Neidio i'r prif gynnwys

CANLLAW SUL Y MAMAU 2023

Dim cyfnodau cloi eleni felly dim esgusodion! Mae ein hanwyliaid yn haeddu cael eu sbwylio! Mam, mam-gu, modryb neu ofalwr maeth – mae gennym yr anrheg berffaith i bawb.

Cofiwch – mae Sul y Mamau ar ddydd Sul 27 Mawrth 2022. Darllenwch ein canllaw isod a dewiswch rywbeth y bydd hi’n ei garu.

Methu ymweld eleni? Peidiwch â phoeni, mae ‘na opsiynau dosbarthu. Gall hi fwynhau ei rhodd nawr, neu gallwch archebu rhodd profiad iddi ei defnyddio rywbryd eto.


 

PROFIADAU

TALEB RAFFTIO I’R TEULU YNG NGHANOLFAN DŴR GWYN RYNGWLADOL CAERDYDD

Rhowch brofiad iddi na fydd hi byth yn ei anghofio! Os yw hi’n berson anturus, sbwyliwch hi gyda diwrnod allan ar y dŵr gwyn gyda’r teulu cyfan. Hwyl i blant a phlant mawr fel ei gilydd! Mae DGRhC yn gostwng lefel a chyflymder y dŵr fel y gall ymwelwyr iau fwynhau rafftio ar y cwrs dŵr gwyn. Gweithgaredd delfrydol ar gyfer diwrnod allan pleserus gyda’r teulu, neu’r rhai sy’n chwilio am brofiad rafftio mwy hamddenol. Hyd at 6 o bobl mewn un rafft.

Prynwch daleb yma.

TOCYNNAU I DDIGWYDDIAD

Gan fod y Ddinas bellach wedi ailagor a mesurau diogelwch COVID19 wedi’u lleihau’n fawr, beth am fanteisio ar y cyfle i fynd â mam i ddigwyddiad eleni? Boed yn dwlu ar gerddoriaeth, neu gomedi, y celfyddydau neu chwaraeon, mae rhywbeth at ddant pawb ac mae ein tudalen Be Sy’ Mlaen yn llawn iawn!

Mynnwch bip yma.

TALEB PROFIAD GWNEUD JIN YN NISTYLLFA CASTELL HENSOL

Os yw’ch mam yn hoff o jin, beth am roi rhodd profiad gwneud jin yn Nistyllfa Castell Hensol iddi ar Sul y Mamau? Yn ystod ymweliad â’r ddistyllfa, cewch weld holl elfennau cyffrous y daith jin, a chyfle i greu eich jin personol eich hun gan ddefnyddio ein casgliad unigryw o gynhwysion botanegol.

Rhagor o wybodaeth yma.

 PROFIADAU SBA YNG NGWESTY’R PARK PLAZA

P’un a yw’n achlysur arbennig neu sypreis hyfryd, mae tocynnau rhodd gwesty’r Park Plaza yn rhodd berffaith i’r person arbennig yn eich bywyd. Dewiswch o un o’r profiadau Te Prynhawn niferus neu dewiswch Brofiad Sba fel yr anrheg foethus ddelfrydol.

Porwch drwy’r talebau rhodd yma.

PRYDAU BWYD ALLAN

SUL Y MAMAU YM MWYTY THOMAS

Rhowch gynnig ar yr unig de prynhawn ar thema Gymreig yng Nghaerdydd ar ddydd Sul 27 Mawrth 2022, rhwng 1pm-5pm. Yn llawn cynnyrch a blasau lleol hyfryd, cewch fwynhau frechdanau bach, sgons melys a sawrus, pice ar y mân, bara brith a danteithion melys eraill. Llymaid o de Cymreig a gwydraid o Prosecco i mam i ddathlu.

E-bostiwch thomas@futureinns.co.uk neu archebwch ar-lein yma.

 

MAMAU’N BWYTA AM DDIM YN THE COCONUT TREE

O ganol dydd tan 9pm ar Sul y Mamau gall mamau fwyta am ddim, gan fwynhau unrhyw dri phryd o brif fwydlen The Coconut Tree am ddim.  Mae’r cynnig yn ddilys ar gyfer pob archeb ymlaen llaw. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Rashinthe Rodrigo, “Rydyn ni yn y Coconut Tree yn meddwl bod teuluoedd yn bwysig iawn, a bod mamau – a phawb sy’n caru ac yn gofalu am eraill yn ddyddiol – yn arwyr drwy’r amser! Rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth i ddweud diolch iddyn nhw i gyd.”

Archebwch ar-lein yma.

SUL Y MAMAU YN Y PARK PLAZA

Gwnewch Sul y Mamau yn un i’w chofio eleni drwy sbwylio eich mam gyda Chinio Cwrs 3 blasus ym Mwyty Laguna neu De Prynhawn gwych yn y Park Suite.

Dysgwch fwy yma.

CINIO DYDD SUL YN Y PONTCANNA INN

Gadewch i ni ddathlu’r menywod anhygoel yn ein bywydau gyda chinio dydd Sul blasus a gwydraid o rywbeth hyfryd ar Sul y Mamau. Mae’r Pontcanna Inn ddim ond taith gerdded fer o Ganol y Ddinas a phrif atyniadau Caerdydd, felly beth am greu diwrnod i’w gofio?

Cadwch fwrdd nawr.