang sy’n dod i Gymru am y tro cyntaf. Ar flaen y gad, mae’r cwmni ffasiwn enfawr, ZARA, sydd wedi agor siop ranbarthol 36,500 troedfedd sgwâr yn y ganolfan, y cwmni cosmetig rhyngwladol blaenllaw Morphe, a Sky – sydd wedi lansio ei siop frics a morter gyntaf yng Nghymru.

Mae L’Occitane a The Body Shop wedi adnewyddu eu siopau ac yn dilyn agor siop y brand watshis technegol moethus o’r Swistir, Breitling, mae’r cwmni gemau teuluol Laings wedi ychwanegu at y cynnig moethus. Mae Laings wedi buddsoddi £3m yn eu siop boutique bresennol, gan dreblu ei maint a chyflwyno brandiau megis Patek Philippe a Rolex i westai Dewi Sant am y tro cyntaf y Gwanwyn hwn.

“ROEDDEM YN GWYBOD EIN BOD YN AWYDDUS I WELD CANOLFAN DEWI SANT YN CHWARAE RHAN ANNATOD YN EIN RHAGLEN FUDDSODDI GENEDLAETHOL HELAETH, AC MAE EHANGU EIN HYSTAFELL ARDDANGOS YNG NGHAERDYDD WEDI EIN GALLUOGI I GYNNIG PROFIAD NEWYDD I’N CLEIENTIAID, YN SEILIEDIG AR Y GWASANAETH EITHRIADOL Y MAE LAINGS YN ENWOG AMDANO.”

JOE WALSH, PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL LAINGS

Mae siopau ffasiwn a ffordd o fyw premiwm eraill sydd wedi agor yn ddiweddar yn cynnwys Hobbs a Rituals sydd wedi agor ei siop gyntaf yn y rhanbarth.

Mae’r tai bwytai yng nghanolfan Dewi Sant a Chaerdydd hefyd wedi gweld twf sylweddol gyda brandiau’n lansio ac yn buddsoddi yn y gyrchfan gan gynnwys yr arbenigwyr mewn bwyd Thai, Giggling Squid, sydd ar fin agor ei fwyty cyntaf yng Nghymru a’r Ivy Group sy’n ehangu drwy gynnig cysyniad newydd, Ivy Asia – bydd y ddau yn cael eu lansio yn ddiweddarach eleni.

“RWY’N CARU CAERDYDD, MAE’N LLE ANHYGOEL, SIOPA GWYCH, SÎN ADLONIANT CŴL A LLWYTH O FWYTAI GWYCH.  RYDYM YN AGOR EIN BWYTY CYNTAF YNG NGHYMRU MEWN LLEOLIAD FFANTASTIG AR YR AES  AC RYDYM YN EDRYCH YMLAEN YN ARW AT GYFLWYNO EIN BWYDLEN THAI FFRES A BLASUS I BOBL CAERDYDD AC YMWELWYR Â DEWI SANT.”

ANDY LAURILLARD, Rheolwr Gyfarwyddwr GIGGLING SQUID

Mae canolfan Dewi Sant yn rhan o’r gymuned ac yn ganolbwynt i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bob Nadolig, mae’r Apêl Teganau yn fenter flynyddol yn y ganolfan, sy’n rhoi degau o filoedd o anrhegion i elusennau ac achosion da eraill. Fel rhan o’u hymrwymiad hirdymor, mae canolfan Dewi Sant ar hyn o bryd yn cefnogi amrywiaeth o elusennau fel NSPCC a Hijinx, elusen ac un o brif gwmnïau theatr gynhwysol Ewrop sy’n creu perfformiadau gydag artistiaid anabl ac awtistig ar y llwyfan ac ar y sgrin yng Nghymru. Bydd cwmni theatr Hijinx yn cynnal ei ŵyl flynyddol ar yr Aes yn ystod mis Mehefin.  Mae’r elusennau eraill a gefnogir gan ganolfan Dewi Sant yn cynnwys Autistic Minds, Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru ar gyfer ymgyrch sydd wedi’i theilwra yn arbennig ar gyfer y gyrchfan hon.