Neidio i'r prif gynnwys

'Marchnad Nos Wener' yn y Farchnad dan do Hanesyddol

19 Hydref 2022

Bydd y ‘Farchnad Nos’ boblogaidd ym marchnad dan do hanesyddol Caerdydd yn dychwelyd ar gyfer digwyddiad untro nos Wener, gyda cherddoriaeth fyw ac amrywiaeth eclectig o fasnachwyr annibynnol.

Bydd y digwyddiad hwn, yn rhan o wythnos ‘Dinas yr Arcêd’ a fydd yn gweld mwy na thrideg pump o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws saith arcêd Fictoraidd ac Edwardaidd eiconig, yn cael ei gynnal rhwng 6pm a 9pm ar 4 Tachwedd a dyma fydd y ‘Farchnad Nos’ gyntaf i gael ei chynnal ar nos Wener.

Dywedodd Louise Thomas, rheolwr y farchnad: “Mae’n gyffrous agor ar nos Wener am y tro cyntaf. Gyda’r gerddoriaeth, yr holl stondinau bwyd arbennig a’r manwerthwyr unigryw sydd gennym yma, dylai fod yn dipyn o noson.

“Rydyn ni’n dal i gwblhau’r trefniadau ond rydyn ni’n gobeithio y bydd y rhan fwyaf o’r stondinwyr yn aros ar agor ac fe welwn ni lawer o bobl yn dod i mewn i brynu tamaid i fwyta, gwneud ychydig o siopa yn hwyr yn y nos a mwynhau’r awyrgylch.

“Mae’r digwyddiadau rydyn ni wedi’u cynnal yn y gorffennol wedi bod yn boblogaidd iawn ac roedden ni’n gobeithio cynnal mwy ohonynt dros yr haf, ond dyw’r amseru ddim cweit wedi bod yn iawn, felly mae’n dda bod yn ôl.”

Mae’r farchnad yn un o adeiladau nodedig mwyaf eiconig Caerdydd.  Wedi ei rhestru fel adeilad Gradd II*, fe’i hagorwyd ym mis Mai 1891 ac mae wedi’i lleoli ar safle hen farchnad ffermwyr a hefyd hen garchar Caerdydd, lle cafodd Dic Penderyn o Ferthyr ei grogi ym 1831.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Dinas yr Arcêd, ewch i:https://dinasyrarced.com/