Beth wyt ti'n edrych am?
PARTÏON NADOLIG YNG NGHAERDYDD
Mae’r Nadolig yn esgus perffaith i drefnu’r parti Nadoligaidd hir ddisgwyliedig hwn gyda’ch teulu, ffrindiau neu gydweithwyr .
Mae Croeso Caerdydd yn gwybod y gall dewis y lleoliad perffaith fod yn dipyn o her, felly rydym wedi llunio amrywiaeth o ddathliadau isod sy’n addas i grwpiau o bob maint a diddordeb.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o’r partïon sydd ar gynnig ar unrhyw gyfrif. Cymerwch olwg ar ein tudalennau Bwyta ac Yfed a Gweld a Gwneud am fwy o ysbrydoliaeth.
FLIGHT CLUB CAERDYDD
P’un a ydych chi’n ymuno â ni ar gyfer Dartiau Cymdeithasol, digwyddiad bythgofiadwy neu’n blasu un o’n pecynnau bwyd a diodydd Nadoligaidd, gallwn sicrhau y byddwch yn llawenhau ac yn gwirioni gyda hwyl yr ŵyl!
Gallwch archebu sesiwn Dartiau Cymdeithasol ar gyfer hyd at 37 o westeion yn eich oci lled-breifat eich hun. Mae’r pecynnau bwyd a diod wedi’u creu ar gyfer grwpiau o 10 neu fwy o bobl i roi’r cyfle perffaith i chi ddod at eich gilydd. Archebwch ar-lein yma.
Y PHILHARMONIC
Dewch i gael diod, bwyd a dawnsio yn lleoliad mwyaf eiconig Caerdydd a chartref Clwb 360. Wedi’i osod dros dri llawr, mae gan y Philharmonic rywbeth at ddant pawb.
Eleni, mae’r Philharmonic yn cynnig amrywiaeth o fwydlenni parod a bwffe i dynnu dŵr i’r dannedd – bydd rhywbeth i fodloni unrhyw fwytawyr ffyslyd yn y swyddfa. Archebwch ar-lein yma.
GWESTY’R CLAYTON
Mwynhewch ddathliadau 2022 yng Ngwesty’r Clayton moethus pedair seren
yng Nghaerdydd. Beth am fwynhau noson fythgofiadwy yn y cyfnod cyn y Nadolig gyda gwledd Nadoligaidd 3 chwrs arbennig ac adloniant.
Os byddai’n well gennych chi ddigwyddiad preifat, gallwch fwynhau eich ystafell partïon eich hun. Bydd eich cydlynydd digwyddiadau pwrpasol yn darparu’n unswydd ar gyfer holl ddewisiadau eich parti. Beth am wneud noson ohoni? Mae ystafell ddwbl safonol gyda gwely a brecwast ar gael o ddim ond £79. Archebwch ar-lein yma.
BWYTY CULLEY’S YNG NGWESTY’R EXCHANGE
THE CLUBHOUSE
Mae tymor yr ŵyl rownd y gornel ac mae’r amser i ddathlu wedi dechrau. Mae gan y Clubhouse deimlad y bydd Nadolig 2022 yn hynod arbennig.
Dathlwch amser mwyaf hudolus y flwyddyn gyda ni a mwynhewch ddetholiad o ffefrynnau tymhorol. Wedi’u haddurno i’r eithaf, mae’r lleoliadau pictiwrésg yn cynnig awyrgylch unigryw. Ymgollwch mewn cerddoriaeth fyw, mwynhewch ddiodydd Nadoligaidd a rhoi cynnig ar y bwydlenni blasus sy’n dod â hwyl yr ŵyl.
Cadwch y parti i fynd a gofyn am eich hoff gân i ddawnsio drwy gydol y noson gyda’n hartistiaid byw talentog. Archebwch ar-lein yma.
GWESTY’R ANGEL
Dechreuwch y parti gyda gwydraid o win pefriog wrth gyrraedd cyn eistedd i fwynhau bwydlen tri chwrs gwych wrth fwrdd wedi’i addurno ar gyfer y Nadolig.
Dewiswch o ddau becyn, safonol neu gynhwysol o ddiodydd os ydych chi’n chwilio am rywbeth arbennig iawn ar gyfer eich archeb. Bydd y DJ yn barod ac yn aros i ddathlu gyda chi tan oriau mân y bore gyda bariau ar agor tan 12:30am. Archebwch ar-lein yma.
PARK PLAZA
P’un a ydych chi’n cynllunio parti gwaith diwedd blwyddyn, neu’n cwrdd â ffrindiau a theulu, gadewch i Park Plaza Caerdydd eich helpu i greu atgofion gwirioneddol gofiadwy i chi’r Nadolig hwn.
Trwy gydol mis Rhagfyr, bydd y Park Plaza yn gweini eu Te Prynhawn Traddodiadol gyda naws Nadoligaidd. Bydd hwn yn cael ei weini yn ein Bwyty Laguna ac fel trît arbennig gallwch fwynhau wydraid o Siampên. Mwynhewch fwydlen 3 chwrs Nadoligaidd yn ein Cegin a Bar Laguna o 23 Tachwedd 2022. Rhagor o wybodaeth yma.
Ewch i’n gwefan i gael y diweddaraf am bopeth Nadoligaidd yng Nghaerdydd eleni.