Neidio i'r prif gynnwys

Y Cinio Dydd Sul Perffaith: Ble i dreulio dydd Sul yng Nghaerdydd

Os ydych chi’n ddigon ffodus i fod yng Nghaerdydd ar ddydd Sul, efallai y bydd ‘na gwestiwn yn chwarae ar eich meddwl: ble mae’r cinio dydd Sul perffaith? Mae’n ddelfrydol i’r rhai sy’n teimlo ychydig yn fregus o’r noson gynt, yn dod â phobl at ei gilydd ac yn cynnwys cynnyrch lleol o ansawdd.
O dwrci rhost neu gig eidion tyner i rost cnau blasus, dewch o hyd i beth sydd at eich dant yn rhai o lecynnau Cinio Dydd Sul gorau Caerdydd.

YN Y CANOL
Yng nghanol ein dinas, fe welwch ddigonedd o lefydd i lenwi’ch bol cyn darganfod atyniadau’r brifddinas.

1. The Welsh House
Wedi’i gefnogi gan bedwar o gyn-chwaraewyr rygbi Cymru a’r Llewod, mae’r lleoliad newydd hwn yng nghanol y ddinas yn cynnig bwyd safonol, cysurus o ffynonellau lleol Cymreig. Mwynhewch fola porc wedi’i rostio’n araf, ochr orau’r eidion, twrci Sir Benfro ac ysgwydd cig dafad ar blât rhannu i’r teulu, gyda’r holl lysiau wrth gwrs.

2. Daffodil
Gyda bwyd cain am bris rhesymol a gardd gudd hyfryd oddi ar Heol y Frenhines, mae’r Daffodil yn cynnig cinio dydd Sul o safon, gyda thato rhost mewn braster hwyaden, cennin wedi’u pobi â chaws mwg, llysiau tymhorol a grefi. Ymysg y prydau mae lwyn porc gyda chrofen a hanner cyw iâr wedi’i farineiddio mewn lemwn a theim.

3. Bar 44
Gydag ongl Sbaenaidd ar glasuron Prydeinig, blas yw ffocws y fwydlen yn y bar tapas hwn, sydd ag angerdd yn llifo trwy eu bwydlen fodern. Wedi’i ddylunio i’w rannu gan ddau, dewiswch rhwng cig eidion Henffordd a bola porc Duroc ar gyfer eich Cinio Dydd Sul, gyda blodfresych caws Manchego, tato rhost braster jamon a phwdin Swydd Efrog chorizo. Stecen seleriac yw’r seren o blith y dewisiadau llysieuol.

4. Potted Pig
Claddgell banc a drowyd yn fwyty a lolfa jin, yn gweini prydau Prydeinig modern, swmpus, blasus gyda gofal. Mae eu cinio dydd Sul yn cynnwys brisged cig eidion wedi’i frwysio a selsig Morgannwg, gyda thato rhost, dewis o lysiau, pwdin Swydd Efrog a grefi ‘go iawn’.

5. The Corner House
Tŷ rhydd moethus ond cartrefol yng nghanol y ddinas, gyda bwrlwm y brifddinas yn gefndir i’r bar. Mae’r fwydlen rhost yn cynnwys Deuawd Cig Eidion, gydag asen eidion heb yr asgwrn ochr yn ochr â syrlwyn aeddfed; Rhost Ffigys a Dolcelatte sy’n ddigon i dynnu dŵr o’r dannedd, a dewisiadau eraill, i gyd gyda thato rhost, llysiau wedi’u ffrio’n ysgafn, gwreiddlysiau, pwdin Swydd Efrog a grefi. I’r rhai sydd awydd rhywbeth bach gwahanol, mae bwydlen lawn hefyd ar gael gyda phrydau fel Linguine Corgimwch, Cranc a Chorizo.

6. The Moon
Does dim cig ar gael, ond bydd rhywbeth at ddant pawb mae’n siŵr. Mwynhewch eu Seitan Rhost gyda Selsig Perlysieuog, gyda chennin hufennog, brocoli caws, tato rhost, pwdin Swydd Efrog, pannas, moron wedi’u rhostio mewn masarn a grefi. Mae’r cyfan yn figan, a gydag opsiwn di-glwten hefyd ar gael wrth archebu ymlaen llaw, mwynhewch ginio rhost blasus sy’n bodloni unrhyw ofynion deietegol.

7. The Blue Bell
Mae un o’n tafarndai hynaf, ar stepen drws Castell Caerdydd, wedi sefyll yma’n falch ers 1813. Gallwch ddisgwyl cinio dydd Sul twymgalon a digon rhad, wedi’i weini gan staff cyfeillgar mewn tafarn draddodiadol Gymreig. Dewiswch Gig Eidion Rhost neu Hanner Cyw Iâr sy’n dod gyda thato rhost, cennin pôb, pannas mêl Cymreig a’r holl lysiau arferol.

YMHELLACH I FFWRDD
Mae llawer mwy i Gaerdydd na chanol y ddinas, felly rydyn ni wedi mentro gam ymhellach i ddod o hyd i rai o drysorau ein cymdogaethau, gan gynnwys y poblogaidd Bontcanna, sydd wedi meithrin enw i’w hun fel ‘ardal fwyd’ sy’n cynnwys toreth o leoliadau annibynnol.

8. Brewhouse & Kitchen
Mewn lleoliad godidog yng Ngerddi Sophia, gyda theras to sy’n wych ar gyfer gwylio’r byd a’i bethau, mae B&K, tafarn sy’n cynnig bwyd a chwrw crefft, yn cyflawni sawl swyddogaeth. Ymhlith yr uchafbwyntiau ar fwydlen y Sul mae hanner cyw iâr wedi’i goginio mewn cwrw Prydeinig, parsel ffilo gwrd cnau menyn a ffacbys a rhost tri chig – pob un wedi’i weini â digon o dato rhost, llysiau tymhorol, pwdin Swydd Efrog cartref a grefi go iawn.

9. The Pontcanna Inn
Yn lleoliad clyd wrth galon Heol y Gadeirlan, mae’r dafarn hon ag ystafelloedd wedi meithrin enw da am fwyd cysurlon o safon. Ymhlith uchafbwyntiau eu bwydlen rost mae Coes Cig Oen neu Welington Madarch a Chashiw, y ddau wedi eu gweini gyda thato rhost, yr holl lysiau, pwdin Swydd Efrog a grefi gwin coch. Neu rhowch gynnig ar un o’u prydau Dydd Sul eraill, fel y Byrgyr Cyw Iâr Coreaidd gyda sglodion a cholslo.

10. The Cricketers
Gan addo’r croeso cynhesaf ym Mhontcanna, mae’r dafarn a’r bwyty yma’n adnabyddus am eu prydau o safon a’u cwrw amrywiol. Mae eu bwrdd rhannu rhost yn berffaith ar gyfer cyplau, gyda thriawd o gig, amrywiaeth o lysiau, selsig mewn bacwn, pwdin Swydd Efrog a grefi.

11. Plymouth Arms
Wedi’i leoli mewn pentref sy’n fwy enwog am ei amgueddfa awyr agored, mae’r Plymouth yn cynnig naws tafarn wledig, dafliad carreg o’r ddinas. Yn lle delfrydol i fwynhau cinio dydd Sul gyda golygfa, mae eu bwydlen yn cynnwys Brest Twrci gyda briwsion bacwn masarn, Rhost Llysiau Melys â hadau pwmpen ynghyd â dewisiadau eraill, gan gynnwys stecen asen 10 owns gyda sglodion wedi’u coginio deirgwaith a winwns wedi’u ffrio yn y dull deheuol.

12. Quill & Quote yn y Thackeray
Ychydig filltiroedd i’r dwyrain o’r canol, mae’r dafarn hon yn canolbwyntio ar brofiad gwledda cain ond hamddenol ar y Sul. Gyda bwydlen â rhywbeth at ddant pawb, mae Bola Porc wedi’i Rostio’n Araf a Thwrci Rhost ar gael ochr yn ochr â ffa, moron, pannas, bresych, tato rhost a phwdin Swydd Efrog. Mae eu Ffiled Penfras â saws persli, llysiau a thato newydd hefyd yn ddigon i ddod â dŵr o’r dannedd.
EISIAU POPETH, NAWR
Os ydych chi nawr yn llwglyd ar ôl darllen yr uchod, beth am ginio dydd Sul canol wythnos?

13. Coopers Carvery
Wrth yrru i Gaerdydd o’r gorllewin, fe ddewch ar draws Coopers, tafarn glyd sy’n cynnig cinio rhost a phrydau tafarn clasurol trwy gydol yr wythnos. Cewch wledd o Gig Eidion, Twrci neu Ham Mêl Rhost (neu’r tri) ar blât bach, canolig neu fawr (eich dewis chi) – a helpwch eich hun i gennin, moron, tato stwnsh, pys, stwffin, grefi a sawsiau.

14. Cedar Tree Farm
Ochr yn ochr â’u bwydlen drawiadol, i’r rhai sydd awydd pei, pryd sy’n seiliedig ar blanhigion neu glasur tafarnaidd arall – ar ddydd Sul neu drwy gydol yr wythnos – mae’r cerfdy hwn yn cynnig triawd o gig wedi’i goginio’n araf ar blât bach, mawr neu enfawr, gyda phwdin Swydd Efrog ysgafn, tato rhost crensiog, a detholiad o lysiau, grefi a sawsiau.