Neidio i'r prif gynnwys

Mae Pride Cymru yn ôl gyda llu o sêr ar gyfer 2022

  • Mae Parêd Pride Cymru yn cychwyn penwythnos Gŵyl y Banc gyda pherfformiadau arbennig yng nghanol y ddinas
  • Ymhlith y prif artistiaid mae Melanie C, Boney M, Bimini ac Adele Roberts o Radio 1
  • Bydd ardal ieuenctid newydd yn cael ei lansio, ochr yn ochr â’r ardaloedd teuluol, ffydd a Pride Cymru Byddar fydd yn dychwelyd eleni

 

Mae Pride Cymru yn dychwelyd gyda bang y mis hwn gyda Melanie C o’r Spice Girls, Bimini, seren Drag Race, a’r seren Boney M yn arwain Prif Lwyfan Admiral.

 

Byddant yn ymuno â sêr eraill fel Victoria Stone, Adele Roberts, Booty Luv a Mary Mac a fydd yn cynnig llwyth o adloniant gŵyl ar draws y tri llwyfan ddydd Sadwrn 27 Awst a dydd Sul 28 Awst ar safle Neuadd y Ddinas.

 

Bydd dathliadau’r penwythnos yn dechrau gyda gorymdaith Pride Cymru, sy’n dathlu 50 mlynedd ers yr orymdaith Pride gyntaf erioed yn y DU. Bydd yr orymdaith, sydd wedi ei noddi gan S4C, yn gweld dros 15,000 o bobl yn cerdded y llwybr hanesyddol o ganolfan siopa’r Capitol ar hyd Heol y Frenhines. Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i wylio a dathlu’r holl gyfranogwyr.

 

Meddai Melanie C, un o brif berfformwyr ddydd Sadwrn, “Alla i ddim aros i ddychwelyd i Gymru a dathlu Pride Cymru eleni gyda chymunedau LHDTC+ Cymru. Mae perfformio yng Nghymru wastad wedi bod yn gofiadwy ac eleni, a hynny ar ben-blwydd mor bwysig, fydd hi yr un mor arbennig!”

 

Bydd Gŵyl Pride hefyd yn ymfalchïo mewn Ardal Ddawns gyda rhestr anhygoel o DJs, gan gynnwys Leonce, Alex Selio ac Esther Taylor, ochr yn ochr â’r Llwyfan Cymunedol fydd yn cynnal talent leol gyda pherfformiadau drag gan Adam All & Apple.

 

Yn newydd sbon ar gyfer 2022 mae’r Ardal Ieuenctid sy’n cael ei darparu mewn partneriaeth â Gwasanaethau Ieuenctid Cymru, Cymru sy’n Dda i Blant a grwpiau ieuenctid LHDTC+, gan gynnwys Impact LGBT+, Goodvibes a Constellation. Mae’r Ardal yn cynnwys gofod ymlacio yn ogystal â gemau a gweithgareddau.

 

Bydd yn ymuno â’r Ardal Deuluol boblogaidd, a noddir eleni gan Circle IT, sydd yn ei hôl ac yn fwy nag erioed, a bydd y ddwy ardal yn darparu amrywiaeth o adloniant a gweithgareddau drwy gydol y penwythnos.

 

Hefyd yn dychwelyd ar gyfer 2022 mae Pride Cymru Byddar, fydd yn cynnig adloniant bywiog dros y penwythnos ynghyd â’r Babell Ffydd, fydd yn darparu ardal aml-ffydd ac yn cynnal amrywiaeth o sgyrsiau a thrafodaethau panel.

 

Meddai Gian Molinu, Cadeirydd Pride Cymru “Ar ôl dwy flynedd o darfu, rydym yn falch iawn o fod yn dathlu Pride Cymru 2022 wyneb yn wyneb. 50 mlynedd ers yr orymdaith Pride gyntaf, rydym am ddathlu ein cymunedau, ond hefyd dangos faint sydd angen ei wneud o hyd mewn cymdeithas lle mae troseddau casineb yn erbyn y gymuned LHDTC+ ar gynnydd, gyda’n cymuned draws yn enwedig yn profi ymosodiadau.

 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod â phawb yn ôl at ei gilydd dros benwythnos Gŵyl y Banc ac ailgysylltu gyda’n gilydd.”

 

Mae’r orymdaith yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, gan ddechrau am 11am o Blas Windsor, ger Canolfan Siopa y Capitol. Bydd y llwybr llawn ar gael ar wefan Pride Cymru.

 

Bydd gatiau i Pride Cymru yn agor ar safle Neuadd y Ddinas o ganol dydd, ddydd Sadwrn 27 Awst, a dydd Sul 28 Awst.

 

Mae tocynnau mynediad safonol i oedolion yn £15 y dydd, gyda thocynnau plant (5-14 oed) yn £5 y dydd. Does dim angen i blant dan 5 oed brynu tocyn. Gallwch hefyd brynu tocynnau pecyn VIP am £30 y dydd.

 

I brynu eich tocynnau, gweld y rhestr lawn o berfformwyr, neu gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.pridecymru.com.