Neidio i'r prif gynnwys

Sêr Gorau'r Byd Cabaret, yn Ymuno â Thalent Cymru am 'Castellana' Fel Rhan o Ŵyl Nadolig Castell Caerdydd

12 Hydref 2022

  • Bydd sioe syfrdanol newydd sbon yn cael ei chynnal mewn Spiegeltent fendigedig ar dir Castell Caerdydd rhwng 2 Rhagfyr 2022 a 1 Ionawr 2023
  • Ymhlith y perfformwyr mae’r actores a’r gantores o Gymru, Vikki Bebb; duwies bwrlésg Didi Derriere; perffomiwr syrcas Yann Leblanc; yr artist tân Angie Sylvia a Brett Rosengreen- y ‘cowboi noeth’
  • Ymhlith y bobl greadigol mae’r awdur o Abertawe Richard Hurford a chyfarwyddwr cerdd Cymru Nathan Jones yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwr arobryn Damian Cruden
  • Mae’r tocynnau ar werth nawr! www.thecastle.cymru

Mae sioe adloniant rhyfeddol newydd sbon yn dod i Gaerdydd fis Rhagfyr eleni, sy’n cynnwys rhestr anhygoel o berfformwyr o’r radd flaenaf a fydd yn synnu ac yn difyrru wrth iddyn nhw gyflwyno’r Noson Nadolig Allan orau. Mae’r perfformwyr yn cynnwys perfformiad o’r awyr sy’n herio disgyrchiant, perffomiwr cabaret gwych sy’n bwyta tân, jyglwr sy’n gweini diodydd, dyn cyhyrog sy’n troelli, a deuawd cydbwyso law wrth law, i enwi dim ond rhai.

Mae Castellana, un o dair sioe sy’n rhan o Ŵyl Nadolig Castell Caerdydd, yn gyfuniad gwefreiddiol o syrcas, bwrlésg a pherfformwyr cabaret gydag ychydig o gomedi a drygioni, gyda cherddoriaeth fyw. Mae’r stori wedi’i gosod ym myd hudolus Cymraeg cyfriniol Annwn, sy’n llawn dirgel a thyndra. Chwaraeir morwyn deg Castell Annwn – Ana – gan Vikki Bebb (Tiger Bay the Musical, Canolfan Mileniwm Cymru) gyda’i chariad o gomedïwr a chwaraeir gan Alex Phelps (CBeebies). Mae’r perfformiwr West End, Ian Stroughair (Chicago, Cats, Rent) yn chwarae rhan Meistr y Castell.

Dyma’r perfformwyr cabaret rhyngwladol sy’n perfformio yng Nghaerdydd, llawer am y tro cyntaf erioed:

Fancy Chance – The Hair Hanger; Brett Rosengreen – the Naked Cowboy; Angie Sylvia – The Fire Fox; Didi Derriere – the Burlesque Goddess; Florian Brooks – the Gentleman Juggler; Klodi & Yann – the Hand Balancers a Joe Keeley – The Flying Man.  Mae eu sgiliau celfydd a beiddgar yn mynd i fod yn syfrdanol i gynulleidfaoedd.

Mae’r tîm creadigol ar gyfer Castellana yn cynnwys cyn-Gyfarwyddwr Artistig  Rose Theatre Shakespeare yng Nghaer Efrog a chyn-Gyfarwyddwr Artistig Theatre Royal Caer Efrog Damian Cruden; Richard Hurford, y dramodydd theatr, radio a chelfyddydau’r awyr agored a anwyd yn Abertawe; a’r Cyfarwyddwr Cerdd ac arweinydd Cymreig Nathan Jones. Am fanylion bywgraffiad llawn ewch i https://www.thecastle.wales/castellana/cast-creatives/

Mae Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd yn atyniad adloniant newydd trawiadol sy’n cael ei lwyfannu y tu mewn i Spiegeltent hardd gyda 570 o seddau ar dir Castell Caerdydd.  Fe’i cynhyrchir gan y cwmni digwyddiadau byw o Gaerdydd, Live Under the Stars, a Jamboree Entertainment.  Mae Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd yn cyflwyno tair sioe anhygoel sy’n cynnig rhywbeth i bawb.  Ymhlith y sioeau mae’r Nutcracker gan  – y bale Nadolig gyda blas Cymreig; Santa’s Wish – antur gerddorol hudol newydd sbon i’r teulu cyfan; a Castellana.

Mae Gŵyl Nadolig Castell Caerdydd yn ychwanegiad arbennig i raglen bresennol Nadolig Caerdydd, sy’n cynnwys Gŵyl y Gaeaf Caerdydd, Y Nadolig ym Mharc Bute a Marchnad Nadolig Caerdydd. Mae wedi’i chreu a’i chynhyrchu gan Richard Perry a John Manders, sydd wedi cyfarwyddo Live under the Stars ar y cyd, y mae eu gwaith diweddaraf yn cynnwys Cyngerdd Dathlu Jiwbilî Castell Caerdydd, a chyfres cyngherddau Live Under the Stars.

Dywedodd Vikki Bebb:  “Dwi wrth fy modd yn cael perfformio fel Ana yn Castellana yng Nghastell Caerdydd – dafliad carreg o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle yr astudiais i. Alla i ddim aros i ddechrau ar y sioe anhygoel yma, gan berfformio ochr yn ochr â rhai o’r perfformwyr cabaret gorau o bob cwr o’r byd”.

Ychwanegodd y cynhyrchydd Richard Perry o Live Under the Stars, “Rydym y tu hwnt i gyffrous i ddod â sioe o’r fath radd flaenaf i Gaerdydd am ei pherfformiad cyntaf.  Bydd y cyfuniad o’r perfformwyr syfrdanol hyn a lleoliad agos-atoch hudolus y Spiegeltent coeth yn ei gwneud hi’n noson na fydd cynulleidfaoedd byth yn ei hanghofio.  Mae Castellana yn sioe hyfryd o ddrygionus a fydd yn eich goglais, yn eich difyrru, ac yn eich syfrdanu!”

Gellir lawrlwytho delweddau o berfformwyr Castellana yma

Am docynnau a rhagor o wybodaeth am www.thecastle.wales

Mae tocynnau’n amrywio o £24.50 i £44.50 ar gyfer seddau VIP ger y llwyfan, gyda thocynnau Bwth (o leiaf 6 o bobl) am £34.50. Mae Costau Archebu’n Daladwy

Mae’r lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn.  Anfonwch neges i’r tîm gydag unrhyw ofynion penodol.