Beth wyt ti'n edrych am?
Creu Crefftus: Tai Tap Cwrw Crefft Caerdydd
16 Ionawr 2023
Dewch i adnabod yr olygfa cwrw crefft yn ein prifddinas.
Beth yw Tryanuary?
Wedi’i sefydlu yn 2015, ymgyrch genedlaethol yw ‘Tryanuary’ sy’n ceisio ennyn cefnogaeth i’r diwydiant cwrw drwy gydol mis Ionawr.
Mae Caerdydd ar frig y don yn y chwyldro cwrw crefft. Mae’n ymddangos bod gennym farrau a bragdai newydd yn dod i’r amlwg drwy’r amser. Mae’n newyddion gwych i bobl sydd, yn debyg i ni, yn dwlu ar roi cynnig ar rywbeth newydd a gwahanol ar daith i’r dafarn.
Fodd bynnag, gall y pen mawr ar ôl y Nadolig arwain at lawer ohonom yn aros gartref. Bydd rhai hyd yn oed yn rhoi’r gorau i yfed yn gyfan gwbl. Mis Ionawr Sych. Gall y geiriau hyn beri i’n pennau, ein hafu a waledau deimlo ychydig yn hapusach yr adeg hon o’r flwyddyn. Ar gyfer ein tafarndai a bragwyr lleol fodd bynnag, mae’n stori wahanol.
Felly, yma yn Croeso Caerdydd, rydym yn eich hannog i ddiosg hualau Mis Ionawr Sych. Yn hytrach nag eich gwahardd chi eich hun, beth am gofleidio Tryanuary a gwneud eich rhan i gefnogi sîn cwrw ffyniannus Caerdydd?
Canol y Ddinas
BrewDog
Y bar diweddaraf yn y ‘chwarter cwrw’ yw Brewdog. Mae’r steil yn amrywio o’r dinesig i ffasiwn syml myfyrwyr – meddyliwch am friciau agored, pren wedi’i adfer a byrddau o gerrig noeth. Mae’r bar yn un canolog ar Heol y Porth, gyferbyn â Stadiwm y Mileniwm. Maent yn gweini ystod eang o gwrw preswyl a rhai gwestai ar ddrafft. Rydym yn argymell yr holl gwrw sy’n cael ei gynnig o’r micro-fragdy Cymreig Crafty Devil.
Lleoliad: 31 Heol y Porth, Caerdydd, CF10 1EH
Zerodegrees
Mae Zerodegrees yn bragu eu chwe chwrw craidd ar y safle ac yn eu gweini’n syth o’r tanc, heb unrhyw ychwanegion nag unrhyw beth i amharu ar y diod, gan gynnig cwrw newydd arbennig i nifer cyfyngedig bob mis. Maen nhw hefyd yn gwneud amrywiaeth o pizzas sy’n dod â dŵr i’r dannedd, a’u pobi mewn munudau mewn popty wedi’u tanio gan goed.
Lleoliad: 27 Heol y Porth, Caerdydd, CF10 1DD
Tiny Rebel
Os ydych yn chwilio am fersiwn leol o gwrw crefft cyfoes, ewch i Tiny Rebel. Yn eiddo i sêr bragu Casnewydd, mae’r bar hwn yn encil modern, hwyr y nos i’r rhai sy’n caru cwrw. Yn ymestyn dros ddau lawr mewn hen adeilad mawreddog, mae’n cynnal gwyliau cwrw bach yn rheolaidd, sesiynau cymryd tapiau drosodd, clwb cwrw cartref lleol ac, wrth gwrs, mae’n gwerthu llawer o gwrw gwych.
Lleoliad: 25 Heol y Porth, Caerdydd, CF10 1DD
The City Arms
Wedi’i adeiladu yn y 1800au efallai bod y City Arms yn hen ond mae’n dal ei thir o hyd yn erbyn yr holl rai diweddarach; enillodd bleidlais Tafarn orau Caerdydd gan CAMRA yn 2012. Dafliad carreg o Stadiwm Principality a Pharc yr Arfau Caerdydd, mae’r cawr hwn ymysg lleoedd yfed canol y ddinas yn cael ei werthfawrogi gan ddilynwyr chwaraeon, myfyrwyr a phobl broffesiynol fel ei gilydd.
Lleoliad: 10-12 Stryd y Cei, Caerdydd, CF10 1EA
Head of Steam
Yr Head of Steam yw lleoliad cyntaf Bragdy Cameron yng Nghymru a bydd yn gweini cwrw lleol a chwrw o ledled y DU, yn ogystal â choctels cwrw, casgenni crefft sy’n cylchdroi, gwinoedd, gwirodydd a diodydd ysgafn. Yn y dafarn grefft hon, gallwch gael eich diod a’i bwyta hefyd, gan fod eitemau ar y fwydlen sy’n defnyddio cwrw o’r bar yn y cynhwysion, megis y Byrgyr ‘Full Head of Steam’ a wneir gyda’i gwrw Röad Crew ei hun.
Lleoliad: 18-19 Stryd yr Eglwys, Caerdydd, CF10 1BG
Scaredy Cats
Mae’r tîm y tu ôl i far poblogaidd Bub’s Bar, a arferai fod ar Heol yr Eglwys, wedi agor bar caffi newydd, yn gweini coctêls, cwrw crefft, coffi a mwy. Bydd Scaredy Cats yn agor ar Stryd Working yn fuan ac rydym wedi cael cipolwg y tu mewn i’r bar newydd sydd wedi’i adnewyddu gan y staff eu hunain.
Lleoliad: 16 Stryd Working, Caerdydd, CF10 1GN
Mad Dog Taproom
Bragdy a thŷ thap newydd sbon yng nghanol y ddinas sy’n arddangos 10 math o gwrw ffres a blasus Mad Dog. Ochr yn ochr ag ambell i gwrw gwadd, maent hefyd yn gweini gwinoedd o safon, diodydd ysgafn a bwyd blasus.
Peidiwch â cholli’r cyfle i brynu caniau i fynd i ffwrdd gyda chi yn uniongyrchol o’u siop bragdy ar y safle.
Lleoliad: 17-19 Stryd y Castell, Caerdydd CF10 1BS
Glan-yr-Afon a Grangetown
DEPOT
Mewn hen warws 22,000 troedfedd sgwâr ynghanol y ddinas, DEPOT oedd y cyntaf i gynnig lleoliad bwyd stryd dan do, parhaol, i bobl Caerdydd, ac mae’r sesiwn Bwyd Stryd Cymdeithasol wythnosol bellach yn digwydd bob dydd Sadwrn drwy gydol y flwyddyn. O lansio clwb speakeasy cudd dros dro, i gynnal gŵyl gwrw annibynnol cyntaf Cymru, mae DEPOT yn parhau i ddatblygu, gan ddod â digwyddiadau newydd a gwreiddiol i’r ddinas ac ennill ei blwyf fel Y lle i fynd am noson allan go wahanol.
Lleoliad: Williams Way, Arglawdd Curran, Caerdydd, CF10 5DY
Pontcanna
PIPES
Yr ardd gwrw berffaith! Sefydlwyd Bragdy Pipes Artisan yn 2008 ac mae’n bragu ei gwrw crefft ei hun y gallwch ei fwynhau yn yr heulwen ar y safle, neu drwy fynd â photeli o’ch hoff IPA i’w mwynhau gartref! Cofiwch, mae pob cwrw’n gwbl naturiol ac yn addas i figaniaid.
Lleoliad: 183a Heol y Brenin, Caerdydd CF11 9DF
Brewhouse & Kitchen
Tafarn fragu a gardd gwrw, sydd wedi’i leoli yng Ngerddi Sophia, sydd mewn lleoliad delfrydol y drws nesaf i Gae Criced Morgannwg a Pharc Carafanau Caerdydd. Gyda chwrw yn cael eu bragu ar y safle, ynghyd â chwrw gwadd, mae B+K hefyd yn cynnig diwrnod profiad bragdy yn ogystal phrofiadau blasu cwrw, wisgi a jin.
Lleoliad: Brewhouse & Kitchen, Clos Sophia, Caerdydd CF11 9HW
Nawr mae gennych chi’r cyfan sydd angen i chi ei wybod am fragdai lleol Caerdydd. Gwnewch rywbeth da y hwn drwy gefnogi ein microfragdai a’n bariau annibynnol. Gallwch ein tagio yn eich hunluniau’n yfed peint, @CroesoCaerdydd #CroesoCaerdydd. Iechyd da! 🍻