Neidio i'r prif gynnwys

Mae Dathliadau Unigryw Caerdydd 'Dinas Yr Arcêd' yn Dychwelyd yn Ystod Hanner Tymor mis Hydref

28 Medi 2022

Rhwng dydd Sadwrn 29 Hydref a dydd Gwener 4 Tachwedd, bydd Caerdydd – Dinas yr Arcedau – yn dod yn fyw gyda pherfformiadau arbennig, cynigion unigryw, teithiau cerdded, a gweithgareddau i’r teulu.

Yn ystod hanner tymor mis Hydref, bydd dathliad Caerdydd o’r arcedau eiconig yn dychwelyd i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019, gydag wythnos lawn o ddigwyddiadau, profiadau, cynigion unigryw, a dathliadau ledled canol y ddinas.

Yn ystod yr wythnos, bydd cyfres lawn o ddigwyddiadau a pherfformiadau am ddim i’r teulu cyfan eu mwynhau — gan gynnwys llwybr celf anifeiliaid ledled y ddinas, a fydd yn dod ag awdur lleol llyfr Jack Skivens’ Night of the Animal Wall a wal yr anifeiliaid enwog Castell Caerdydd yn fyw .

Wedi’i greu ar y cyd â’r cerflunydd Daniel J Lane, gwahoddir teuluoedd i fynd ar antur ledled Caerdydd i ddod o hyd i’r anifeiliaid sydd wedi dianc o dudalennau stori Jack Skivens.

Dywed y darlunydd a’r awdur Jack Skivens, a fydd hefyd yn cynnal cyfres o ddarlleniadau a gweithdai llyfrau plant yn ystod wythnos Dinas yr Arcêd :

“Roeddwn i bob amser wrth fy modd â wal yr anifeiliaid; pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n arfer dychmygu’r anifeiliaid yn dod yn fyw wrth i mi fynd heibio. Nawr, fel tad, roedd gwylio fy mhlant yn ei brofi — a gweld y byd trwy eu llygaid — wedi fy ysbrydoli i ddweud y stori.

“Rwyf am i’r llwybr celf ychwanegu ychydig o hud at bob dydd, ac annog teuluoedd i fynd allan a mwynhau’r ddinas gyda’i gilydd. Bydd darlleniadau’r llyfr yn gyfle gwych i adrodd straeon, ochr yn ochr ag artistiaid lleol eraill, a chael profiad ymarferol yn y gweithdai, a gobeithiaf y byddant yn ysbrydoli plant i greu eu straeon eu hunain.”

Mae Caerdydd wedi dod yn enwog am ei saith arcêd Fictoraidd ac Edwardaidd, sy’n gartref i dros 100 o gaffis, bariau a siopau annibynnol yng nghanol y ddinas. O fusnesau hirsefydlog i fentrau newydd, ni fu’r ddinas erioed yn lle mwy cyffrous i ymweld ag ef.

I adrodd y stori hon sy’n pontio’r cenedlaethau, bydd taith ffotograffiaeth ledled y ddinas ar waith drwy gydol yr wythnos, gan ddathlu hanes cyfoethog y brifddinas a straeon am y bobl sydd wedi bod yn berchen ar — a charu – busnesau hanesyddol Caerdydd.

Dywed Michael Chappell-Oates, y Rheolwr Cyffredinol yng Ngwesty Indigo:

“Mae Arcêd Dominions, gan gynnwys Hotel Indigo, Marco Pierre White Steakhouse a BUTE & Co Coffee House wrth ein bodd yn bod yn rhan o Wythnos Dinas yr Arcêd 2022. Mae ein gwesty boutique sydd â’i wreiddiau yn y gymuned, a’n tŷ coffi, yn arddangos y gorau o Gymru a phrofiadau lleol mewn cymdogaethau.

“Rydym yn falch o gefnogi Wythnos Dinas yr Arcêd gyda chynigion a gostyngiadau arbennig; rydym wrth ein bodd hefyd yn cynnal llwybr Cerfluniau Anifeiliaid yn Arcêd Dominions.  Gobeithio y cawn groesawu llawer o westeion gydol yr wythnos i gael blas ar drysorau cudd Arcêd Dominions.”

Bydd Wythnos Dinas yr Arcêd eleni yn lansio gyda dathliad Diwrnod Dinas yr Arcêd, yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad cyntaf — a ddenodd dros 200,000 o ymwelwyr ac a gynhyrchodd hwb o 60 y cant mewn gwerthiant i rai manwerthwyr – mae busnesau yn yr arcedau’n gobeithio y bydd dathliad eleni yn fwy nag erioed.

Dywedodd Carolyn Brownell, Cyfarwyddwr Cyswllt FOR Cardiff,

“Mae Caerdydd yn adnabyddus yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel Dinas yr Arcêd.  Ar ôl y pandemig, rydyn ni am ddod â thrigolion, gweithwyr, ac ymwelwyr nôl i ganol y ddinas i ddathlu’r hyn sy’n gwneud ein dinas yn wych, drwy gelf a diwylliant.

“Rydyn ni am barhau i gyfoethogi enw da Caerdydd yn genedlaethol fel cyrchfan unigryw ar gyfer profiad manwerthu annibynnol o ansawdd, ochr yn ochr â’r siopai cenedlaethol mwy a’r atyniadau poblogaidd.”

Dywedodd Rory Fleming, Rheolwr Canolfan Morgan Quarter,

“Mae’n wych gweld dathliadau’r Wythnos Dinas yr Arcêd yn dychwelyd yn llawn. Yn 2019, roedd cynnydd o chwech y cant yn nifer yr ymwelwyr ag Arcêd Morgan a’r Arcêd Brenhinol – roedd hyn yn drawiadol iawn, yn enwedig o gofio bod hynny’n gynnydd ar yr un penwythnos y flwyddyn flaenorol, pan oedd gêm rygbi ryngwladol yn cael ei chwarae yn y ddinas.

“Eleni, rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu miloedd o ymwelwyr yn ôl i gael blas o’r busnesau anhygoel sydd yn yr arcedau.”