Neidio i'r prif gynnwys

GWR yn lansio tocyn hamdden Penwythnos Hir mewn ymateb i newid arferion cwsmeriaid

Mae cwmni Great Western Railway wedi ymateb i newid mewn arferion teithio cwsmeriaid drwy lansio tocyn Penwythnos Hir newydd sy’n cynnig arbedion o fwy na 60% i deithwyr hamdden.

Er bod newidiadau mewn patrymau gwaith wedi gweld teithiau cymudwyr yn gostwng o’i gymharu â lefelau cyn y pandemig, mae GWR wedi gweld cyfleoedd twf sylweddol mewn teithio hamdden.

Mae dyddiau Sul wedi dod yn arbennig o brysur, felly, i ryddhau gwasanaethau ar y diwrnod hwnnw, bydd cwsmeriaid sy’n defnyddio’r Penwythnos Hir yn gadael ar unrhyw adeg Ddydd Gwener neu Ddydd Sadwrn, ac yn dychwelyd ar unrhyw adeg Ddydd Llun.

Ar gael i’w harchebu ar GWR.com yn unig, bydd y Penwythnos Hir yn treialu ar lwybrau o Paddington Llundain i ardal ehangach Bryste a de Cymru i ddechrau.

Mae’r tocyn yn rhoi hyblygrwydd llawn ac yn cynnig arbedion o fwy na 60% o’i gymharu â’r tocynnau dychwelyd Unrhyw Bryd brig:

Gorsaf Gyrchfan Penwythnos Hir Dychwelyd Unrhyw Bryd Arbediad Brig
Chippenham £69 £195 65%
Bath Spa £79 £222.40 64%
Temple Meads Bryste £79 £238.80 67%
Caerdydd Canolog £99 £264.80 63%

Dwedodd Lee Edworthy, Cyfarwyddwr Marchnata Dros Dro GWR:

“Mae newid patrymau cwsmeriaid wedi rhoi cyfle clir i ni ehangu ein harlwy hamdden, yn enwedig ar ddyddiau Llun.

“Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â sefydliadau rheoli cyrchfannau fel Visit Bristol, Visit Bath a Chroeso Caerdydd er mwyn helpu i hyrwyddo’r Penwythnos Hir, ac maen nhw’n gefnogol iawn o’r tocyn hwn.

“Mae hwn yn cynnig arbedion gwych os ydych yn anelu am hoe yn y Gorllewin, naill ai i aros mewn gwesty neu wely a brecwast, neu ymweld â ffrindiau a theulu. Ac os oes angen i chi ddal i fyny ar yr e-byst gwaith yna ar y ffordd adref Ddydd Llun, gallwch wneud hynny o gysur y trên.”

Os bydd arbrawf y Penwythnos Hir yn profi’n llwyddiant, bydd yn cael ei ymestyn i rannau eraill o’r rhwydwaith. Mwy am y Penwythnos Hir yma.