Neidio i'r prif gynnwys

GWENNO, JAMES DEAN BRADFIELD, GRUFF RHYS, SINFONIA CYMRU A CHÔR GOSPEL TY YN YMUNO Â LLAIS 2022 LINE-UP

10 Hydref 2022

  • Bydd Gwenno, a enwebwyd am Wobr Mercury, yn dychwelyd i Llais ar gyfer Death Songbook, gan ymuno â Brett Anderson o Suede, Charles Hazlewood a Paraorchestra 
  • Bydd James Dean Bradfield, Gruff Rhys, Sinfonia Cymru, Cate Le Bon a House Gospel Choir i gyd yn ymuno â John Cale mewn perfformiad untro arbennig 
  • Bydd yr Ŵyl yn dechrau gyda seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, gyda pherfformiadau byw gan Adwaith, Buzzard Buzzard Buzzard, Death Method a mwy. Am y tro cyntaf erioed gall y cyhoedd brynu tocynnau i’r seremoni https://www.wmc.org.uk/cy/gwyl-y-llais/artistiaid/gwobr-gerddoriaeth-gymreig 
  • Rhaglen o gerddoriaeth am ddim gan gynnwys nosweithiau o gerddoriaeth Ddu, soul ac indie Cymraeg a nosweithiau gan Recordiau Noddfa a Race Council Cymru 
  • Arddangosfa am ddim, City of Sound, wedi’i churadu gan Hanes Miwsig Caerdydd, sy’n archwilio sut mae cerddoriaeth wedi dylanwadu ar brifddinas Cymru
  • Maent yn ymuno â’r artistiaid a gyhoeddwyd yn flaenorol, gan gynnwys Abdullah Ibrahim, Midlake, black midi, Pussy Riot a llawer mwy 
  • Llais (Gŵyl y Llais gynt) yw gŵyl gelfyddydol ryngwladol flynyddol Canolfan Mileniwm Cymru, sydd wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu pob un ohonom

Mae Canolfan Mileniwm Cymru heddiw wedi cyhoeddi lein-yp terfynol Llais 2022, gŵyl gelfyddydol ryngwladol flaenllaw y Ganolfan sy’n dychwelyd i Gaerdydd rhwng 26 a 30 Hydref 2022 gyda chyfres eclectig o berfformwyr rhyngwladol.

Bydd Gwenno, a enwebwyd am Wobr Mercury, yn ymuno â Brett Anderson o Suede, Charles Hazlewood a Paraorchestra ar gyfer y perfformiad cyntaf o flaen cynulleidfa fyw o Death Songbook. Bydd y perfformiad yn cynnwys fersiynau newydd sensitif o ganeuon am farwolaeth.

Mewn perfformiad arbennig i ddathlu ei ben-blwydd yn 80, bydd Gruff Rhys, Cate Le Bon, James Dean Bradfield, Sinfonia Cymru a House Gospel Choir yn ymuno â John Cale.

Bydd llwyfan Glanfa Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal tri diwrnod o gerddoriaeth am ddim sy’n hollol agored i’r cyhoedd. Gan ddechrau ar y nos Wener, bydd Race Council Cymru yn curadu noson o artistiaid Du talentog o Gymru gan gynnwys y grŵp hip-hop o Gaerdydd Afro Cluster a’r Dabs Calypso Trio. Bydd lein-yp soul y dydd Sadwrn yn cynnwys llais R&B llyfn y seren newydd PRITT a Nia Wyn sydd wedi cefnogi Paul Weller gynt. Ar y dydd Sul bydd y label recordiau indie eclectig Recordiau Noddfa yn cymryd yr awenau ac yn llwyfannu perfformiadau gan gynnwys Melin Melyn a 3 Hwr Doeth.

Drwy gydol yr ŵyl bydd yr arddangosfa City of Sound yn dangos cipolwg o eitemau gan archif Hanes Miwsig Caerdydd, gydag eitemau fel posteri a thocynnau’n dod yn fyw drwy gyfweliadau â phobl o’r byd cerddoriaeth yng Nghaerdydd. Mae uchafbwyntiau eraill y rhaglen am ddim yn cynnwys trafodaeth am y frwydr dros leoliadau cerddoriaeth annibynnol, cyfleoedd i bobl ifanc gael profiadau creadigol ymarferol a pherfformiad gan Kara Jackson, cyn-National Youth Poet Laureate yr Unol Daleithiau.

Bydd y grŵp pync-roc eiconig o Rwsia Pussy Riot yn dod â’u sioe arobryn Riot Days i’r ŵyl, a bydd yr artist grime arloesol D Double E yn perfformio yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru gyda chefnogaeth rhai o’r artistiaid newydd gorau o bob cwr o Gymru. Bydd Cate Le Bon hefyd yn perfformio mewn gig unigol.

Hefyd yn ymddangos bydd y pianydd jazz enwog o Dde Affrica Abdullah Ibrahim, y rocwyr gwerin indie o Texas, Midlake, y band roc Saesneg black midi, y gantores Keeley Forsyth, y band wyth aelod arbrofol o Lundain caroline a’r grŵp seic-gwerin Tara Clerkin Trio.

Bydd yr ŵyl yn dechrau gyda seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig; gellir dadlau mai dyma ganolbwynt calendr y diwydiant yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr enwebeion yn ddiweddar ac maent yn cynnwys rhai o gyfranogwyr Llais – Gwenno a Cate Le Bon. Mae’r rhestr lawn o enwebeion ar gael yma: https://welshmusicprize.com/cy/. Bydd y seremoni, a fydd yn cael ei chyflwyno gan Sian Eleri o BBC Radio 1, yn cynnwys perfformiadau byw gan rai o’r enwebeion – Adwaith, Buzzard Buzzard Buzzard a Death Method, a gan dri enillydd y Wobr Trisgell – Aderyn, Minas a Sage Todz.

Rhwng perfformiadau, gall cynulleidfaoedd hefyd fwynhau profiadau realiti rhithwir a ffilm ymdrochol gan gynnwys In Pursuit of Repetitive Beats, un o’r digwyddiadau trawiadol a welwyd yn Ninas Diwylliant y DU Coventry y llynedd; FLIGHT gan Darkfield; a No Place Like (Flat) Holm.

Dros bum diwrnod, bydd Llais yn llenwi pob cwr a chornel o Ganolfan Mileniwm Cymru gyda rhaglen sydd wedi’i hysbrydoli gan yr offeryn sy’n cysylltu pob un ohonom – y llais. Bydd gwledd o ddewis i gynulleidfaoedd gydag amserlen lawn o gerddoriaeth fyw anhygoel, profiadau digidol ysbrydoledig a gweithdai a digwyddiadau am ddim.

Cynhaliwyd yr Ŵyl y Llais wreiddiol yn 2016 a 2018. Yn 2020 cyhoeddodd Canolfan Mileniwm Cymru ei bwriad i wneud yr ŵyl yn un flynyddol, ac er i ŵyl y flwyddyn honno gael ei chanslo, ym mis Tachwedd 2021 fe ddychwelodd gydag 20 o gyfranwyr o bob cwr o Gymru a’r byd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, Graeme Farrow: “Rydyn ni wedi llunio lein-yp gwych ar gyfer Llais eleni; o’r hen stejars i’r talentau newydd gorau, o Gymru a ledled y byd, o feirdd i Paraorchestra. Ac ar ben bob dim, rydyn ni’n hynod falch o groesawu’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig eiconig i’r ŵyl. Mae hynny’n teimlo fel y cyfuniad cerddorol perffaith.”

Mae tocynnau Llais bellach ar werth yn www.wmc.org.uk/cy/llais.