Neidio i'r prif gynnwys

Mis Anhygoel Arall o Chwaraeon ac Adloniant i Gaerdydd Wrth i The Hundred Gyhoeddi Dyddiadau 2023

24 Ionawr 2023 


 

  • Bydd The Hundred yn dychwelyd ym mis Awst eleni pan fydd Gerddi Sophia yn cynnal pedair gornest ddwbl.
  • Bydd Tân Cymreig yn lansio’r twrnamaint yng Nghaerdydd nos Fercher 2 Awst
  • Disgwylir i Ornest Derfynol The Hundred gael ei chwarae ddydd Sul 27 Awst ym maes criced Lord’s
  • Gall cefnogwyr edrych ymlaen at dymor arall o griced dynion a merched o’r radd flaenaf yn dilyn twrnamaint digyffelyb 2022
  • Bydd partneriaeth The Hundred â BBC Music Introducing yn parhau i ddod â cherddoriaeth fyw a DJs o’r radd flaenaf mewn lleoliadau ar draws y wlad

 

Bydd The Hundred yn dychwelyd i Gaerdydd yn 2023, gan ddod â phedair wythnos o adloniant ysblennydd a chyffro criced dwys ar anterth yr haf. Ar ôl dwy flynedd hynod lwyddiannus, bydd y gystadleuaeth yn dechrau ddydd Mawrth 1 Awst, gan addo cyffro criced dynion a merched  gwefreiddiol, cerddoriaeth fyw ac amrywiaeth o adloniant addas i deuluoedd.

Bydd Caerdydd yn cynnal ei gêm gyntaf ddydd Mercher, 2 Awst, gyda thimau dynion a merched Tân Cymreig yn lansio eu cystadleuaeth yn erbyn Manchester Originals.

Daeth dros hanner miliwn o bobl i gemau yn ystod ail flwyddyn The Hundred yn 2022, gan gynnwys 271,000 yn gwylio gemau byw’r merched ar draws y gystadleuaeth, sef y nifer mwyaf erioed, a mwy o deuluoedd yn prynu tocynnau nag yn 2021. Yn ogystal â chriced o safon ryngwladol, roedd cefnogwyr yn gallu mwynhau perfformiadau cofiadwy gan restr amrywiol o artistiaid a DJs gan gynnwys y prif berfformwyr Bastille, Mace The Great ac Adwaith, diolch i bartneriaeth barhaus The Hundred â BBC Music Introducing.

Bydd cyfle cychwynnol, unigryw i brynu tocynnau rhwng 1 a 14 Mawrth i unrhyw un sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer The Hundred yn y gorffennol. Gall y rhai nad ydynt wedi mynd i gêm eto gofrestru ymlaen llaw yn thehundred.com ar gyfer mynediad â thocyn blaenoriaeth rhwng 5 a 18 Ebrill. Bydd tocynnau ar werth yn gyffredinol wedyn ar 20 Ebrill.  Mae tocynnau’n parhau i fod yn werth gwych am arian yn unol â phrisiau 2022, gyda phrisiau wedi’u pennu’n £5 i blant 6-15 oed, am ddim i blant pump oed ac iau, ac yn dechrau o £10 i oedolion.

Mae’r Hundred Eliminator, lle mae timau sy’n dod yn ail ac yn drydydd yn cystadlu am le yn yr ornest derfynol, wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn 26 Awst yn y Kia Oval. Bydd yr Ornest Derfynol ei hun yn cael ei chynnal ddydd Sul 27 Awst ym maes criced Lord’s.

Am y tro cyntaf eleni bydd cystadlaethau dynion a merched The Hundred yn cynnal proses ddethol. Y dyddiad y disgwylir cynnal proses ddethol The Hundred yw dydd Iau 2 Mawrth. Y diwrnod cau – y diwrnod y mae chwaraewyr a gedwir yn cael eu cadarnhau ar draws y ddwy gystadleuaeth – fydd dydd Iau 16 Chwefror.

Dywedodd y batiwr o Tân Cymreig a thîm Lloegr, Tammy Beaumont, ”Roedd hi’n anrhydedd bod yn gapten i Tân Cymreig ar gyfer 2022 a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fynd yn ôl i Gaerdydd eto yr haf yma. Roedd cefnogaeth y dorf yn wych yn 2022. Roedd yn rhoi hwb mawr i’r holl chwaraewyr i weld y gefnogaeth i griced merched ar draws y gystadleuaeth.”

Fe wnaeth dros 14.1 miliwn o bobl wylio cyffro’r The Hundred yn 2022 a bydd gemau unwaith eto yn cael eu darlledu’n fyw ar Sky Sports a sianeli darlledu a digidol y BBC trwy gydol y gystadleuaeth.

 

Find information on Welsh Fire games and fixtures on the Visit Cardiff events page.