Neidio i'r prif gynnwys

Llwybr Bara Sinsir i ychwanegu blas Nadoligaidd i Fae Caerdydd fis Rhagfyr eleni

Rydym wedi dechrau cyfri’r dyddiau nes y bydd Bae Caerdydd yn cael ei drawsnewid yn jamborî sinsir bywiog, pan fydd cerfluniau o ddanteithion sinsir yr Ŵyl yn ymddangos yn hoff leoedd pawb ar draws y Bae ym mis Rhagfyr a mis Ionawr.

Ymhen mis union, ar 1 Rhagfyr, caiff llwybr bara sinsir newydd sbon ei lansio, a fydd yn berffaith ar gyfer ymwelwyr sy’n chwilio am ffyrdd hwyliog, a rhad  o fynd i ysbryd y Nadolig.

Am y tro cyntaf eleni, mae sefydliadau ar draws Bae Caerdydd, o dan arweiniad Partneriaid y Glannau, Bae Caerdydd, yn ymuno â’i gilydd i gynnal y llwybr, pan fydd teulu o gymeriadau sinsir yn ymddangos o amgylch y lleoliad eiconig wrth y dŵr.

Bydd cyfanswm o naw cerflun sinsir ‘melys’ wedi’u gwasgaru o amgylch y Bae gyda sled sinsir yn camu ar lwyfan y Roald Dahl Plass. Mae’r Diwrnod Bara Sinsir yn y Bae hefyd wedi’i gynllunio ar gyfer 3 Rhagfyr pan wahoddir ymwelwyr i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau hwyliog i’r teulu’i gyd.

Yn ogystal â gallu tynnu lluniau gyda’r cymeriadau, mae ymwelwyr yn cael eu herio i gymryd rhan mewn cystadleuaeth syml am ddim sy’n gofyn iddynt sylwi ar y llythrennau sydd wedi’u cuddio ar bob un o’r cymeriadau, a’u dad-drefnu i ddod o hyd i air Nadoligaidd. Gellir cwblhau’r her yn Gymraeg neu Saesneg, un ai yn un o’r llyfrynnau sydd ar gael mewn lleoliadau sy’n cymryd rhan, neu ar-lein yn visitcardiffbay.info.

Bydd y wobr i’r buddugol yn cynnwys arhosiad dros nos ar gyfer teulu yng ngwesty Future Inns gyda brecwast, tocynnau sinema Everyman, bowlio deg i’r teulu yn Hollywood Bowl, a phryd o fwyd yn yr Hub Box.

Bydd y llwybr yn parhau o 1 Rhagfyr hyd 8 Ionawr, a chyflwynir y wobr ar ddiwedd y cyfnod hwn ac ar ôl i’r llwybr gau. Bydd gwobrau ar hap hefyd i bobl sy’n cyflwyno eu hunluniau drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r gwobrau, sy’n cael eu darparu gan amrywiaeth o bartneriaid, yn cynnwys tocynnau sinema yr Odeon, taith ar y cwch Princess Katharine, pryd o fwyd yn Volcano yng Nghanolfan y Ddraig Goch a rhagor.

Cefnogir y Llwybr Bara Sinsir gan y Red Dragon Centre, Awdurdod yr Harbwr, Crefft yn y Bae, y Senedd, Mermaid Quay, Gwesty Dewi Sant a’r Gyfnewidfa Lo.

Dywedodd Emma Constantinou, rheolwr marchnata y Red Dragon Centre: “Ar ôl ychydig o Nadoligau digon di-nod, rydym wrth ein boddau i fod yn ymuno â’n gilydd ar gyfer arlwy mor llawen ym Mae Caerdydd. Rydyn ni’n gwybod bod pethau’n anodd i lawer o deuluoedd ar hyn o bryd, felly roedden ni eisiau creu rhywbeth oedd yn cynnig digon hwyl ac am ddim y gallai unrhyw un ei fwynhau.”

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau Cyngor Caerdydd: “Manteisiodd tîm Awdurdod Harbwr Caerdydd ar unwaith ar y cyfle i fod yn rhan o’r Llwybr Bara Sinsir, mae’n rhychwantu cymaint o Fae Caerdydd a bydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld y gorau sydd gan yr ardal i’w gynnig. Mae’n argoeli y bydd y Nadolig yng Nghaerdydd yn eithaf arbennig, ac rydym yn gobeithio y bydd y llwybr yn helpu i ledaenu ychydig o swyn y Nadolig i deuluoedd dros gyfnod yr ŵyl.

I gael rhagor o wybodaeth am Y Red Dragon Centre ac amseroedd agor diweddaraf y lleoliadau, ewch i https://thereddragoncentre.co.uk/ neu dilynwch y Ganolfan ar Facebook.